Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ynglŷn â chynigion Llywodraeth Cymru i fireinio sut y cymhwysir y meini prawf ar gyfer dosbarthu eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol.

Mae unrhyw eiddo a osodir fel llety hunanddarpar yn cael ei ddosbarthu fel eiddo domestig sy'n atebol am dreth gyngor, oni bai ei fod yn bodloni meini prawf penodol ar gyfer cael dosbarthiad annomestig o ganlyniad i’w weithgarwch gosod masnachol. Ers 1 Ebrill 2023, mae'r meini prawf wedi cynnwys gofynion bod yr eiddo ar gael i'w osod am o leiaf 252 o ddiwrnodau, a'i fod wedi'i osod am o leiaf 182 o ddiwrnodau yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Nod pennaf y newid polisi hwn oedd sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg, a bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o'r eiddo er budd y gymuned leol. Gallai hynny gynnwys buddion sy'n deillio o gynnydd yn y defnydd gan bobl sy’n aros am gyfnodau byr, neu o ryddhau cartrefi i'w gwerthu neu eu rhentu fel cartrefi parhaol i bobl leol. Mae newidiadau i drethiant lleol yn rhan o ddull gweithredu tair ffrwd Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi ac eiddo hunanddarpar ei chael ar gymunedau a'r Gymraeg mewn rhai rhannau o Gymru.

Gallaf gadarnhau, ar ôl gweithredu'r newidiadau, bod 60% o eiddo hunanddarpar wedi bodloni'r meini prawf gosod newydd. Mae hyn yn fwy na'r lefelau a ragwelwyd gan y sector hunanddarpar a'r amcangyfrifon o'r defnydd hanesyddol o eiddo a oedd ar gael pan gafodd y newidiadau eu cyflwyno. Mae llawer o eiddo ym mhob rhan o Gymru wedi bodloni'r meini prawf gosod newydd, gan ddangos bod hyn yn rhywbeth y gellir ei gyflawni lle nad yw'r cyflenwad yn fwy na'r galw. Bydd y cynnydd mewn gosodiadau a gyflawnwyd gan lawer o weithredwyr yn cefnogi'r manteision i gymunedau lleol yn unol â bwriad y newid polisi. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod o'r farn y dylai eiddo hunanddarpar weithredu fel busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, cyn y gellir ei ddosbarthu fel eiddo annomestig at ddibenion trethi lleol.

Mae pob eiddo hunanddarpar sydd bellach wedi'i ddosbarthu fel eiddo annomestig wedi bodloni'r meini prawf gosod newydd. Felly, mae'n amserol ystyried a ddylid mireinio sut y mae’r eiddo’n cael ei drin at ddibenion trethi lleol er mwyn cryfhau sefydlogrwydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud dau newid penodol i'r dull o gymhwyso'r meini prawf gosod mewn asesiadau ar gyfer dosbarthu eiddo fel eiddo annomestig.

Yn gyntaf, rydym yn cynnig y bydd modd derbyn cyfartaledd o’r diwrnodau a osodwyd dros sawl blwyddyn fel tystiolaeth o gydymffurfiaeth, lle nad yw 182 diwrnod wedi eu cyflawni yn y flwyddyn flaenorol. Byddai hynny'n rhoi cyfle i weithredwyr gyrraedd y trothwy gosod o 182 o ddiwrnodau unwaith yn rhagor os gwnaethant fethu eu cydymffurfiaeth o drwch blewyn, gan osgoi bod yn atebol am dreth gyngor.

Yn ail, rydym yn cynnig galluogi bod lwfans o hyd at 14 o ddiwrnodau’r flwyddyn ar gyfer rhoddion seibiannau byr i elusen yn cyfrif tuag at y meini prawf gosod. Bwriad hyn fyddai sicrhau nad yw unrhyw roddion o'r fath yn cael eu datgymell, a'u bod yn cefnogi'r budd cyhoeddus ehangach sy’n deillio ohonynt.

Yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, byddai angen deddfwriaeth i weithredu'r cynigion hyn. Byddai bwriad i weld unrhyw newidiadau deddfwriaethol yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026. 

Os nad yw eiddo hunanddarpar yn bodloni'r meini prawf gosod, mae'n atebol am dreth gyngor a allai gynnwys premiwm. Mae'r pwerau i godi premiymau treth gyngor yn hyblyg, gan alluogi awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau wedi'u teilwra. Er enghraifft, mae un awdurdod lleol wedi creu eithriad lleol rhag y premiwm treth gyngor, gan ganiatáu cyfnod gras o 12 mis i eiddo hunanarlwyo dalu cyfradd safonol y dreth gyngor yn unig ar ôl symud o ddosbarthiad annomestig i ddosbarthiad domestig. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio sylwadau ar fwriad Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol eraill i ystyried polisïau tebyg a fyddai'n cefnogi gweithredwyr hunanddarpar drwy ddarparu trosglwyddiad mwy graddol i'r dreth gyngor.

Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn darparu ymateb, sy’n cael ei ystyried yn ymateb priodol, i faterion a godwyd gan y sector hunanddarpar wrth i'r meini prawf gosod newydd gael eu rhoi ar waith. Mae'r ymgynghoriad yn disgrifio cynigion Llywodraeth Cymru yn fanwl ac yn gofyn i bobl am eu sylwadau. Bydd ar agor am 12 wythnos o 28 Awst tan 20 Tachwedd 2025. 

Mae'r ymgynghoriad ar gael yma: Cynigion i fireinio dosbarthiad eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol | LLYW.CYMRU 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.