Adolygiad llenyddiaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant undebau credyd mewn gwledydd eraill.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr ymchwil oedd deall pa ffactorau sy'n arwain at lwyddiant undebau credyd, gan ddefnyddio tystiolaeth ryngwladol o’r arferion gorau.
Prif ganfyddiadau: galluogwyr
- Mae undebau credyd mewn gwledydd llwyddiannus yn tueddu i fod â threfniadau marchnata cryf ac ystod eang o wasanaethau sy'n denu sail aelodaeth amrywiol.
- Roedd defnyddio technoleg a chael partneriaethau â sefydliadau ariannol eraill yn helpu i roi gwasanaeth gwell.
- Elfennau nodweddiadol o undebau credyd a ddefnyddid yn helaeth oedd eu bod yn gynaliadwy y tu hwnt i gyllid allanol. Roedd modelau busnes wedi’u proffesiynoli a fframweithiau deddfwriaethol cefnogol yn helpu hyn.
Prif ganfyddiadau: rhwystrau
- Roedd y prif rwystrau rhag twf yn ymwneud â’r ffaith ei bod yn anodd dod yn sefydliadau ariannol prif ffrwd.
- Roedd y rhwystrau’n cynnwys dibyniaeth ar gymorth allanol, gwybodaeth a chanfyddiadau gwael ymysg y cyhoedd, a diffyg gwasanaethau wedi’u hanelu at y rhai sy’n ennill incwm uwch.
Adroddiadau
Adolygiad o arferion gorau undebau credyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 305 KB
PDF
305 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Finn Prendergast
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
