Sefydlu is-grwpiau
RIWSG 10/19 - mae'r papurau hyn yn cael eu darparu at ddibenion trafod er mwyn llywio penderfyniadau'r Cabinet ac nid ydynt yn cynrychioli polisi y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cwestiynau
- Ydych chi'n cytuno â'r is-grwpiau arfaethedig a'u cwmpas?
- A oes gennych sylwadau ar y broses ar gyfer penodi cynrychiolwyr i'r is-grwpiau?
Diben a chwmpas
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyd-gynhyrchu dull buddsoddi rhanbarthol newydd ar y cyd â rhanddeiliaid i ddisodli Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi yr UE unwaith bydd y DU yn gadael yr UE.
Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru fydd y mecanwaith strategol a chenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid, a bydd yn cyflawni rôl allweddol drwy drafod materion strategol a syniadau newydd ynghylch cyfeiriad polisi a dulliau gweithredu. Mae trafodaethau cynnar y Grŵp Llywio yn darparu gwybodaeth ar gyfer trafodaethau'r Cabinet, a fydd yn arwain at ddatblygu dogfen ymgynghori erbyn diwedd 2019. Er mwyn cefnogi'r gwaith manwl sydd ei angen i baratoi dogfen ymgynghori, bwriedir sefydlu nifer o is-grwpiau arbenigol annibynnol i lywio'r broses o feddwl a chynhyrchu syniadau ynghylch materion penodol. Byddai'r grwpiau hyn yn cynnwys arbenigwyr perthnasol o wahanol sectorau.
Rhestrir yr is-grwpiau arfaethedig isod, gan gynnwys yr amcanion a'r cwmpas a awgrymwyd. Felly bydd angen rhoi trefniadau ar waith cyn gynted â phosibl fel y gellir cynnal cyfarfodydd is-grwpiau yn rheolaidd o Fehefin/Gorffennaf 2019 ymlaen; er mwyn llywio dogfen ymgynghori erbyn diwedd 2019 a'r gwaith datblygu dilynol yn 2020.
Bydd y cadeirydd/ysgrifenyddiaeth yn datblygu cyfres o ganlyniadau penodol ar gyfer pob is-grŵp fel rhan o'r cylch gorchwyl a'r adolygiad cynnydd parhaus. Efallai y bydd angen sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen eraill hefyd yn ystod y rhaglen waith. Bydd cysylltiadau strwythuredig, fel traws-aelodaeth a rhannu papurau, rhwng pob un o'r is-grwpiau yn sicrhau bod y fframwaith cyffredinol yn cael ei ddatblygu'n ddidrafferth. Bydd hyn yn cynnwys:
- yng Ngrŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru
- mewn perthynas â gwaith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd
- o fewn partneriaethau eraill, gan gynnwys y rhai sy'n cynnwys y Prif Swyddogion Rhanbarthol a'u timau rhanbarthol
- drwy ymgysylltu ac ymgynghori ehangach â rhanddeiliaid
Is-grwpiau arfaethedig
1. Is-grŵp y Fframwaith Cenedlaethol
Prif rôl y grŵp hwn fydd drafftio'r ddogfen ymgynghori a chwblhau cynnwys terfynol y fframwaith buddsoddi cenedlaethol newydd i Gymru. Mae'r meysydd pwnc yr awgrymir y dylid eu hystyried yn cynnwys tystiolaeth o ddadansoddiad economaidd-gymdeithasol a dadansoddiad SWOT (cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau); blaenoriaethu amcanion buddsoddi a gweithgareddau dangosol; rhesymeg rhaglenni a'r sail resymegol dros ymyrraeth; cydgysylltu â chynlluniau rhanbarthol; a thargedau a chrynodiad rhanbarthol.
2. Yr Is-grŵp Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Bydd y grŵp hwn yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o ddadansoddi gwaith ymchwil, monitro gwybodaeth a gwerthuso i helpu i lywio fframwaith buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Cymru sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gallai'r meysydd pwnc y bydd y grŵp yn canolbwyntio arnynt amrywio o ddatblygu fframwaith perfformiad cenedlaethol (mesur llwyddiant/effaith, dangosyddion, targedau, cerrig milltir, adolygiadau), i ganllawiau cenedlaethol (ar gasglu data, monitro, gwerthuso ac ati) i ddadansoddi gwersi a ddysgwyd o adolygiadau thematig, i archwilio cynlluniau arbrofol/cynlluniau peilot mewn perthynas â buddsoddiadau/prosiectau yn y dyfodol.
3. Yr is-grŵp Gweithredu/Cyflawni
Bydd y grŵp hwn yn gyfrifol am ddatblygu trefniadau i sicrhau bod y fframwaith buddsoddi cenedlaethol newydd a'r cynlluniau buddsoddi rhanbarthol yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Bydd yn arwain y gwaith o ddatblygu llyfr rheolau buddsoddi cyffredin i sicrhau bod pob rhanbarth yn cael ei drin yn yr un modd. Gallai meysydd pwnc eraill gynnwys fframwaith sicrhau ansawdd cenedlaethol, systemau TG a hygyrchedd, mecanweithiau cydgysylltu rhwng lefelau cenedlaethol-rhanbarthol-lleol, neu arfer gorau ar gyfer datblygu lleol o dan arweiniad y gymuned a defnyddio offerynnau ariannol.
4. Yr is-grŵp gweithio rhyngwladol/trawsffiniol
Prif nod y grŵp hwn fydd archwilio ac adeiladu ar fecanweithiau a rhwydweithiau ymgysylltu dylanwadol ar lefel drawsffiniol, gan gynnwys gyda'r DU, Iwerddon a ledled y byd. Dylai hyn geisio sicrhau bod polisi buddsoddi rhanbarthol a'i drefniadau cyflawni yn gwneud y gorau o gyfleoedd i ranbarthau weithio gyda'i gilydd a rhannu arfer gorau er mwyn creu manteision cadarnhaol a chynaliadwy i Gymru. Gall yr amcanion gynnwys mecanweithiau ar gyfer cyfuno gwahanol ffrydiau ariannu, cydgysylltu ar draws ffiniau, a chysylltiadau â rhaglenni a rhwydweithiau'r UE.
Trefniadau aelodaeth
Bydd yr is-grwpiau'n cynnwys arbenigwyr perthnasol o wahanol sectorau, a bydd ysgrifenyddiaeth pob is-grŵp yn gyfrifol am geisio sicrhau cynrychiolaeth briodol o Lywodraeth Cymru a sefydliadau allanol.
Bydd y sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector yn cael eu gwahodd i gynnig enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr allanol (gan gynnwys drwy'r Grŵp Llywio, partneriaethau rhanbarthol, grwpiau thematig). Caiff datganiadau uniongyrchol o ddiddordeb gan unigolion eu hystyried hefyd, trwy wahoddiad ar wefannau traws-lywodraethol, mewn e-gylchlythyr ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys mecanweithiau partneriaid, megis y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol a chylchlythyrau 3-SET).
Wrth benodi aelodau i'r grŵp, caiff profiad blaenorol ei ystyried, ynghyd â chydbwysedd aelodaeth o'r sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector, lleoliad daearyddol aelodau ac amrywiaeth.
Adolygir cynnydd ac aelodaeth yr is-grwpiau yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cynrychioli buddiannau allweddol ac yn parhau i fod yn addas i'r diben.
Er mwyn sicrhau trafodaeth a datblygiad effeithiol, byddem yn disgwyl i uchafswm o 25 o bobl fod yn rhan o bob is-grŵp. At ddibenion dilyniant yn ystod cyfnod datblygu prysur, ni fyddwn yn annog y defnydd o eilyddion a dim ond gyda chytundeb Cadeirydd yr is-grŵp ymlaen llaw y caniateir hynny.
Y broses a'r meini prawf ar gyfer penodi aelodau'r is-grwpiau
Yn dilyn y broses ddethol, bydd pob ysgrifenyddiaeth yn llunio rhestr o aelodau y maent yn eu hargymell ar gyfer yr is-grŵp. Bydd angen i gadeirydd yr is-grŵp perthnasol ei gymeradwyo. Rhoddir ystyriaeth i'r pwyntiau canlynol:
- Profiad o raglenni buddsoddi a pholisi perthnasol
- Profiad penodol perthnasol fel sy'n briodol i bob is-grŵp
- Cydbwysedd aelodaeth o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector
- Cydbwysedd cynrychiolaeth ddaearyddol ac amrywiaeth (gan gynnwys cydbwysedd rhwng y rhywiau)
Pan fydd yna fwy o enwebeion addas na lleoedd ar gael ar yr is-grŵp, bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chadw i ymdrin â newidiadau mewn aelodaeth.
Cyfarfodydd
Mae'n debygol y bydd yr is-grwpiau'n cynnal cyfarfodydd misol ar y dechrau drwy gydol 2019 i lywio'r broses o baratoi'r ddogfen ymgynghori. Bydd amlder y cyfarfodydd yn cael ei adolygu'n barhaus.
Bydd ysgrifenyddiaeth pob is-grŵp yn paratoi nodiadau a phwyntiau gweithredu ar ôl y cyfarfodydd. Caiff y rhain eu hadolygu yn y cyfarfod dilynol a'u rhannu gydag is-grwpiau eraill er mwyn sicrhau bod y fframwaith buddsoddi yn cael ei ddatblygu'n ddi-dor yn gyffredinol. Gall trawsaelodaeth neu gyflwyniadau gefnogi cysylltiadau. Bydd crynodeb o'r prif faterion y rhoddir sylw iddynt ym mhob cyfarfod is-grŵp hefyd yn cael eu cydgysylltu er mwyn adrodd ar gynnydd i gyfarfodydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
Cyfrinachedd
Bydd llawer o'r cynnwys a'r trafodaethau yn yr is-grwpiau yn adlewyrchu barn gynnar ar amrywiaeth o bynciau. Yn y cyd-destun hwn, bydd rhywfaint o gyfrinachedd yn hyrwyddo deialog mwy agored a chynhyrchiol. Ni fydd papurau a thrafodaethau'r cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi a chânt eu hystyried yn gyfrinachol oni bai y cynghorir yn wahanol. Bydd papurau a ddatblygir yn cael eu trosglwyddo i'r Grŵp Llywio ac yn cael eu cyhoeddi fel y bo’n briodol. Bydd y Cadeirydd/Ysgrifenyddiaeth yn rhoi cyngor ar sut i ddosbarthu'r papurau.
