Neidio i'r prif gynnwy

Pecyn cymorth i gefnogi ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion drwy gydberthnasau, yr amgylchedd, addysgu a strategaethau sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pecyn cymorth ymddygiad

Er mwyn helpu lleoliadau addysgol i ddatblygu a chynnal ymddygiadau dysgu cadarnhaol, rydym wedi datblygu pecyn cymorth sy'n cynnwys rhestrau chwarae.

Y rhestrau chwarae yw:

  • 'Meithrin a chynnal cydberthnasau cadarnhaol'
  • 'Galluogi amgylchedd dysgu cadarnhaol'
  • 'Defnyddio addysgu effeithiol i gefnogi ymddygiadau dysgu cadarnhaol'
  • 'Anghenion ymddygiadol unigol dysgwyr'

Maent yn cysylltu ag adnoddau o:

  • sefydliadau'r llywodraeth
  • sefydliadau rhynglywodraethol, megis OECD
  • adroddiadau Estyn
  • cyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid
  • elusennau cofrestredig fel y Sefydliad Gwaddol Addysgol
  • pecynnau cymorth cost-effeithiolrwydd annibynnol oherwydd y cyfyngiadau cyllidebol sy'n wynebu ysgolion

Ysbrydolwyd y pecyn cymorth gan adroddiad cyfarwyddyd Improving Behaviour in Schools y Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF).

Mae'r pecyn cymorth hwn yn ddogfen fyw. Rydym yn ei drin fel pecyn cymorth partneriaeth rhyngoch chi, y gweithwyr proffesiynol, a ni. Cysylltwch â'n blwch post dynodedig sef CMIA.SATE@gov.wales os:

  • ydych chi'n teimlo y dylai unrhyw ran o'r cynnwys a ddarperir gael ei ehangu neu ei fod wedi dyddio
  • nad yw dolenni’n gweithio
  • oes gennych awgrym neu rydych yn teimlo y dylid ychwanegu mwy o arweiniad 

Pam mae datblygu ymddygiadau dysgu cadarnhaol yn bwysig

Mae datblygu ymddygiadau dysgu cadarnhaol yn:

  • meithrin ac ailfeithrin cydberthnasau
  • creu ymdeimlad o ymgysylltu a pherthyn

Mae ymddygiad dysgu cadarnhaol hefyd yn rhan bwysig o gynnydd dysgwr. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Y Cwricwlwm i Gymru: Y Cod Cynnydd

Effaith pandemig COVID-19 ar ymddygiad

Mae'r pandemig wedi cael effaith negyddol ar gymunedau ysgolion. Dywed Estyn fod arweinwyr ysgolion wedi dweud bod dysgwyr, ers y pandemig, yn:

  • cael trefn a disgwyliadau’r ysgol yn anoddach
  • ei chael yn anoddach ailsefydlu arferion dyddiol a disgwyliadau gan eu bod yn mynychu'r ysgol yn llai aml
  • dangos diffyg sgiliau cymdeithasol
  • dangos lefelau uwch o bryder a phroblemau iechyd meddwl
  • dangos llai o wydnwch a ffocws
  • dangos ymddygiad mwy ymosodol, sy’n herio awdurdod yn ystod amser egwyl ac amser cinio
  • arddangos ymddygiad heriol sy'n gysylltiedig â diffyg cwsg, mae hyn yn aml yn ymwneud â defnyddio ffôn a chwarae gemau, deiet gwael, a diffyg trefn yn y cartref

Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos pam mae datblygu ymddygiad dysgu cadarnhaol yn bwysig i ysgolion.

Adnoddau eraill

  • Addysgu ysbrydoledig: dysgu o ymarferwyr rhagorol. Cyfnodolyn Cyfalaf Proffesiynol a chymuned, Sammons, P., Lindorff, A.M., Ortega, L. a Kington, A. (2016).