Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cydlyniant Cymunedol ar gyfer 2016-17. I gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun, rwyf wedi ymrwymo i barhau i ariannu’r wyth swydd Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ledled Cymru. Bydd y rôl hon yn parhau i gefnogi pob un o’r 22 Awdurdod Lleol a’u partneriaid i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau cenedlaethol ac adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed i hybu cynhwysiant a chydnerthedd yn ein cymunedau.

Mae’r Cynllun Cyflawni yn cynnwys saith canlyniad ar droseddau casineb, caethwasiaeth fodern, Sipsiwn a Theithwyr, mewnfudo, trechu tlodi, prif ffrydio cydlyniant a monitro tensiynau. Bydd y canlyniadau hyn yn parhau i ganolbwyntio ar feysydd allweddol lle bydd dulliau cydgysylltiedig i gefnogi cydlyniant yn ein cymunedau yn gwneud gwahaniaeth pwysig. Rwy’n bendant bod angen inni barhau i wrando ar bobl a chymunedau. Mae angen inni ddatblygu polisïau a gwasanaethau drwy barhau i ymchwilio i ffyrdd o chwalu rhwystrau a meithrin cysylltiadau cadarnhaol ar draws ein cymunedau. Mae’r Llywodraeth hon wedi parhau’n gyson i ymrwymo’n gadarn i wella cydlyniant cymunedol.

Yn amlwg, mae meysydd newydd yn dod i’r amlwg a fydd yn parhau i roi cadernid ein cymunedau ar brawf. Yn ogystal â’r ffaith bod hyn yn wir ar lefel leol a chenedlaethol, rydym yn gweld bod sut y mae’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau byd-eang yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Mae hyn wedi dod fwyfwy i’r amlwg yn arbennig yng ngoleuni’r argyfwng dyngarol yn Syria. Mae rôl y Cydgysylltwyr wedi bod yn hanfodol o ran gweithio gydag Awdurdodau Lleol i gryfhau’r ymdrechion i gefnogi’r Rhaglen Adsefydlu Ffoaduriaid o Syria. Mae rôl y Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol yn parhau i fod yn hollbwysig o ran cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb ar lefel leol a chefnogi gwaith i atal eithafiaeth dreisgar.

Er bod y Cynllun Cyflawni yn annog yr angen i fod yn rhagweithiol ac i ymgysylltu, mae’n canolbwyntio’n gryf ar weledigaeth fwy hirdymor i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn arbennig drwy’r amcan cenedlaethol o gael cymunedau mwy cydlynus. Mae hyn yn sicrhau bod egwyddorion cydlyniant yn rhan o ddeddfwriaeth i gefnogi’r angen i edrych ar gynaliadwyedd ein cymunedau ac i feddwl yn yr hirdymor ynghylch sut mae cymunedau’n rhyngweithio, yn byw ac yn gweithio’n gytûn gyda’i gilydd.