Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Halen craig a chynhyrchion cysylltiedig

Rydym wedi derbyn gostyngiad pris ar asetad potasiwm gan Safecote o dan lot 5 o'n fframwaith halen craig a chynhyrchion cysylltiedig (WGCD-BU-131-25). Mae prisiau newydd y gaeaf yn dechrau o 1 Hydref 2025 ac yn rhedeg tan 31 Mawrth 2026. Mae rhestr brisiau wedi'i diweddaru bellach ar gael ar wefan GwerthwchiGymru (rhaid mewngofnodi).

I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Adeiladu Cymru gyda'n Gilydd - digwyddiad fframwaith Ffrâm24

Cynhelir digwyddiad fframwaith cyffrous "Adeiladu Cymru Gyda'n Gilydd" ar gyfer y Cytundeb Fframwaith Deunyddiau Adeiladu newydd (Ffrâm24), a reolir bellach gan Adra, ar 18 Medi 2025 yn Arena Utilita, Caerdydd.

Ffrâm24 yw olynydd naturiol ein Fframwaith Deunyddiau Adeiladu blaenorol (NPS-CFM-0085-18) ac mae'n rhan o Biblinell Caffael Cydweithredol Cymru.

Mae'r digwyddiad yn dod â dros 50 o arddangoswyr sy'n cynnwys fframweithiau, cyflenwyr a gweithgynhyrchwyr ynghyd, llawer ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru, ac mae'n agored i'r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae hwn yn gyfle prin i gysylltu, cydweithio ac archwilio dyfodol caffael, cyflenwadau gweithredol, a manylebau yn y sector adeiladu. Mae'r digwyddiad yn cefnogi Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, gan roi ffocws ar gaffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Bydd cydweithwyr o'n tîm Cyflawni Masnachol hefyd wrth law drwy gydol y dydd i roi cyngor ac arweiniad ar ein fframweithiau cydweithredol sydd ar gael i'w defnyddio gan Sector Cyhoeddus Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i'r digwyddiad, cofrestrwch yma.

Fel arall, cysylltwch â'r rheolwr fframwaith, Martin Burger, am ragor o wybodaeth: martin.burger@adra.co.uk