Astudiaethau achos gan ddarparwyr tai cymdeithasol cofrestredig ar gyfer cynllun peilot y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol (MDLS).
Trosolwg
Nod y prosiectau peilot oedd profi sut mae Llywodraeth Cymru yn diffinio safon ddigidol 'ofynnol'.
Gofynnwyd i ymgeiswyr asesu o leiaf 20 o aelwydydd i weld a oedd ganddynt:
- mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd
- dyfais addas (fel llechen, gliniadur, neu ffôn clyfar)
- sgiliau digidol sylfaenol yn seiliedig ar yr MDLS
Gall sefydliadau ddefnyddio'r wybodaeth hon i nodi bylchau a chynnig cymorth lle bo angen.
Yn 2024 i 2025, dyfarnwyd 2 grant o £25,000 (cyllid cyfalaf).
Astudiaeth achos: Cymdeithas Tai Sir Fynwy
Yn ystod Gorffennaf 2024 i Fawrth 2025, fe wnaeth Cymdeithas Tai Sir Fynwy drwy'r Cynllun Peilot Grant MDLS, gefnogi tenantiaid gyda thrawsnewidiadau lles a thechnolegol allweddol, gan gynnwys symud i Gredyd Cynhwysol, newid i wasanaeth ffon digidol a chyflwyno systemau mynediad drws a larwm clyfar.
Trwy raglen iConnect, derbyniodd 43 o denantiaid gymorth digidol wedi'i deilwra a dosbarthwyd 39 o ddyfeisiau digidol, ac o'r herwydd roedd yr holl gyfranogwyr yn bodloni'r meincnod MDLS a llawer yn adrodd gwell hyder, lles ac annibyniaeth.
Adroddodd Cymdeithas Tai Sir Fynwy hefyd fod y peilot wedi lleihau'r pwysau ar eu gwasanaethau. Tynnodd y Cynllun Peilot sylw at bwysigrwydd paru dyfeisiau digidol â chymorth wedi'i deilwra gyda sgiliau digidol a'r potensial i gefnogi grwpiau agored i niwed eraill. Cydnabuwyd heriau hefyd gan gynnwys cynaliadwyedd, chysylltedd gwledig a bod yn ynysig. Gwnaeth Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn glir ei fod yn bwriadu ymgorffori cynhwysiant digidol mewn gwasanaethau ehangach, darparu cefnogaeth ddigidol barhaus trwy iConnect, cynnal partneriaethau gyda sefydliadau cynhwysiant digidol ac archwilio cynlluniau benthyca dyfeisiau.
Astudiaeth achos: Cymdeithas Tai Gogledd Cymru
Yn ystod Gorffennaf 2024 i Fawrth 2025, cefnogodd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, trwy Beilot Grant MDLS, breswylwyr dros 55 oed a phreswylwyr sy'n byw mewn lleoliadau â chymorth i wella eu sgiliau digidol sylfaenol, hyder, annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol.
Gweithiodd Swyddog Digidol Cymdeithas Tai Gogledd Cymru gyda gwasanaeth cynhwysiant digidol a chaffael iechyd Llywodraeth Cymru, Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant i ddarparu cymorth sgiliau digidol sylfaenol i 25 o breswylwyr a dosbarthu 8 dyfais ddigidol.
Cafodd heriau ynghylch cadw cyfranogwyr, anghenion cymhleth ac absenoldebau staff eu goresgyn i gyflawni gwell sgiliau digidol sylfaenol, hyder ac annibyniaeth a chyfranogiad cymdeithasol preswylwyr. Dywedodd trigolion eu bod yn defnyddio dyfeisiau digidol at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys i ailgysylltu â theulu ac i fynd ar drywydd diddordebau creadigol.
Tynnodd y cynllun peilot sylw at wersi gwerthfawr gan gynnwys yr anhawster wrth sicrhau cyfleoedd i drafod gyda cyfranogwyr a phwysigrwydd sicrhau bod hyfforddiant wedi'i deilwra ac yn ystyriol o drawma a darparu cymorth parhaus, offer gwerthuso symlach ac ymgorffori cynhwysiant digidol mewn cymorth tai bob dydd.
