Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau’r gronfa cymorth dewisol, wedi’u dadansoddi yn ôl oedran ac awdurdod lleol am y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Awst 2025.

Yn dilyn ein hadolygiad o sut rydym yn adrodd data'r gronfa cymorth dewisol, rydym wedi penderfynu cyhoeddi'r ystadegau hyn ddwywaith y flwyddyn, yn y gwanwyn a'r hydref, fel arfer yn cwmpasu'r chwe mis blaenorol. Nod y newid hwn yw gwella cywirdeb ffigurau cyhoeddedig, trwy leihau tebygolrwydd a maint y diwygiadau.

Ar gyfer y datganiad hwn, rydym yn cyhoeddi data ar gyfer y pum mis rhwng Ebrill ac Awst 2025 yn unigol ar StatsCymru. Mae'r cyfnod o bum mis yn eithriad er mwyn osgoi bwlch hir rhwng adroddiadau, tra byddwn yn addasu ein rhaglen waith ar gyfer sawl newid yr Hydref hwn.

Mae ein hadroddiad cryno yn cymharu'r pum mis newydd o ddata â'r cyfnod cyfatebol y llynedd. Sylwch fod hyn yn wahanol i'n hadroddiadau blaenorol a oedd yn cwmpasu tri mis, a dylai defnyddwyr ystyried hyn wrth wneud cymariaethau rhwng adroddiadau.

Bydd y datganiad nesaf yn cwmpasu Medi 2025 i Fawrth 2026, ac ar ôl hynny byddwn yn dilyn amserlen chwe mis.

Mae'r data yn y cyhoeddiad hwn wedi'i gyhoeddi ar fersiwn newydd o StatsCymru ar lefel fisol. Ni fydd y dudalen flaenorol StatsCymru yn cael ei diweddaru mwyach.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Richard Murphy

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.