Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Ym mis Mai 2025, lansiais y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant – gweledigaeth uchelgeisiol a chydweithredol ar gyfer dyfodol diwylliant yng Nghymru.
Fel rhan ohoni, ymrwymais i ddatblygu rhaglen ariannu newydd i gryfhau ein cefnogaeth i'r sector lleol, gyda phwyslais ar Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Er mwyn mynd â'r maen i'r wal, yn y flwyddyn gyntaf rwyf wedi ymrwymo i wireddu pum dyhead sy'n hanfodol i adeiladu tirwedd ddiwylliannol ffyniannus, gynhwysol a gwydn yng Nghymru:
- A1: Mae diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol.
- A4: Mae diwylliant yn adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc, ac yn cryfhau’r cysylltiad rhwng y cenedlaethau
- A11: Mae ein treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn cael ei chofnodi a’i chefnogi i ffynnu.
- A15: Mae’r sector diwylliant yng Nghymru yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli, gyda gweithlu proffesiynol a medrus
- A16: Mae’r sector diwylliant yn dangos arweinyddiaeth a chydweithio yn ei ddulliau gweithredu ar gyfer datblygu cynaliadwy, meithrin gwydnwch, a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod yn lansio cynllun grant refeniw newydd: Cymorth Lleol Estynedig i’r Sector Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd. Bydd y cynllun yn darparu cyllid refeniw hollbwysig i sefydliadau cymwys, gan eu helpu i feithrin y gallu a gwireddu'r dyheadau a ddisgrifir uchod, yn ogystal â chyfrannu at nodau llesiant ac ymrwymiadau eraill y Llywodraeth.
Rydym yn buddsoddi ychydig dros £2m ar draws blynyddoedd ariannol 2025-26 a 2026-27. Mae'r rhaglen newydd hon yn ategu mentrau eraill megis y Rhaglen Grantiau Cyfalaf Trawsnewid ac yn gam pwysig ymlaen i gefnogi ein sector lleol gyda chyllid refeniw.
Rydym yn annog awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau diwylliannol i weithio mewn partneriaeth i gyflwyno ceisiadau ar y cyd. Trwy gyfuno arbenigeddau, adnoddau a gwybodaeth leol, gall y partneriaethau hyn sicrhau canlyniadau mwy effeithiol a chynaliadwy i gymunedau ledled Cymru.
Mae'r cyfnod ymgeisio am grant ar agor tan 10am ddydd Llun, 29 Medi 2025.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
