Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Andrew Goodall (Cadeirydd)
  • Carys Williams
  • Aled Edwards
  • Mike Usher
  • Mutale Merrill
  • Judith Paget
  • Sioned Evans
  • Tracey Burke
  • Andrew Slade
  • Dom Houlihan
  • David Richards (tan11:30)
  • Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol
  • Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur (TUS)

Yn mynychu

  • Andrew Jeffreys
  • Emma Watkins
  • Sinead Gallagher
  • John Morris
  • Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol

Ymddiheuriadau

  • Emma Williams
  • Nia James
  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Ysgrifenyddiaeth

  • Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol

1. Croeso a materion cyfredol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Cydsyniodd y Bwrdd i ddefnyddio Microsoft Copilot yn ystod y cyfarfod. Cafodd cofnodion 09 Mawrth eu cymeradwyo yn amodol ar fân ddiwygiadau. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.

1.2 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i'r cyfarfod ar raglen waith y Bwrdd yn y dyfodol.

1.3 Nododd y Cadeirydd welliannau i'r trefniadau cyd-gadeirio ar gyfer y Bwrdd Cysgodol, a diolchodd i aelodau'r Bwrdd Cysgodol am eu hymdrechion.

1.4 Nododd y Cadeirydd effaith digwyddiadau byd-eang ar staff ar draws y sefydliad ac ar gymunedau ledled Cymru.

1.5 Rhoddodd y Cadeirydd adborth ynghylch cyfarfod diweddar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

2. Diweddariad ar ganlyniadau adolygiad o wariant Llywodraeth y DU a'r camau nesaf ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Andrew Jeffreys ac Emma Watkins i'r cyfarfod, a'u gwahodd i roi diweddariad i'r Bwrdd ar adolygiad o wariant diweddar Llywodraeth y DU, ynghyd â chynllunio ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru 2026-27.

2.2 Trafododd y Bwrdd yr her o ddatblygu cyllideb blwyddyn ar gyfer 2026/27.

2.3 Gofynnodd Mike Usher a oes gan Lywodraeth y DU unrhyw gynlluniau i adolygu'r fframwaith cyllidol, a chadarnhaodd Andrew Jeffreys nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd.

2.4 Nododd y Bwrdd y cyhoeddiad ynghylch buddsoddi mewn seilwaith ym Mhort Talbot, a phwysigrwydd manteisio ar y cyfleoedd.

2.5 Nododd y Cadeirydd yr angen am fuddsoddiad hirdymor mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI).

3. AI yn Llywodraeth Cymru

3.1 Croesawodd y Cadeirydd John Morris i'r cyfarfod, a'i wahodd i wneud cyflwyniad ar AI yn Llywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at sut mae'r sefydliad yn defnyddio'r dechnoleg ar hyn o bryd, ac yn nodi nifer o heriau strategol i'r Bwrdd eu hystyried. Nododd y cyflwyniad bwysigrwydd sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio mewn modd moesegol a chynhwysol, a'r angen am hyfforddiant ac uwchsgilio mewn perthynas ag AI o fewn y sefydliad.

3.2 Nododd Carys Williams y bwriad i sefydlu Bwrdd Cynghori Arbenigol ar ddefnyddio AI i helpu i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, a thynnodd sylw at ba mor bwysig yw hi bod strategaeth ar waith ar gyfer y sefydliad cyn sefydlu'r Bwrdd. Adleisiodd Carys yr angen i sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi i wneud y mwyaf o fanteision AI.

3.3 Nododd cynrychiolydd y TUS sut y bydd mwy o ddefnydd o AI yn y sefydliad yn effeithio ar rolau swyddi, gan bwysleisio pwysigrwydd mabwysiadu dull gweithredu'n seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol ar gyfer ddatblygiadau. Cytunodd Mutale Merrill, gan bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â staff a rheoli'r newid wrth symud tuag at fwy o ddefnydd o AI. Dywedodd John Morris fod adnoddau AI sy'n cael eu datblygu yn fewnol yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â staff i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion busnes. Sicrhaodd Dom Houlihan y Bwrdd y bydd y Cynllun Pobl yn cyfeirio at effaith AI ar gapasiti a gallu'r sefydliad.

3.4 Cyfeiriodd Mike Usher at y dull gweithredu Scan-Pilot-Scale a amlinellwyd yn y cyflwyniad a oedd yn nodi'r her wrth symud o'r cam peilot i gyflwyno ar raddfa.

3.5 Dywedodd Tracey Burke a Judith Paget fod timau ar draws eu Grwpiau eisoes yn elwa o ddefnyddio AI, er enghraifft wrth grynhoi a gweithio trwy ddarnau mawr o ddeunydd ysgrifenedig. Pwysleisiodd Tracey yr angen am uchelgeisiau realistig, gan awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa orau i fabwysiadu datblygiadau AI yn amserol yn hytrach na'u harwain.

3.6 Nododd Cadeirydd y Bwrdd Cysgodol fod brwdfrydedd ar draws y sefydliad dros fwy o ddefnydd o AI, ond pwysleisiodd yr angen i sicrhau bod yr holl staff wedi'u hyfforddi i elwa arno.

3.7 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi'r pwyntiau a godwyd.

4. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Sinead Gallagher i'r Bwrdd, gan ei gwahodd i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd.

4.2 Nododd Mutale Merrill y cynnydd a wnaed, gan gydnabod ymrwymiad a gwydnwch staff ar draws y sefydliad. Cytunodd Andrew Slade, gan nodi'r cyflawniadau sylweddol a gafwyd.

4.3 Nododd Mike Usher effaith y gofynion cystadleuol a amlinellir yn y papur. Amlinellodd Tracey Burke yr heriau staffio y mae ei Grŵp wedi gorfod mynd i'r afael â nhw.

4.4 Croesawodd Sioned Evans y dull gweithredu disgybledig ar gyfer cyflawni, ac awgrymodd Carys Williams y dylai'r Bwrdd ystyried sut y gellir ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd o gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu bresennol cyn tymor y Senedd newydd.

4.5 Soniodd Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol am forâl staff sy'n gweithio ar feysydd yn y Rhaglen Lywodraethu na fyddant yn cael eu cwblhau cyn diwedd tymor y Senedd, a
nododd y materion ychwanegol y mae'r sefydliad wedi gorfod ymateb iddynt, yn aml o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang, ochr yn ochr â gweithredu'r Rhaglen Lywodraethu.

4.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi'r pwyntiau a godwyd.

5. Cofrestr Risgiau Corfforaethol – diweddariad ar Risg 1.8 ar fodloni gofynion Iechyd, Diogelwch a Llesiant

5.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Dom Houlihan i roi diweddariad i'r Bwrdd ar fynd i'r afael â Risg 1.8 ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol, sef risg sy'n canolbwyntio ar fodloni gofynion ar iechyd, diogelwch a llesiant. Nododd y Cadeirydd mai'r eitem hon yw'r diweddaraf o ran archwiliadau trylwyr o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

5.2 Amlinellodd Dom y camau a gymerwyd i liniaru yn erbyn y risg, gan nodi'r gorgyffwrdd â risgiau eraill sydd wedi'u cynnwys ar y Gofrestr. Nododd Dom yr angen am weithredu parhaus i gryfhau'r dull gweithredu ar gyfer iechyd a diogelwch, a phwysleisiodd fod gan bob aelod o staff gyfrifoldeb am iechyd a diogelwch.

5.3 Nododd cynrychiolydd y TUS fod y camau sy'n cael eu cymryd yn rhoi sicrwydd, yn enwedig mewn perthynas â llywodraethu. Adleisiodd aelodau'r Bwrdd y sylwadau hyn.

5.4 Atgoffodd Dom y Bwrdd fod perfformiad ar iechyd a diogelwch yn cael ei adrodd yn y Cerdyn Sgorio Cytbwys bob chwarter.

5.5 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi'r enghreifftiau o arferion da ar draws y sefydliad. Nododd y Cadeirydd y byddai'r gwaith yn parhau tuag at gyrraedd y sgôr targed ar gyfer risg 1.8.

6. Diweddariadau gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol

6.1 Rhoddodd Mike Usher ddiweddariad i'r Bwrdd ar waith y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, gan nodi bod yr aelodaeth yn cael ei hadnewyddu ac y bydd y rhaglen waith yn y dyfodol yn canolbwyntio mwy ar archwiliadau trylwyr o bynciau penodol.

6.2 Rhoddodd Carys Williams adborth o'r Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol, gan nodi y bydd y Bwrdd Cysgodol yn helpu i lunio ei raglen waith ar gyfer y dyfodol.

7. Unrhyw Fater Arall

7.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 25 Gorffennaf.