Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion a nodir yn Adolygiad Leng.
Comisiynwyd Adolygiad Leng ym mis Tachwedd 2024 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn ymateb i bryderon am gyfraniad cymdeithion meddygon a chymdeithion anaesthesia mewn timau amlddisgyblaethol. Mae’r adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2025, yn tynnu ar ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, adolygiadau llenyddiaeth, ac adborth gan gleifion.
Mae’r adolygiad yn pennu’r argymhellion ar gyfer Lloegr. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio, er mwyn rhoi eglurder a hyder i staff a chleifion fel ei gilydd, fod angen dull cyson o weithredu sy’n cwmpasu’r DU yn gyfan.
Bydd grŵp gweithredu yn asesu’n llawn pa effaith a gaiff yr argymhellion ar y GIG yng Nghymru ac i benderfynu ar y dull mwyaf effeithiol o’u rhoi ar waith. Rydym wedi ymrwymo i gydweithredu, a bwriedir mynd ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid ymhellach fel rhan o’r cam gweithredu.
Mae’r Prif Swyddog Meddygol a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu at gyflogwyr ac arweinwyr systemau yng Nghymru i’w hannog i fynd ati i fabwysiadu’r derminoleg a ddiweddarwyd, sef ‘cynorthwywyr meddygon’ a ‘chynorthwywyr meddygon mewn anaesthesia’, yn gynnar. Mater i Lywodraeth y DU yw diweddaru’r teitlau proffesiynol hyn yn ffurfiol yn y gyfraith.
Hoffwn ddiolch i’r Athro Leng a thîm yr adolygiad am eu gwaith, ac i bawb a gyfrannodd dystiolaeth ac a rannodd eu dealltwriaeth arbennig o’r maes yn ystod y broses.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
