Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Prynu cerbydau trydan II

Rydym wedi cynnal adolygiad prisiau o dan fframwaith prynu cerbydau trydan II tîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru, gyda'r prisiau newydd yn dod i rym ar unwaith. Cyn dyfarnu unrhyw gontract yn ôl y gofyn o dan y cytundeb hwn, ymgyfarwyddwch â'r rhestr gyfraddau newydd, sydd ar gael ar GwerthwchiGymru (rhaid mewngofnodi).

Atgoffir cwsmeriaid fod dwy broses ar gyfer dyfarnu contract yn ôl y gofyn o dan y cytundeb hwn, sef mini-gystadleuaeth neu ddyfarnu uniongyrchol. Gellir defnyddio cystadleuaeth bellach i sicrhau bod gofynion cwsmeriaid yn cael eu bodloni drwy brofi'r cynnig gan bob darparwr sydd ar gael ar y fframwaith. Gellir gwneud dyfarniadau uniongyrchol yn seiliedig ar gyfiawnhau’r pris, ansawdd, cyflymder yr ymateb sydd ar gael, neu'r gwerth gorau wrth gysylltu â'r darparwyr sydd wedi'u rhestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o fanylion arnoch, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru.