Cyfarfod y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru: 2 Mai 2019
Cofnodion a phapurau ar gyfer cyfarfod Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru, 2 Mai 2019.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod, ac yn benodol estynnodd groeso cynnes i'r ddau aelod newydd Ashley Rogers o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru.
2. Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau y byddai newid yn yr aelod a oedd yn cynrychioli partneriaeth ranbarthol Gogledd Cymru yng ngoleuni ymddiswyddiad y Cyng. Shotton o Gyngor Sir y Fflint fis diwethaf. Byddai'r aelod newydd yn cael ei gadarnhau maes o law.
3. Mae rhestr lawn o'r rhai a fynychodd ac ymddiheuriadau yn Atodiad A o'r cofnodion hyn.
Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod, ac yn benodol estynnodd groeso cynnes i'r ddau aelod newydd Ashley Rogers o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru.
2. Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau y byddai newid yn yr aelod a oedd yn cynrychioli partneriaeth ranbarthol Gogledd Cymru yng ngoleuni ymddiswyddiad y Cyng. Shotton o Gyngor Sir y Fflint fis diwethaf. Byddai'r aelod newydd yn cael ei gadarnhau maes o law.
3. Mae rhestr lawn o'r rhai a fynychodd ac ymddiheuriadau yn Atodiad A o'r cofnodion hyn.
Diweddariad gan y Cadeirydd
5. Ategodd y Cadeirydd ddiben a sail resymegol y grŵp, er budd yr Aelodau newydd a’r eilyddion. Sefydlwyd y grŵp ar y cyd gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu cyngor i lywio trafodaethau ar draws Llywodraeth Cymru ar ddatblygu rhanbarthol ac fel fframwaith i lywio buddsoddiadau ledled Cymru, gan gynnwys disodli ein cronfeydd strwythurol a buddsoddi o’r UE.
6. Nid yw'n ymwneud â disodli arian yr UE yn unig. Mae'r gwaith yn rhan o'r ymagwedd at ddatblygu economaidd rhanbarthol a ddisgrifir o dan y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Gallai'r cynlluniau economaidd rhanbarthol a'r dull rhanbarthol a ddisgrifir o dan y Cynllun helpu i lywio cyfres o ffrydiau ariannu – gan gynnwys disodli cronfeydd yr UE. Mae'n bwysig dysgu gwersi o wahanol ddulliau er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yn gweithio'n iawn o'r cychwyn cyntaf.
7. Nododd y Cadeirydd y bydd yn rhoi adborth ar drafodaethau'r grŵp i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
8. Gwahoddodd y Cadeirydd Peter Ryland i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol mewn perthynas â Brexit a Chronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig y DU Roedd y cynnydd gyda Brexit wedi bod yn araf, gyda dyddiad cau Erthygl 50 wedi’i ymestyn bellach i 31 Hydref. Yn y cyfamser, roedd y cyfnod cyn-etholiad ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop bellach ar waith, sy'n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi'i chyfyngu o ran y cyhoeddiadau y gall eu gwneud yn ystod y cyfnod hwn.
9. Dywedodd Peter ei bod yn annhebygol y byddai ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar ddyluniad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei lansio'n fuan gan fod ymdrechion Gweinidogion y DU yn dal i ganolbwyntio ar faterion Brexit mewn perthynas ag Erthygl 50 a'r cytundeb tynnu'n ôl. Nid yw Llywodraeth y DU wedi trafod manylion y ddogfen â gweinyddiaethau datganoledig, gan godi pryderon sylweddol am y diffyg parch at ddatganoli er gwaethaf sawl sicrwydd y bydd yn cael ei barchu. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ei galwadau am gyllid newydd heb amodau, gan barchu cymwyseddau datganoledig a'r penderfyniadau sydd wedi'u gwneud yng Nghymru ers datganoli. Mae’r ansicrwydd parhaus yn Llundain yn annhebygol o leihau cyn hir, felly bydd angen i ni barhau i ddatblygu cynlluniau i Gymru tra'n cynnal deialog gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill.
10. Rhoddodd Peter ddiweddariad byr hefyd ar brosiect Llywodraeth Cymru gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i asesu systemau llywodraethu aml-lefel yng Nghymru a chefnogi gweithredu'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a threfniadau dilynol ar gyfer ein cronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi gan yr UE. Diolchwyd i'r Aelodau am eu cyfraniadau ysgrifenedig i geisiadau hyd yma a nodwyd y byddai gwaith maes ar gyfer y prosiect yn dechrau gydag ymweliad astudio y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd â Chymru ar yr wythnos yn dechrau 24 Mehefin. Bydd yr OECD yn cyfarfod â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag ystod o sefydliadau ledled Cymru. Estynnodd Peter y gwahoddiad i'r grŵp llywio gwrdd â'r OECD i ddysgu mwy am y prosiect a'r gwaith mewn llaw, gyda chroeso arbennig i’r Aelodau hynny sy'n ymwneud yn llai uniongyrchol â'r gwaith. Croesawodd yr Aelodau y gwahoddiad i roi sylwadau i'r OECD.
Cyflwyniad: Dadansoddiad economaidd-gymdeithasol
11. Cyflwynodd y Cadeirydd Jarlath Costello, pennaeth arfarnu economaidd a briffio economaidd Llywodraeth Cymru. Cyflwynodd Jarlath ddiweddariad ar waith cynnar ar gyfer dadansoddiad economaidd-gymdeithasol a fyddai'n cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad fframwaith ac amcanion buddsoddi yn y dyfodol. Nododd Jarlath fod hwn yn ddarlun cenedlaethol lefel uchel cychwynnol, gyda gwaith pellach yn yr arfaeth i edrych yn fanylach ar faterion a meysydd penodol.
12. Dywedodd yr Aelodau fod y cyflwyniad yn ddiddorol iawn a chododd nifer o gwestiynau ynghylch yr agenda ranbarthol ehangach y tu hwnt i ffiniau Cymru. Dywedodd un aelod y byddai'n ddefnyddiol canolbwyntio ar y sefyllfa yng Nghymru o ran y goblygiadau polisi a hefyd ar gyfer Nodau Llesiant a Ffyrdd o Weithio Cenedlaethau’r Dyfodol. Gofynnodd Aelod arall a oedd modd cynnwys tystiolaeth ynghylch yr ôl troed carbon, gydag aelod arall yn gwneud sylw ar annigonolrwydd defnyddio GYC fel metrig ar gyfer dyrannu a mesur llwyddiant buddsoddiadau.
13. Ychwanegodd Huw Morris fod cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno achos cryf dros yr hyn a oedd wedi'i gynllunio ym maes ?????, tra bod yr adroddiad 'Dyfodol Gwaith yng Nghymru' yn ddogfen gyfeirio ddefnyddiol ar lefelau sgiliau. Gofynnwyd i Huw a fyddai modd dosbarthu'r adroddiad i'r Aelodau.
14. Ymhlith y pwyntiau eraill a godwyd:
- Mae'r dadansoddiad cynnar hwn yn dadagregu GYC a chynhyrchiant, a allai arwain at y casgliad polisi o adeiladu dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr yn unig. Mae angen inni edrych ar y blaenoriaethau y mae Cymru wedi'u gosod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Felly, mae angen dewis yn ofalus y metrigau a ddefnyddiwn i fesur canlyniadau a phennu amcanion ar gyfer unrhyw ddull buddsoddi yn y dyfodol.
- Mae ein dinasoedd yn denu talent, gan weithio yn erbyn twf a thueddiadau mewn rhanbarthau eraill. Felly, mae angen i Gymru weithio'n glyfrach gan ddefnyddio cysylltiadau trefol-gwledig a chytundebau Dinas-ranbarth, gan edrych ar ryngddibyniaethau, tra'n cadw mewn cof y tueddiadau ar gyfer bywyd trefol a ffyrdd o fyw.
- Mae'n ymddangos bod diffyg cyfatebiaeth rhwng sgiliau pobl ifanc a'r swyddi yr oeddent ynddynt.
- Roedd un aelod yn teimlo bod y cyflwyniad wedi cwmpasu dadagregu ar sail rhywedd ac anabledd yn dda iawn ond y byddai hefyd wedi elwa ar ddadansoddiad o ethnigrwydd a'r anfanteision economaidd-gymdeithasol mewn cyflogaeth mewn grwpiau ethnig.
15. Bydd y cyflwyniad yn cael ei anfon at y grŵp a bydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau gwe'r cyfarfod hwn.
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Rhanbarthol (Papur RIWSG P07/19 – Drafft)
16. Gofynnodd y Cadeirydd i Tom Brown gyflwyno'r papur drafft ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Rhanbarthol. Nododd Tom mai papur cychwynnol a bras oedd hwn a’i fod ond wedi’i gyflwyno er mwyn cael rhywbeth llai haniaethol i'r aelodau ei drafod, ac felly nid oedd yn gasgliad ar sail dadansoddiad manwl. Wedi dweud hynny, mae'r strwythur yn ceisio adlewyrchu trafodaethau blaenorol y grŵp a'r cyd-destun polisi a deddfwriaethol ehangach, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
17. Nododd yr Aelodau, mewn perthynas â’r papur cychwynnol a ddarparwyd:
- Wrth ddatblygu'r model newydd, dylid gwneud cymariaethau gyda’r cylch diweddaraf o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, o ran osgoi dyblygu ymdrechion; effeithiau ar gystadleuaeth; gwella llwybrau adborth a dysgu ohonynt; a sicrhau digon o gymorth cynnar.
- Dylid ceisio adborth am ddatblygiad y polisi gan gyrff o bob math sydd â rôl ranbarthol eisoes.
- Dylid cael cydnabyddiaeth o fewn y fframwaith o berthynas fwy cylchol rhwng y fframwaith polisi ac anghenion a phrofiadau rhanbarthau a buddiolwyr, gyda gwersi a pholisïau yn cael eu bwydo ‘o'r bôn i’r brig’ yn ogystal â chael eu gorfodi ‘o'r brig i’r bôn’.
- Nid yw'r amcanion a gyflwynir yn y papur cychwynnol hwn yn ddigon uchelgeisiol - dylai'r amcanion terfynol fod yn fwy dyheadol.
- Roedd angen datblygu mwy o fanylder ynghylch sut y bydd tensiynau a all godi rhwng lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a lleol yn cael eu datrys. Gellid gwneud hyn drwy geisio cael elfennau cyffredin rhwng amcanion cenedlaethol a rhanbarthol, megis o ran cynhyrchiant.
- Mae gwledigrwydd yn rhan hollbwysig o'r broses o bennu blaenoriaethau rhanbarthol.
- Mae angen mwy o fanylion am weithio ar draws ffiniau gyda Lloegr ac yn rhyngwladol.
- Wrth fapio anghenion rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer rhaglenni, dylid ystyried bod sgiliau ac addysg yn cael eu harwain i raddau helaeth gan y galw.
- Dylai'r pum ffordd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gael eu mynegi'n gliriach mewn mwy o fanylder.
- Mae angen symleiddio'r datganiad o weledigaeth, yn ogystal â'i newid i ffwrdd o ddisgrifio ffyrdd o ddisgrifio’r nod yn unig.
- Awgrymodd y papur cychwynnol a gyflwynwyd fod gormod o bwyslais ar y dangosyddion, o gymharu â’u rôl yn y dasg o ffurfio'r pedwar amcan.
- Gellid gwneud mwy i nodi sut y bydd y model yn helpu i sicrhau buddiannau lluosog, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
- Mae'r model yn ymddangos fel petai’n sylfaen dda ar gyfer cyflawni gwaith mwy integredig a chanlyniadau mwy integredig.
- O ran lleihau ffactorau sy'n creu anghydraddoldebau incwm, mae angen rhoi mwy o sylw yn y model i gynwysoldeb, y gyfres o nodweddion gwarchodedig dan y Ddeddf Cydraddoldeb, a sgiliau oedolion.
- O ran cefnogi cymunedau iachach a mwy cydnerth, mae angen cyfeirio at y byrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n gweithredu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru); mae'r rhain yn gyswllt coll yn enwedig mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol integredig. Bydd angen cydgysylltu â'r asesiadau o anghenion o dan y Ddeddf honno.
- Mae creu cyfoeth yn fater allweddol sy'n torri ar draws nifer o amcanion – dylai hyn gael ei adlewyrchu.
- Mae angen i'r fframwaith fod yn gliriach o ran y mecanweithiau a fydd yn gweithredu'r themâu llorweddol a drafodir yn y papur cychwynnol hwn.
- Gyda dyddiad gweithredu disgwyliedig y fframwaith newydd o 2021, bydd angen ceisio cysoni gyda Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, y mae'r fersiwn nesaf ohono wrthi'n cael ei baratoi. Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gymaint rhan o'r cyd-destun polisi â'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
- Mae angen i rolau a chyfrifoldebau fod yn fwy penodol a nodi pwy sy'n gwneud beth yn fwy manwl.
- Nid yw’r papur cychwynnol yn cynrychioli'n ddigonol yr hyn sy'n datblygu ar sail ranbarthol.
- Byddai'n ddefnyddiol cynnwys mwy o fyfyrio ar fodelau rhanbarthol sy'n bodoli eisoes, er enghraifft, Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
18. Nododd yr Aelodau bapur ategol yr adolygiad o lenyddiaeth a ddosbarthwyd gan yr Ysgrifenyddiaeth, yn ogystal â'r papur a ddosbarthwyd gan Kevin Morgan yn dilyn y cyfarfod diwethaf. Pwysleisiwyd y dylid llunio egwyddorion craidd, i fod yn sail ar gyfer dull newydd. Yna dylai'r elfennau hyn gael eu hadlewyrchu'n llawn yn fframwaith cenedlaethol y dyfodol.
19. Cytunwyd y byddai cyfres o egwyddorion yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau er mwyn cael eu sylwadau cyn y cyfarfod nesaf. Byddai hyn yn galluogi sylwadau i gael eu bwydo i drafodaethau Gweinidogion cyn toriad yr haf.
20. Rhoddodd y grŵp y sylwadau cyffredinol canlynol hefyd:
- Mae angen ei gadw mor syml â phosibl, gyda risg y bydd y ddogfen yn mynd yn gymhleth ac yn ddryslyd. Wedi dweud hynny, roedd sylwadau eraill yn nodi meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach, felly bydd angen sicrhau cydbwysedd.
- Byddai'n ddefnyddiol i gytuno ar weledigaeth glir a cherrig milltir y gellir eu cyhoeddi i lywio gwaith datblygu.
- Mae'n bwysig cyd-fynd yn llwyr â chynlluniau economaidd rhanbarthol o dan y cynllun gweithredu ar yr economi. Ond mae angen eglurder ar fecanweithiau adborth rhwng haenau, yn enwedig cynlluniau rhanbarthol a fframwaith cenedlaethol.
- Roedd perthynas gref rhwng dylunio, cyflawni ac effaith. Croesewir gwaith pellach ar ddyluniad, darpariaeth ac effaith modelau ehangach, gan gynnwys y rhai a grybwyllwyd mewn papurau eraill -mae’r model Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif hefyd yn uchel ei barch a gall gynnig gwersi.
- Mae angen i natur wledig a dimensiwn gwledig datblygu rhanbarthol gael ei gydnabod a'i dargedu'n benodol. Heb y dadansoddiad hwn, mae heriau y gellid eu methu, megis mynediad at wasanaethau.
21. Gwnaeth yr Aelodau nifer o sylwadau ar y ddogfen ddrafft a ddosbarthwyd:
- Egwyddorion: mae angen eu datblygu i adlewyrchu'r adolygiad llenyddiaeth a'r arfer gorau yn fwy llawn.
- Tystiolaeth: yn ogystal â'r drafodaeth gynharach ar y dadansoddiad economaidd-gymdeithasol, amlygwyd rôl creu cyfoeth fel maes arall yr oedd angen ei gipio yn y cyd-destun.
- Gweledigaeth: mae angen i'r diben fod yn uchelgeisiol, yn syml ac yn glir. Gellir darparu manylion yn yr amcanion/canlyniadau.
- Amcanion: Mae angen ail-fframio'r rhain fel deilliannau:
- Mae angen disgrifio'r cysylltiadau allweddol â pholisi. Dylai hyn gynnwys dangos eu bod yn gyson â blaenoriaethau fel y cynllun cydraddoldeb strategol a gweithredwyr allweddol fel Trafnidiaeth Cymru.
- Mae angen i ddangosyddion perfformiad ar gyfer pob un fod yn fwy penodol ac uniongyrchol berthnasol, gyda gwaith gofalus yn ofynnol i'w diffinio er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol. Gall y dangosyddion a'r canlyniadau roi ffocws i osgoi lledaenu buddsoddiad yn rhy denau.
- Rhaid i'r fframwaith perfformiad/monitro gynnwys mecanwaith adborth sy'n rhoi'r gallu i newid dulliau mewn ymateb i'r adborth hwnnw.
- Cwestiwn ynghylch sut i fynd i'r afael â'r rhyng-gysylltiadau rhwng amcanion/canlyniadau, ac a oes angen i themâu llorweddol fod yn fwy amlwg o dan bob amcan/canlyniad er mwyn hwyluso hyn.
- Gallai amcanion fynd i'r afael yn gliriach â thwf cynhwysol, cyflogaeth ranbarthol a'r angen i addasu sgiliau.
- Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnal asesiadau o anghenion y boblogaeth leol a gallent chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni uchelgeisiau ar gyfer cymunedau iach a chydnerth.
- Mesurau perfformiad: Mae angen ymgorffori'r rhain o dan bob amcan/canlyniad a dylent gynnwys:
- Dangosyddion sy'n ymgorffori amcanion llorweddol fel cydraddoldeb a chynaliadwyedd amgylch
- Cysylltiad clir rhwng mesurau perfformiad yn y Fframwaith Cenedlaethol a'r hyn a gyflawnir gan gynlluniau economaidd rhanbarthol.
- Mae angen sicrhau bod y dangosyddion yn fwy penodol i'r canlyniadau a geisir – mae'r dangosyddion cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhy uchel.
- Dylai targedau ar gyfer cynyddu cyflogaeth ganolbwyntio nid yn unig ar gynyddu cyfleoedd cyflogaeth ond hefyd ar wella ansawdd swyddi
- Llywodraethu a Chydgysylltu: yn benodol sut y gellir adlewyrchu cyrff rhanbarthol a chynlluniau rhanbarthol, cydgysylltu rhwng haenau, a'r angen i hyrwyddo cysylltiadau trawsffiniol â Lloegr, gweddill y DU, ac yn rhyngwladol.
- Nid yw’n glir sut y mae rhanbarthau ac ardaloedd lleol yn cyd-fynd ac mae angen i hyn fod yn glir ymlaen llaw.
- Angen disgrifio dulliau cydlynu rhwng haenau (cenedlaethol, rhanbarthol a lleol) er mwyn osgoi dyblygu.
- Dylai nodi cysylltiadau rhwng rhanbarthau a dulliau adborth – dylai blaenoriaethau rhanbarthol a lleol fwydo i mewn i flaenoriaethau cenedlaethol a’r ffordd arall, er mwyn sicrhau bod y canlyniadau a rennir yn gywir. Does dim modd i’r broses fod yn un o'r brig i’r bôn.
- Mae hefyd yn hanfodol nodi a rheoli cysylltiadau â’r DU ar draws ffiniau, gan adeiladu ar y cydweithio rhwng cyrff rhanbarthol trawsffiniol.
- Mae angen adeiladu gallu rhanbarthol yn gynnar, yn seiliedig ar ddatganiad clir o swyddogaethau a chyfrifoldebau. Dylai hyn adeiladu ar strwythurau sydd eisoes yn bodoli.
- Gwersi i'w dysgu ar lywodraethu ledled y DU. Nodwyd bod trafodaethau ar y gweill gyda gweinyddiaeth Llywodraeth y DU ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i ddysgu gwersi ynghylch defnyddio Partneriaethau Mentrau Lleol a gweithredu'r Gronfa Twf Lleol.
22. Crynhodd y Cadeirydd ymatebion yr Aelodau a oedd yn awgrymu bod consensws eang bod y cynigion ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol yn y papur yn mynd i'r afael â'r materion cywir, ond bod angen mwy o eglurder ynghylch y weledigaeth i'w gwireddu, yn ogystal â chysoni'r galw am symlrwydd gyda'r cais am fanylion pellach mewn amrywiaeth o feysydd.
23. Diolchodd Tom Smithson i'r grŵp am eu sylwadau defnyddiol iawn, gan ychwanegu bod y papur wedi cyflawni ei nod o ysgogi trafodaeth. Byddai'r rhain yn cael eu rhoi ar waith yn awr wrth bennu mwy o eglurder o ran y weledigaeth, addasu'r strwythur yn unol â chynlluniau economaidd rhanbarthol, ac ymchwilio ymhellach i'r modelau a awgrymwyd gan y grŵp. Byddai gan y ffrydiau gwaith arfaethedig sydd i'w trafod yn nes ymlaen yn y cyfarfod rôl allweddol o ran symud ymlaen â pheth o'r gwaith datblygu hwn.
Cyflwyniad ar Fodelau Rhanbarthol Cymru a thrafodaeth ar fodelau dirprwyo (Papur RIWSG 08/19)
24. Cyflwynodd Mike Griffiths y papur ar Fodelau Rhanbarthol Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith ei fod yn cynrychioli dadansoddiad cymharol fyr o'r gwahanol systemau sydd ar waith ar hyn o bryd i gefnogi datblygu economaidd rhanbarthol. Gofynnodd Mike am farn yr Aelodau ynghylch pa agweddau ar y tri model sy'n cyd-fynd orau â'r hyn rydym am ei gyflawni ac y gellid eu mabwysiadu mewn model buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol.
25. Er mwyn cefnogi'r drafodaeth, gofynnodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr o'r pedair partneriaeth ranbarthol a gynrychiolir yn yr aelodaeth (Tyfu Canolbarth Cymru, Dinas-ranbarth Caerdydd, Dinas-ranbarth Bae Abertawe a Gogledd Cymru) roi eu barn ar sut mae cynllunio a darparu gwasanaethau rhanbarthol yn gweithredu yn eu hardaloedd. Canolbwyntiodd y diweddariadau hyn ar y sail dystiolaeth a gasglwyd ym mhob rhanbarth hyd yma, gan gynnwys ar gryfderau ac asedau rhanbarthol, a'r themâu a'r dull a nodwyd ar gyfer targedu buddsoddiad ar sail ranbarthol.
26. Yn dilyn crynodebau'r partneriaethau rhanbarthol, agorodd y Cadeirydd y drafodaeth i'r Aelodau, gan ofyn iddynt ystyried materion llywodraethu a chyflenwi, yn arbennig, a'r cwestiynau a amlinellwyd yn y papur. Gwnaeth y Grŵp y sylwadau canlynol:
- Mae gallu yn rhywbeth hanfodol i fynd i'r afael ag ef ar lefel ranbarthol. Sgiliau arwain a rheoli yn arbennig, yn ogystal â sgiliau o ran datblygu achosion busnes a rheoli portffolios.
- Mae cyflymder wrth wneud penderfyniadau yn gysylltiedig â chapasiti effeithiol. Mae hyn yn gofyn am eglurder ynglŷn â chyfrifoldebau gwahanol gyfranwyr. Awgrymwyd y gallai dysgu pellach o'r partneriaethau cyflogaeth i Loegr gynnig dirnadaeth.
- Mae capasiti yn gofyn am adnoddau penodol, gyda digon o arian ar gael i gyflawni hyn yn effeithiol.
- Mae angen i'r drefn lywodraethu gyd-fynd â'r diwylliant a'r meddylfryd iawn er mwyn darparu'n rhanbarthol, ac osgoi gwneud dim mwy na neilltuo ychydig i bawb.
- Mae hyn hefyd yn gofyn am strategaeth drosfwaol glir ar gyfer pob rhanbarth - ni all ymwneud â ffynonellau cyllid digyswllt ar wahân yn unig.
- Angen sicrhau nad oedd rhanbartholi yn arwain at ‘weithio mewn seilos' a’i fod yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu ar agweddau cenedlaethol sy'n gyffredin i bob rhanbarth megis addysg.
- Rhaid i unrhyw gynigion yn y dyfodol sicrhau bod symlrwydd yn greiddiol er mwyn hwyluso mynediad at gyllid a gwella'r system bresennol yn hyn o beth.
- Mae trefniadau llywodraethu priodol, cymesur a chyson yn nodi cyfrifoldebau ac atebolrwydd yn glir wrth ddatganoli grym i'r rhanbarthau, a gellid nodi'r rhain yn y llyfr rheolau a'u monitro ar y lefel genedlaethol.
- Dylai'r model osgoi dyblygu a chystadleuaeth afiach rhwng rhanbarthau lle bynnag y bo modd.
- Nodwyd bod eglurder o ran atebolrwydd a mandad democrataidd yn bwysig o ystyried y diffyg pwerau rhanbarthol.
27. Nodwyd y bydd ymrwymiadau yn gynharach yn y cyfarfod yn helpu i lywio model darparu yn y dyfodol, yn enwedig: y gwaith pellach i ddysgu gwersi o ddull Lloegr o ddarparu'r Gronfa Twf Lleol; a'r egwyddorion arweiniol i'w tynnu o'r adolygiadau o dystiolaeth hyd yma. Byddai'r drafodaeth nesaf hefyd yn ystyried sefydlu gweithgorau i fwrw ymlaen â rhywfaint o'r gwaith mwy manwl.
Strategaeth Ymgysylltu a Sefydlu Is-grwpiau
- Gofynnodd y Cadeirydd i'r grŵp gytuno â'r is-grwpiau arfaethedig a'u cwmpas arfaethedig, yn ogystal â'r sylwadau ar y broses o benodi aelodau i'r is-grwpiau.
- Nodwyd bod angen i gynrychiolaeth is-grŵp gynnwys pobl sy'n brofiadol yn y maes gwaith neu'n ymwneud ag ef.
28. Cytunodd y grŵp i sefydlu'r pedwar is-grŵp a rhoddodd sylwadau ychwanegol, gan gynnwys:
- Dylid sefydlu is-grwpiau drwy ddefnyddio'r strwythurau ar y lefel genedlaethol ac yna ychwanegu pobl eraill fel y bo'n berthnasol.
- Ar gyfer yr is-grŵp ymchwil, monitro a gwerthuso, roedd yn bwysig bod y grŵp yn ystyried profiad pobl sy'n rhedeg prosiectau.
- Methodd mwy o brosiectau oherwydd rheolaeth wael ac roedd angen sgiliau rheoli prosiect ar y rhai a oedd yn rhedeg prosiectau, a phrofiad o gyflawni prosiectau a'u cadw ar y trywydd cywir.
- Cynigiodd cynrychiolwyr o gyrff sector enwebu enwebeion ar gyfer aelodaeth yr is-grŵp i unigolion ag arbenigedd priodol
- Roedd yn briodol sicrhau bod disgrifiadau rôl yn cael eu defnyddio i bennu aelodau o is-grwpiau a gofynnodd aelod arall i'r rolau gyfeirio at ethnigrwydd ehangach yn hytrach na rhywedd yn unig.
29. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd anfon unrhyw awgrymiadau pellach ar yr aelodaeth neu'r broses recriwtio at yr Ysgrifenyddiaeth cyn gynted ag y bo modd gan y byddai angen i'r is-grwpiau ddechrau ar eu gwaith tua diwedd mis Mehefin/dechrau Gorffennaf 2019.
30. Rhoddodd Alison Sandford ddiweddariad ar y strategaeth ymgysylltu a oedd wedi'i diweddaru i ymdrin â sylwadau'r Aelodau yn y cyfarfod ym mis Chwefror. Yn awr, byddai Alison yn casglu sylwadau am uchelgeisiau ac egwyddorion allweddol o'r cyfarfod hwn, a gofynnodd i'r grŵp a fyddai'n fodlon i'r strategaeth gael ei chyhoeddi. Cytunwyd ar hyn.
Cyfarfodydd y dyfodol
31. Trefnwyd cyfarfodydd yn y dyfodol ar gyfer 18 Gorffennaf a 10 Hydref. Byddai rhagor o fanylion am leoliadau a threfniadau yn cael eu dosbarthu'n fuan.
32. Roedd cynlluniau hefyd i drefnu cyfarfod arbennig o'r grŵp yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 24 Mehefin i gyfarfod â'r OECD yn ystod eu hymweliad astudio.
Unrhyw fater arall
33. Nid oedd unrhyw fater arall.
Cloi
34. Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am fod yn bresennol ac am gyfrannu at y trafodaethau, a daeth â'r cyfarfod i ben.
Atodiad A: Rhestr o fynychwr
Cadeirydd: Huw Irranca-Davies AC
| Sefydliad enwebu | Enw a rôl |
|---|---|
| Prifysgolion Cymru | Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr |
| Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru | Bethan Owen, Prif Swyddog Gweithredol |
| Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) | Carwyn Jones-Evans, Datblygu Economaidd ac Adfywio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
| Cyfoeth Naturiol Cymru | Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu |
| Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru | Y Cynghorydd Rosemarie Harris, Cadeirydd Partneriaeth Twf Canolbarth Cymru |
| Rhwydwaith Gwledig Cymru | Eirlys Lloyd, Rheolwr Partneriaethau Cymunedol/Canolfan Bwyd Cymru, Cyngor Sir Ceredigion |
| Grahame Guilford (annibynnol) | Perchennog, Grahame Guilford and Company Ltd |
| Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol | Hannah Wharf, Pennaeth Materion Allanol |
| Colegau Cymru | Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful |
| Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru | Nick Speed, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Pholisi, Cymru a Rhanbarthau, Centrica plc |
| Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru | Ashley Rogers, Cyfarwyddwr, Gill and Shaw |
| Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol | Yr Athro Rachel Ashworth , Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd |
| Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector | Judith Stone, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu'r Sector, WCVA |
| Yr Athro Kevin Morgan (annibynnol) | Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd |
| Partneriaeth De-ddwyrain Cymru | Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd |
| Undeb Llafur | Nisreen Mansour, Swyddog Polisi, TUC Cymru |
| Canolfan Gydweithredol Cymru | Derek Walker |
Mynychwyr Llywodraeth Cymru
| Enw | Rôl ac adran |
|---|---|
| Peter Ryland | Cyfarwyddwr, WEFO |
| Sioned Evans | Cyfarwyddwr, Busnes a’r Rhanbarthau |
| Rob Halford | Pennaeth Strategaeth, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru |
| Tom Smithson | Pennaeth Polisi Buddsoddi Rhanbarthol, WEFO |
| Alison Sandford | Pennaeth Gweithio mewn Partneriaeth, WEFO |
| Tom Brown | Uwch-reolwr Polisi (Polisi Rhanbarthol), WEFO |
| Rhodri Griffiths | Prif Swyddog Rhanbarth De orllewin Cymru, ESNR |
| David Rosser | Prif Swyddog Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru, ESNR |
| Gwenllian Roberts | Prif Swyddog Rhanbarthol Gogledd Cymru, ESNR |
| Huw Morris | Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes |
Ymddiheuriadau a dderbyniwyd
| Sefydliad enwebu | Enw | Swydd |
|---|---|---|
| Partneriaeth De-orllewin Cymru | Y Cyng. Rob Stewart | Partneriaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru; Dinas a Sir Abertawe |
| Partneriaeth Gogledd Cymru | Iwan Trefor Jones | Cyfarwyddwr Corfforaethol |
| Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru | Cyng Ellen ap Gwym | Cadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru |
| Undebau Llafur | Martin Mansfield | Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru |
