Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth plant o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 a hawliau plant.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Y prif ganfyddiadau
Mae cymharu'r canfyddiadau sydd wedi'u nodi â * yn ystadegol arwyddocaol, hynny yw, maent yn debygol o adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol dros amser neu rhwng grwpiau poblogaeth.
Ymwybyddiaeth o amddiffyniad rhag cosb gorfforol a'i ddeall
Roedd y mwyafrif helaeth (87%) o blant a phobl ifanc 7 i 18 oed a holwyd yn credu'n gywir nad yw rhieni a gofalwyr eraill yn cael cosbi plant yng Nghymru yn gorfforol.
Roedd y canfyddiad hwn yn gyson ar draws gwahanol grwpiau blynyddoedd ysgol – blynyddoedd 2 i 6, blynyddoedd 7 i 11 a blynyddoedd 12 i 13. Ym mhob un o'r tri grŵp hyn, roedd y mwyafrif, (89%, 86% ac 89%) yn y drefn honno, yn tybio na chaniateir i rieni/gofalwyr gosbi plant yn gorfforol.
Roedd plant a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd ABC1 ychydig yn fwy tebygol o gredu bod rhieni/gofalwyr yn cael cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru o'i gymharu â'r rhai mewn aelwydydd C2DE (13% o'i gymharu â 7%).*
Gofynnwyd i'r rhai a ddywedodd nad oedd rhieni a gofalwyr yn cael cosbi plant yn gorfforol faint yr oeddent yn ei wybod am yr amddiffyniad rhag cosb gorfforol. Roedd tua 6 o bob 10 (58%) wedi clywed amdano ac â syniad gweddol o'r hyn yr oedd yn ei olygu. Roedd traean (33%) wedi clywed amdano ond ddim yn siŵr beth yr oedd amddiffyniad rhag cosb gorfforol yn ei olygu, ac roedd tua 1 o bob 10 (9%) yn ansicr faint yr oeddent yn ei wybod.
Roedd rhai gwahaniaethau yn lefel wybodaeth gwahanol grwpiau blynyddoedd ysgol am y ddeddfwriaeth. Roedd y rhai ym mlynyddoedd 2 i 6 yn llai tebygol o ddweud bod ganddynt syniad gweddol o'r hyn y mae amddiffyniad rhag cosb gorfforol yn ei olygu (51% o'i gymharu â 59% ar gyfer blynyddoedd 7 i 11, a 63% ar gyfer blynyddoedd 12 i 13), ac roeddent yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn siŵr am eu lefel wybodaeth (14% o'i gymharu â 7% o'i gymharu â 4% yn y drefn honno).*
Roedd plant a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd ABC1 ychydig yn fwy tebygol o gredu bod rhieni/gofalwyr yn cael cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru o'i gymharu â'r rhai mewn aelwydydd C2DE (13% o'i gymharu â 7%).*
Ffynonellau gwybodaeth am amddiffyniad rhag cosb gorfforol
Fel rheol, drwy athrawon neu gyngor ysgol (57%) a rhieni (51%) yr oedd y rhai a oedd wedi clywed rhywbeth am amddiffyniad plant rhag cosb gorfforol gan rieni neu ofalwyr eraill wedi darganfod hyn. Y ddwy brif ffynhonnell arall o wybodaeth am hyn oedd y cyfryngau cymdeithasol (31%) a hysbysebion teledu (26%).
Er bod gan bob grŵp blynyddoedd ysgol yr un prif bedair ffynhonnell wybodaeth ynghylch amddiffyniad rhag cosb gorfforol, roedd faint y crybwyllwyd pob un o'r rhain yn gwahaniaethu. Roedd grwpiau blynyddoedd ysgol hŷn – blynyddoedd 12 i 13 a blynyddoedd 7 i 11 – yn llai tebygol o gael eu gwybodaeth gan eu rhieni na'r grŵp blynyddoedd ysgol ieuengaf – blynyddoedd 2 i 6 (46% o'i gymharu â 52% o'i gymharu â 63%, yn y drefn honno).*
Ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth ynghylch cosb gorfforol
Yna gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent yn ymwybodol bod cyfraith wedi'i chreu sy'n atal rhieni a gofalwyr eraill rhag cosbi plant yn gorfforol mewn unrhyw ffordd. Dywedodd tua thri chwarter (76%) eu bod yn ymwybodol bod y gyfraith hon wedi'i chreu. Nid oedd tua 1 o bob 5 (18%) wedi clywed am y gyfraith hon ac roedd 6% yn ansicr.
Roedd grwpiau blynyddoedd ysgol hŷn – blynyddoedd 7 i 11 a blynyddoedd 12 i 13 – yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol o'r gyfraith na'r rhai ym mlynyddoedd 2 i 6 (80% a 78% o'i gymharu â 70% yn y drefn honno).*
Ymwybyddiaeth o hawliau plant a gwybodaeth amdanynt
Roedd bron pob un (99%) o blant a phobl ifanc yn ymwybodol bod ganddynt hawliau.
Roedd lefel y wybodaeth am yr hawliau hyn yn amrywio. Roedd tua dwy ran o bump (42%) yn ymwybodol bod ganddynt hawliau, ond heb wybod unrhyw beth amdanynt. Roedd cyfran debyg (41%) yn ymwybodol ohonynt ac yn honni eu bod yn gallu rhestru ambell un, a nifer llai (15%) yn honni eu bod yn gwybod llawer amdanynt.
Roedd lefel y wybodaeth am hawliau yn amrywio yn ôl grwpiau blynyddoedd ysgol – roedd y wybodaeth am hawliau yn cynyddu wrth i'r grwpiau oedran blynyddoedd ysgol fynd yn hŷn. Er enghraifft, dywedodd 48% o'r rhai ym mlynyddoedd 2 i 6 eu bod yn gallu rhestru ambell hawl neu yn gwybod llawer amdanynt. Y cyfrannau cyfatebol ymhlith blynyddoedd 7 i 11 ac ymhlith blynyddoedd 12 i 13 oedd 53% a 70% yn y drefn honno.*
Adroddodd y rhai sy'n byw mewn aelwydydd ABC1 lefelau uwch o wybodaeth am hawliau na'u cymheiriaid mewn aelwydydd C2DE. Dywedodd 64% o'r rhai mewn aelwydydd ABC1 eu bod yn gallu rhestru ambell hawl neu'n gwybod llawer amdanynt o'i gymharu â 49% mewn aelwydydd C2DE.*
Ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a gwybodaeth amdano
Roedd y rhai ym mlynyddoedd ysgol 12 i 13 yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol o CCUHP na grwpiau blynyddoedd ysgol iau – roedd tua dwy ran o dair (67%) yn ymwybodol ohono o'i gymharu ag ychydig dros hanner ym mlynyddoedd 7 i 11 (55%) a blynyddoedd 2 i 6 (54%).*
Y grŵp blynyddoedd ysgol hŷn hefyd oedd fwyaf tebygol o fod â lefel uwch o wybodaeth am CCUHP – dywedodd 29% o flynyddoedd 12 i 13 fod ganddynt syniad gweddol o'r hawliau dan sylw o'i gymharu â 17% a 21%, yn y drefn honno, ymhlith blynyddoedd 711 a blynyddoedd 2-6 i .*
Adroddiadau
Ymwybyddiaeth plant o ddeddfwriaeth am gosbi corfforol ac o hawliau plant: canfyddiadau arolygon Hydref 2024 a Mawrth 2025 i Ebrill 2025 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 954 KB
Ymwybyddiaeth plant o ddeddfwriaeth cosb gorfforol a hawliau plant , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 17 KB
Cyswllt
Hannah Davies
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
