Neidio i'r prif gynnwy

Mae Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi penodi Aelod newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr Aelodau sydd newydd eu penodi yw Helen Gwenllian a John Hogg, a fydd yn gwasanaethu fel Aelodau o 1 Medi 2025 – 31 Awst 2029, a Fiona Day, a fydd yn gwasanaethu o 1 Chwefror 2026 – 31 Ionawr 2030.

Helen Gwenllian

Mae Helen Gwenllian yn Amgylcheddwr Siartredig ac mae wedi dal sawl uwch benodiad ym maes Cynaliadwyedd ac Adfywio. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn rhannu ei phrofiad fel hyfforddwr achrededig ar gyfer cymwysterau proffesiynol gyda’r Sefydliad Gweithwyr Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol.

Mae hi’n mwynhau bwyd da a chwarae gemau gyda’i theulu a’i ffrindiau, yn ogystal â chwarae criced gyda Merched Bronwydd.

John Hogg

Wedi’i eni ym Mhenfro, mae gan John Hogg dros 35 mlynedd o brofiad ar lefel Bwrdd ac uwch reolwr yn y sector cyhoeddus. Mae hefyd yn gyn-Gadeirydd gwirfoddol yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus ac mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Caer Elen. Mae ganddo gred gryf ym mhwysigrwydd yr amgylchedd a sut y dylai gwaith Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro helpu cymunedau a busnesau i ffynnu. Dyfarnwyd MBE iddo am wasanaethau i reoli amgylcheddol yn 2021, ac y tu allan i’r gwaith mae ganddo ddiddordeb brwd mewn afalau treftadaeth Cymru, perllannau a chadw gwenyn.

Fiona Day

Mae Fiona Day yn addysgwr amgylcheddol a gweithiwr proffesiynol cadwraeth gydag arbenigedd mewn ymgysylltu â’r cyhoedd, arweinyddiaeth ieuenctid, a chadwraeth bioamrywiaeth. Mae ganddi BSc mewn Gwyddorau Biolegol ac MSc mewn Cynaliadwyedd ac Ecoleg. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i’r Gymdeithas Mamaliaid fel Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu â’r Gymuned. Mae Fiona yn angerddol am ysbrydoli pobl o bob oed i gysylltu â bywyd gwyllt ac mae ganddi brofiad o weithio gydag ysgolion, cymunedau a phobl ifanc i ehangu mynediad i natur. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli fel Arweinydd Girlguiding ac yn aelod o Bwyllgor Addysg a Gyrfaoedd Cymdeithas Ecolegol Prydain.

Telir £5,576 y flwyddyn i Aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gan adlewyrchu ymrwymiad amser o o leiaf 44 diwrnod y flwyddyn.

Cwblhawyd y penodiad hwn yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Mae’r penodeion wedi datgan nad ydynt wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.