Cyngor i'ch helpu i ddefnyddio nodweddion hygyrchedd i wneud dyfeisiau digidol yn fwy hygyrch.
Cynnwys
Ynglŷn â hygyrchedd
Nid yw dyfeisiau clyfar erioed wedi bod yn haws i'w defnyddio diolch i hygyrchedd anhygoel y dechnoleg gyfredol. Mae hyn yn ein helpu nid yn unig i fynd ar-lein ond gall olygu y gall ein dyfais fod yn arf defnyddiol yn ein bywydau all-lein hefyd.
Mae gan y mwyafrif o ddyfeisiau clyfar modern nodweddion hygyrchedd ymgorfforedig. Cadwch lygad am yr opsiwn yng ngosodiadau eich dyfais. Mae rhai nodweddion hygyrchedd allweddol i gadw llygad amdanynt yn cynnwys:
- rheolaeth llais
- chwyddo
- darllenwyrsgrin
- deallusrwydd artiffisial
- apiau hygyrchedd
Hygyrchedd ar eich dyfais
Os nad oes gennych ddyfais Apple neu Android, efallai y byddwch yn dal i allu dod o hyd i gymorth ar gyfer deall nodweddion hygyrchedd ar eich dyfais. Ewch i beiriant chwilio, a chwiliwch “Gosodiadau hygyrchedd ar fy...” a rhowch enw eich dyfais.
Rheolaeth llais
Nid oes rhaid i ni ddysgu 'sgiliau technoleg' bob amser er mwyn defnyddio dyfais glyfar diolch i reolaeth llais. Trwy siarad â'r ddyfais, mae rheolaeth llais yn gadael i ni wneud galwadau, anfon negeseuon, chwilio gwybodaeth, agor apiau, defnyddio calendrau a chymryd nodiadau.
I roi rheolaeth llais ar waith, rydych chi'n dweud ymadrodd, “Deffrwch,”. Gallai hyn fod yn “Hei Siri”, “Iawn Google” neu “Alexa” er enghraifft. Bydd angen sefydlu rheolaeth llais yn newislen gosodiadau eich dyfais cyn y gallwch ei defnyddio.
Sefydlu rheolaeth llais
Gellir sefydlu rheolaeth llais ar y mwyafrif o ddyfeisiau clyfar modern. Yn gyntaf, rhaid i chi wybod beth yw gwneuthuriad a model eich dyfais. Yna, gallwch edrych ar ganllaw ar-lein trwy fynd ar wefan peiriant chwilio, fel Google, a chwilio “Sut i sefydlu rheolaeth llais ar fy...”
Darllenwyr sgrin
Offeryn hygyrchedd yw darllenydd sgrin sy'n darllen yn uchelbopeth rydych chi'n rhyngweithio ag ef ar eich dyfais. Er enghraifft,os ydych chi'n defnyddio'r nodwedd ar ffôn clyfar, os ydych chi'n cyffwrdd ag eicon ap, bydd enw'r ap yn cael ei ddarllen yn uchel.
Chwyddo
Gellir galluogi chwyddwydr neu swyddogaeth chwyddo ar lawer o ddyfeisiau clyfar modern. Mae hyn yn gweithio fel chwyddwydr rhyngweithiol ar eich sgrin i helpu i wneud i destun ymddangos yn fwy.
Apiau hygyrchedd
Yn ogystal â datrysiadau mewnol ar gyfer hygyrchedd ar ddyfeisiau, mae yna apiau gan wahanol gwmnïau y gallwch eu lawrlwytho. Nid yw'r enghreifftiau canlynol yn hollgynhwysfawr ac nid ydym yn argymell un ap dros un arall. Sicrhewch eich bod yn defnyddio siop apiau swyddogol eich dyfais i lawrlwytho apiau. Efallai na fyddwch yn gallu cyrchu'r apiau hyn ar rai dyfeisiau.
Seeing AI
Datblygwr: Microsoft
Mae Seeing AI yn defnyddio camera eich dyfais ac yn disgrifio'r hyn y gall ei weld i gefnogi pobl sy'n byw ag amhariad ar eu golwg.
Lookout
Datblygwr: Google
Mae Lookout yn defnyddio camera eich dyfais ac yn disgrifio'r hyn y gall ei weld i gefnogi pobl sy'n byw ag amhariad ar y golwg.
Live Transcribe
Datblygwr: Google
Mae Live Transcribe yn arddangos lleferydd ar sgrin eich dyfeisiau i gefnogi rhywun sy'n fyddar neu sydd ag amhariad ar y clyw.
Adnoddau pellach
Mae nifer o sefydliadau a allai roi arweiniad a chymorth arbenigol neu bwrpasol ar gyfer anghenion hygyrchedd:
