Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gallwch ddefnyddio offer digidol i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw dementia?

“Pan rydych chi wedi cyfarfod ag un person â dementia, rydych chi wedi cyfarfod ag un person â dementia.”

Dyfyniad gan yr Athro Tom Kitwood.

Pethau a allai gael eu heffeithio gan ddiagnosis dementia:

  • Pryderon am ddiogelwch.
  • Problemau cofio.
  • Problemau adnabod neu ddehongli gwrthrychau.
  • Problemau gyda chlyw neu olwg ac ymwybyddiaeth gweledol-ofodol.
  • Problemau symudedd.
  • Problemau gyda deheurwydd.
  • Ynysigrwydd.

Mae pobl sy’n byw gyda dementia dal eisiau:

  • Mynegi teimladau ac emosiynau
  • bod yn gymdeithasol
  • bod yn rhan o rywbeth
  • rhyngweithio â gweithgareddau a hobïau
  • dysgu
  • addysgu
  • bod â theimladau ac emosiynau cadarnhaol
  • cael cyswllt corfforol

Hel atgofion

Gall technoleg helpu i hwyluso gweithgareddau hel atgofion. Gallwch ddefnyddio eich gwybodaeth am angerdd a diddordebau person fel sail i archwilio ymhellach gan ddefnyddio technoleg. Gall adnoddau ar-lein roi cyfleoedd i hel atgofion am eiliadau pwysig mewn amser, delweddau neu fideos o ddigwyddiadau’r gorffennol, ac mae yna apiau a all hwyluso gweithgareddau.

Canolbwyntiwch ar brofiadaucadarnhaol

Wrth drafod hel atgofion, mae’n bwysig iawn bod yn ymwybodol o’r sgyrsiau a gawn, ac nad ydym yn cynhyrfu’r person yr ydym yn gweithio gydag ef trwy ddwyn atgofion sy’n annymunol i gof.

Mae technoleg yn offeryn a all hwyluso'r gweithgareddau hyn, ond mae'r dechnoleg yn ddibynnol ar yr hwylusydd i arwain y profiad i gyfeiriad cadarnhaol.

Ble i ddechrau

Weithiau'r ffordd orau o fynd ati yw defnyddio peiriant chwilio, fel Google neu Bing. Gallwch ddefnyddio
nodweddion fel y swyddogaethau chwilio am ddelweddau neu swyddogaeth chwilio am wefannau.

Ond peidiwch â theimlo bod angen i chi ddefnyddio'r dechnoleg bob amser. Rhowch hi o'r neilltu, a chael sgwrs i ddysgu mwy am ddiddordebau rhywun. Yna, gallwch chi ddefnyddio peiriant chwilio i ddod o hyd i gynnwys perthnasol a diddorol yn gyflym fel ysbrydoliaeth. Er enghraifft: defnyddio chwiliad delwedd i ddod o hyd i luniau o gyrchfan wyliau enwog ym Mhrydain yn yr 1980au a chael sgwrs am yr holl olygfeydd bendigedig.

Dull amlsynhwyraidd

Mae dull amlsynhwyraidd at hel atgofion yn ystyried cyrchu mwy nag un synnwyr (Golwg, arogl, sain, blas, cyffyrddiad) i wella gweithgareddau hel atgofion. Nid oes rhaid i hyn fod bob tro y byddwch chi'n hel atgofion, ond mae'n rhywbeth y gallech chi ei hwyluso'n hawdd gydag offer digidol.

Er enghraifft, wrth edrych ar ddelweddau o Ynys y Barri yn yr 1980au gan ddefnyddio peiriant chwilio, fe allech chi:

  • chwarae seiniau adar môr o ddyfais seinydd clyfar
  • dod o hyd i fideo o'r cefnfor ar lwyfan rhad ac am ddim fel YouTube
  • cael blwch brechdanau wedi'i lenwi â thywod, neu bapur newydd â finegr, i ysgogi atgofion o arogl a chyffyrddiad

Gall Effro roi rhagor o wybodaeth am weithgareddau hel atgofion.

Offer Hel Atgofion

Wrth ddefnyddio unrhyw offeryn digidol, ystyriwch yr unigolyn rydych yn ei gefnogi a' pha mor hyderus ydynt gyda sgiliau digidol sylfaenol. Mae'n rhaid i'r iaith a ddefnyddiwch a'r dull a gymerwch fod â phrofiad y defnyddiwr mewn golwg bob amser.

Gweledol

BBC RemArc

Mae BBC RemArc yn archif o luniau newyddion o'r gorffennol. Gall defnyddwyr ddewis yn ôl degawd neu thema. Gwefan syml a fydd yn dechrau sgyrsiau yn gyflym.

BFI Player: Britain on map

Mae nodwedd “Britain on Map” BFI Player yn caniatáu ichi weld hen luniau archif o'ch ardal leol, sy'n berffaith i gludo rhywun yn ôl mewn amser.

People's Collection Wales

Mae Casgliad y Werin Cymru yn cofnodi ac yn dathlu hanes cyfoethog Cymru drwy gasglu straeon unigryw gan bobl gyffredin, gan gynnwys yr archif cof a gynlluniwyd ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.

YouTube

Mae YouTube yn wefan cyfryngau cymdeithasol poblogaidd sy'n caniatáu i unrhyw un greu a lanlwytho fideos a'u rhannu â'r byd.

Oherwydd hyn, mae yna lawer o fideos o gyrchfannau gwyliau, lleoedd hanesyddol a rhyfeddodau naturiol, sy'n golygu bod yna lyfrgell wych o gynnwys i'w defnyddio i ysbrydoli a chefnogi sgyrsiau.

Yn ogystal â hyn, mae gan lawer o artistiaid cerddoriaeth enwog sianel YouTube swyddogol, sy'n golygu y gallwch chi wrando ar eich hoff ganeuon a gwylio'r fideo cerddoriaeth ar yr un pryd.

Defnyddiwch YouTube fel y byddwch yn defnyddio unrhyw beiriant chwilio, trwy nodi geiriau allweddol a dod o hyd i'r canlyniadau sydd fwyaf perthnasol i chi.

Cerddoriaeth

“Mae gan gerddoriaeth a chof gysylltydd pwerus. Mae cerddoriaeth yn goleuo atgofion emosiynol – mae pawb yn cofio caneuon o’u gorffennol – y gusan gyntaf, y gân mewn priodas, gweld eu rhieni’n dawnsio ac rydyn ni’n aml yn defnyddio cerddoriaeth i gofio pobl mewn angladdau.”

BBC Music Memories

Mae BBC Music Memories wedi'i gynllunio i gyflwyno gwahanol genedlaethau o gerddoriaeth i chi ac mae’n cysylltu â llwyfannau ffrydio fel Spotify ac Apple music.

Playlist for Life

Mae Playlist for Life yn cynnig adnoddau am ddim i greu rhestrau chwarae unigryw ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.

Music4Dementia

Mae M4DRadio yn ddarllediad byw o wahanol genedlaethau o gerddoriaeth sydd ar gael ar eu gwefan.

Apiau defnyddiol

My House of Memories

Mae Prifysgol Lerpwl wedi datblygu Ap My House of Memories sydd â chynnwys y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ysgogiadau cof i hwyluso sgyrsiau, yn ogystal ag offeryn i greu eich blwch cof eich hun o fewn yr ap. Mae adnoddau Cymraeg hefyd ar gael o fewn yr ap.

Apiau atgoffa

Gallwch chi osod nodiadau atgoffa ar lawer o ddyfeisiau clyfar. Er enghraifft, gallwch ofyn i'ch seinydd clyfar eich atgoffa i gymryd eich meddyginiaeth ar amser penodol o'r dydd, neu gallwch ddefnyddio calendr neu ap atgoffa ar eich ffôn clyfar i ddarparu nodiadau atgoffa.

Mae yna lawer o ganllawiau defnyddiol ar ddefnyddio'ch dyfeisiau i gefnogi eich arferion dyddiol, dyma rai mannau cychwyn defnyddiol:

Aros yn gysylltiedig

Mae defnyddio dyfeisiau clyfar yn gyfle ychwanegol i gadw mewn cysylltiad â materion cyfoes a rhwydweithiau lleol.

Gallech ddefnyddio peiriant chwilio, neu dudalen cyfryngau cymdeithasol, i ddod o hyd i rwydweithiau cymorth dementia lleol i gysylltu â nhw a darparu llwybr posibl ar gyfer gweithgarwch cymdeithasol a phrofiad a rennir. Chwiliwch am dermau fel “Te prynhawn ystyriol o ddementia yn Wrecsam,” a gweld pa ganlyniadau y byddwch yn dod o hyd iddynt. Canolbwyntiwch ar hobïau a diddordebau i archwilio'r opsiynau sydd ar gael i'r rhai rydych chi'n eu cefnogi.

Offer cyfieithu

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch yn cefnogi rhywun sy'n cyfathrebu mewn iaith wahanol i chi. Mewn amgylchiadau o'r fath, gallech ddefnyddio ap cyfieithu fel Google Translate neu Microsoft Translator i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau iaith lle nad oes opsiynau eraill ar gael i gyfathrebu yn eu hiaith ddewisol.