Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Cynnig i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn y rhestr o awdurdodau lleol y caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau iddynt o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

Camau i’w cymryd

Mae'r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn iaith arall.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r:

Is-adran Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Leol a Chynllunio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: lgpolicy.correspondence@llyw.cymu  

Adran 1: cyflwyniad

Yr ymgynghoriad hwn

Ar 7 Mai 2025, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (“Ysgrifennydd y Cabinet”) ymgynghoriad ar gynnig i wneud darpariaeth benodol mewn deddfwriaeth llywodraeth leol i dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig (CJC).

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ('Deddf 2021') yn darparu ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel cyfrwng i gefnogi cydweithio rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru.  Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gweithredu fel corff corfforedig ar wahân sy’n gallu cyflogi staff, dal asedau a chyllidebau, a chyflawni swyddogaethau. Mae datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir wedi’u halinio yn y Cyd-bwyllgor Corfforedig, sy'n rhoi cyfle i gynghorau gyfuno adnoddau ac ystyried a manteisio ar ryngddibyniaethau y swyddogaethau hyn.

Cydnabyddir yn gyffredinol bod capasiti a gallu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn fater allweddol wrth eu datblygu. Bwriedir i'r awdurdodau lleol ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r costau am weinyddu Cyd-bwyllgorau Corfforedig ond mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall eu cefnogi i gyflawni amcanion.

Mae adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ('Deddf 2003') yn caniatáu i Weinidogion Cymru dalu grant i 'awdurdod lleol yng Nghymru'. Mae'r diffiniad o ba gyrff sy'n awdurdodau lleol at ddibenion yr adran honno wedi ei nodi yn adran 33. Nid yw'r rhestr yn cynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac felly nid yw Gweinidogion Cymru yn gallu defnyddio’r ddeddfwriaeth benodol i lywodraeth leol hon i ddarparu cyllid grant yn uniongyrchol i Gyd-bwyllgorau o’r fath.

Byddai'n fuddiol cael pŵer penodol mewn deddfwriaeth llywodraeth leol i Weinidogion Cymru ddarparu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig. Bwriadwyd erioed i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fod yn rhan o'r 'teulu llywodraeth leol'.  Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori er mwyn ceisio barn ar ddatblygu rheoliadau i ddiwygio Deddf 2003 fel bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cael eu cynnwys yn y rhestr o awdurdodau lleol y gall Gweinidogion Cymru dalu cyllid grant iddynt o dan adran 31 o'r Ddeddf honno.

Pwy ymatebodd?

Cafwyd 19 ymateb ysgrifenedig i'r ymgynghoriad.  Nodir yr ymatebwyr fel a ganlyn:

  • 8 awdurdod lleol yng Nghymru
  • 3 cyd-bwyllgor corfforedig
  • 7 dinesydd preifat
  • 1 corff cynrychioliadol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Mae rhestr lawn o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad i’w gweld yn Atodiad A.

Dull o ddatblygu’r crynodeb o’r ymatebion

Bwriedir i’r ddogfen hon fod yn grynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am effaith y Rheoliadau ar y Gymraeg, ac am unrhyw sylwadau cyffredinol eraill fel rhan o’r ymgynghoriad.

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn 4 cwestiwn i gyd.  Mae’r crynodeb o ymatebion wedi cael ei nodi yn unol â’r cwestiynau hyn.

Mewn rhai achosion, roedd ymatebwyr wedi darparu un ymateb cyffredinol neu wedi ymateb i faterion penodol ar yr ymgynghoriad fel rhan o ymateb mwy cyffredinol o dan ‘ystyriaethau cyffredinol.’ Mae'r ymateb hwn yn cynnwys yr ymatebion hynny fel rhan o'r cwestiwn am 'ystyriaethau cyffredinol.'

Adran 2: crynodeb o’r ymatebion

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â gwneud diwygiad i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i alluogi Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforaethol o dan adran 31 o'r Ddeddf honno?

Cafwyd 16 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. O'r rhai a ymatebodd, roedd 10 yn cytuno â diwygio’r Ddeddf Llywodraeth Leol i dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ac roedd 6 yn erbyn hynny. Ni chafwyd ateb gan 3 ymatebydd.

Gofynnodd CLlLC am farn cynghorau ar yr ymgynghoriad hwn. Ar sail yr ymatebion a gafwyd, y consensws yw bod cytundeb i'r diwygiad fel y bydd gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i dalu grantiau uniongyrchol. Serch hynny, gan adlewyrchu'r dull gweithredu ‘nid yw'r un ateb yn addas i bawb' sy'n berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig, maent yn credu y dylid gofyn i gynghorau benderfynu ar y cyd ym mhob rhanbarth a ydynt am i grant gael ei roi'n uniongyrchol i'w Cyd-bwyllgor Corfforedig neu i'r cynghorau cyfansoddol. At hynny, dylai unrhyw gyllid fod yn ychwanegol ac nid yn gyllid wedi’i ailgyfeirio oddi wrth gynghorau cyfansoddol. Dylai hefyd ymwneud yn gyfan gwbl â ‘chyflawni cyfrifoldebau swyddogaethol’ y Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Gwnaed y pwynt hefyd, gan fod Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn sefydliadau cymharol newydd, bod angen iddynt sefydlu hanes o lywodraethu da, gwneud penderfyniadau da a chyflawni'n llwyddiannus wrth iddynt aeddfedu cyn cael cyfrifoldebau ychwanegol.

Mae barn yr Awdurdodau Lleol eu hunain yn darparu dadleuon ar agweddau o blaid ac yn erbyn y cynnig hwn. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cytuno bod y diwygiad sy'n cael ei wneud i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 mewn perthynas â thalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yn addasiad rhesymol i hwyluso effeithiolrwydd y model Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cytuno â'r cynnig, ond mae'n dweud y byddai'n ymddangos yn briodol caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu ar y cyd ym mhob rhanbarth a ydynt am i grant gael ei roi'n uniongyrchol i'w Cyd-bwyllgor Corfforedig neu i'r cynghorau cyfansoddol. Maent hefyd yn dweud y dylid cynnwys hyn ar ffurf rhyw ofyniad naill ai yn y gofynion deddfwriaethol neu yn y polisi sydd y tu ôl iddo.  Mae sylwadau a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn atgyfnerthu’r pwynt hwn. Maent yn ychwanegu eu bod yn cytuno i'r newid er mwyn i Weinidogion Cymru gael y pŵer i roi grantiau’n uniongyrchol, ond i adlewyrchu’r dull ‘nid yw'r un ateb yn addas i bawb’ sy’n berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig, dylai’r gofyniad ganiatáu i gynghorau benderfynu ar y cyd ym mhob rhanbarth a ydynt am i grant gael ei roi’n uniongyrchol i’w Cyd-bwyllgor Corfforedig neu i'w cynghorau cyfansoddol.

Roedd un ymateb yn tynnu sylw at gred yn yr egwyddor sybsidiaredd o ran gwneud penderfyniadau ac ymgymryd â gweithgaredd ar y lefel fwyaf lleol sy’n gallu mynd i'r afael â'r mater penodol sy’n galw am sylw neu'r her y mae angen ei hateb.

Roedd yr ymateb hwn yn canolbwyntio ar yr angen i rymuso lleoedd lleol i flaenoriaethu eu hadnoddau'n effeithiol ac ysbrydoli lleoedd lleol i feddwl yn wahanol am sut i gyflawni gyda'r adnoddau hynny. Mae adnoddau yn cynnwys asedau cymunedol, amser gwirfoddolwyr, adeiladau ysgolion, ymrwymiadau gwerth cymdeithasol busnesau a datblygwyr yn ogystal â'r adnoddau ariannol a gaiff eu darparu gan y llywodraeth.

Yn ogystal, dywedodd yr ymatebydd fod sybsidiaredd hefyd yn cyfeirio at adegau pan fo'n well i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wneud penderfyniadau ar lefel ranbarthol a'u bod yn parhau i gefnogi'r dull hwn. Fodd bynnag, byddai ganddynt bryderon sylweddol ynghylch newidiadau deddfwriaethol sy'n galluogi talu grantiau'n uniongyrchol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, heb ddigon o fesurau diogelu deddfwriaethol i ddiogelu egwyddorion sybsidiaredd.

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cytuno i Lywodraeth Cymru gael rhoi grantiau uniongyrchol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig. Wrth dderbyn y grantiau, roeddent wedi dweud bod yn rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddyrannu'r adnoddau'n deg ar sail eu patrwm rhanbarthol nhw. Dywedodd Cyngor Sir y Fflint yr hoffai gadw rhywfaint o reolaeth a disgresiwn ynghylch dyrannu grantiau sy’n cael eu dyrannu iddo a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Roedd yn cynnig gwneud hyn ar y cyd â'r Awdurdodau Lleol rhanbarthol eraill.

Dywedodd Cyngor Abertawe ei fod yn cefnogi’r egwyddor o ganiatáu i grantiau gael eu talu i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ac y byddai'n cynnig ffordd o beidio â rhoi'r holl gostau ar gynghorau unigol ac felly trethdalwyr drwy ardoll sy'n ddefnyddiol. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru'r hawl i bennu maint ac amledd grantiau a roddir drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, ond byddai'n gobeithio y bydd ymgysylltu a deialog ar y cyd yn parhau. Byddai hyn yn galluogi Cyd-bwyllgorau Corfforedig a chynghorau i helpu i benderfynu pa grantiau fyddai orau i’w cyfeirio drwy Gyd-bwyllgorau Corfforedig a pha rai ddylai barhau i gael eu dyrannu'n uniongyrchol i Gynghorau. Mae Cyngor Abertawe hefyd yn dweud y byddai’n croesawu hyblygrwydd tybiedig i Gyd-bwyllgorau Corfforedig benderfynu ar unrhyw is-ddefnydd o grant mewn ardaloedd cynghorau unigol sy'n cael ei sbarduno gan flaenoriaethau rhanbarthol.

Mae tri Chyd-bwyllgor Corfforedig hefyd wedi cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad hwn. Tynnodd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru sylw at y ffaith bod nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol eisoes wedi cael eu diwygio i ymgorffori cyflwyno'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac mae'n ymddangos bod absenoldeb Cyd-bwyllgorau Corfforedig o adran 31 o Ddeddf 2003 yn anghysondeb y mae angen ei gywiro. Dywedodd y Cyd-bwyllgor Corfforedig y gallai’r diwygiad arfaethedig hefyd fod o gymorth sylweddol i weinyddiaeth ariannol y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin hefyd yn cefnogi'r newid, ond mae'n cytuno â safbwynt yr Awdurdod Lleol, sef, o gofio dull gweithredu presennol Llywodraeth Cymru o ran nad yw’r 'un ateb yn addas i bawb' sy’n berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig, dylid gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i gynghorau benderfynu ar y cyd ym mhob rhanbarth a ydynt am i grant gael ei roi'n uniongyrchol i'w Cyd-bwyllgor Corfforedig neu i'r cynghorau cyfansoddol.

Dywedodd un ymatebydd nad oedd yn cytuno â'r newid arfaethedig i’r ddeddfwriaeth oherwydd gallai greu “sefyllfa ddiofyn” a fyddai’n achosi dryswch diangen ac yn creu cymhlethdodau yng nghyd-destun cyllido llywodraeth leol.

Roedd un ymatebydd o blaid dull gweithredu lle byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol ar flaenoriaethau polisi a chyllido yn y dyfodol. Gall  Awdurdodau Lleol cyfansoddol wedyn benderfynu cronni cyllid yn y Cyd-bwyllgor Corfforedig, os yw hynny'n briodol.  O fewn y dull hwn, byddai ystyriaethau ar wahân ar draws y maes Trafnidiaeth a Datblygu Economaidd.

Tynnodd yr un ymatebydd sylw at y ffaith y gallai cronni adnoddau'n ddiofyn gostio mwy i bwrs y wlad o ran biwrocratiaeth a chostau gweinyddol. Y rheswm am hyn yw bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn endid cyfreithiol ar wahân i Awdurdodau Lleol. Po fwyaf o adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi i mewn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig, y mwyaf fydd cost rhedeg yr endid. Bydd angen cyfrifon wedi'u harchwilio'n llawn, rheoli'r grantiau a'r rhaglenni sy'n deillio ohonynt. Bydd angen adnoddau caffael, adnoddau cyfreithiol a chyllid ychwanegol ar gyfer hyn yn ogystal ag ystyriaethau ychwanegol o ran capasiti a gallu i gyflawni holl ddyletswyddau statudol y Cyd-bwyllgor Corfforedig fel endid cyfreithiol.

Mae ymatebion eraill wedi amrywio o ran cefnogaeth i'r diwygiad arfaethedig i'r ddeddfwriaeth. Mae sylwadau'n cynnwys bod gormod o haenau o lywodraeth yng Nghymru eisoes lle mae cael sefydliadau anghynrychioliadol yn gwanhau democratiaeth leol. Mewn sylw arall nodwyd y gall awdurdod arweiniol pob ffrwd waith weinyddu grantiau a bydd talu grantiau'n uniongyrchol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yn golygu bod angen staff ychwanegol i'w gweinyddu. Mewn ymateb arall, fodd bynnag, nodwyd bod angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gael eu hariannu'n ddigonol i gyflawni eu potensial.

Mynegodd un ymatebydd bryder bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gwangos a allai wneud penderfyniadau llwgr, ac mewn sylw arall ar wahân nodwyd mai camgymeriad oedd chwalu Awdurdod Datblygu Cymru a oedd yn frand rhyngwladol.

Dywedodd un ymatebydd hefyd ei fod o'r farn bod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru yn rhy fawr ac wedi'i ddosbarthu ar draws ardal rhy eang i ddod ag unrhyw fudd i gymunedau tlotach y Rhondda a Merthyr. Dywedodd y byddai'r grwpio hefyd yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg gan ei bod yn hysbys bod llai o drigolion sy'n siarad Cymraeg yn Sir Fynwy a Bro Morgannwg, ond bod cyfle i dyfu yng Nghaerdydd a'r Cymoedd.

Cwestiwn 2

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y ddeddfwriaeth ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cafwyd 15 ymateb i'r cwestiwn hwn allan o 19 posibl. O'r rhai a ymatebodd nododd 2 ohonynt nad oeddent yn siŵr, a nododd 6 na fyddai'r ddeddfwriaeth yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg.  Mae ymatebion 7 ymatebydd arall wedi'u cofnodi isod.

Tynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sylw at y ffaith bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i Ddeddf yr Iaith Gymraeg ac i ddeddfwriaeth cydraddoldeb, ac felly byddai angen i unrhyw grantiau weithredu o fewn y paramedrau hyn. Efallai y bydd cyfleoedd i hyrwyddo'r iaith yn nhermau amodau grant penodol, ond bydd hyn wrth gwrs yn dibynnu ar natur y grant (yn yr un modd ag y mae grantiau presennol yn cael eu cymhwyso i Awdurdodau Lleol). Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru y byddai'r effaith yn niwtral oni bai fod grantiau'n cefnogi'r Gymraeg yn uniongyrchol.

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy ganiatáu i gynghorau benderfynu ar ddosbarthiad grantiau ym mhob rhanbarth, bydd gan gynghorau sy'n cynrychioli ardaloedd sydd â'r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg fwy o ddylanwad i hyrwyddo'r Gymraeg mewn penderfyniadau cyllido yn y dyfodol. Byddai hyn hefyd yn cyfrannu at sicrhau bod y Cynghorau hyn yn gallu gwneud yn siŵr bod unrhyw effeithiau andwyol yn cael eu lliniaru, os oes modd, o gofio eu ffocws ar hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd.

Tynnodd un ymatebydd sylw at y ffaith, er y gallai fod mwy o gyfleoedd yn y rhan fwyaf o'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ni fyddai hyn yn wir am Gyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru oherwydd ei boblogaethau amrywiol a’i wasgariad eang. Barn yr ymatebydd oedd bod Sir Fynwy a Bro Morgannwg yn debyg iawn o ran eu safbwyntiau negyddol ar y Gymraeg. Byddai hyn yn llesteirio datblygiad a chyfleoedd ar gyfer twf yng nghyswllt y Gymraeg.

Dywedodd un ymatebydd ei fod yn bwysicach blaenoriaethu'r economi dros faterion iaith gan y byddai defnyddio'r iaith yn cynyddu yn ddiofyn mewn cyfnod economaidd ffafriol.

Cwestiwn 3

Yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y ddeddfwriaeth er mwyn:

  • cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cafwyd 12 ymateb i'r cwestiwn hwn allan o 19 posibl. O'r rhai a ymatebodd nododd 2 ohonynt nad oeddent yn siŵr, a nododd 3 na fyddai'r ddeddfwriaeth yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg.  Mae’r manylion a gafwyd gan 7 ymatebydd arall wedi'u cofnodi isod.

Tynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sylw at yr un ymateb i gwestiwn 2 sef bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i Ddeddf yr Iaith Gymraeg ac i ddeddfwriaeth cydraddoldeb, ac felly byddai angen i unrhyw grantiau weithredu o fewn y paramedrau hyn.

Nododd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod yn cytuno i'r newid er mwyn i Weinidogion Cymru gael y pŵer i roi grantiau uniongyrchol, ond er mwyn adlewyrchu’r dull gweithredu ‘nad yw'r un ateb yn addas i bawb’ sy’n berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig, dylai’r gofyniad ganiatáu i gynghorau ym mhob rhanbarth benderfynu ar y cyd a ydynt am i grant gael ei roi’n uniongyrchol i’w Cyd-bwyllgor Corfforedig neu i'r cynghorau cyfansoddol.   Byddai hyn yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith.

Dywedodd CBS Wrecsam a Chyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru nad ydynt yn credu bod angen llunio na newid y ddeddfwriaeth hon mewn perthynas â'r Gymraeg.

Dywedodd ymatebydd fod angen rhannu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru fel bod  Caerdydd a Chymoedd De Cymru yn cael Cyd-bwyllgor Corfforedig ar wahân ac y dylai Mynwy, Bro Morgannwg a Swydd Hertford gyfuno fel un Cyd-bwyllgor Corfforedig. Yn ogystal, er mwyn cael cyllid, dylai fod yn rhaid iddynt ddangos sut maent wedi datblygu Iaith a diwylliant Cymru.

Roedd ymatebydd arall o'r farn na fydd diffyg perfformiad yr unedau hyn yn gwella'r economi leol, sydd yn ei dro yn sbarduno pobl ifanc i symud o'u hardaloedd cartref. Dylid canolbwyntio mwy ar yr economi, nid ar y materion ieithyddol a fyddai, yn ddiofyn, yn gwella pe bai'r economi'n gwneud yn dda.

Dywedodd un ymatebydd y byddai'r grantiau'n cael eu ‘cymryd drosodd’ gan grwpiau lleiafrifol i ariannu eu hamcanion gan eu bod yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar eu hamcanion na'r Cymry oherwydd nad yw'r Cymry'n cael eu haddysgu’n drylwyr am eu hanes eu hunain mewn sefydliadau addysgol.

Cwestiwn 4

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:

Cafwyd 10 ymateb i'r cwestiwn hwn allan o 19 posibl. O'r 10 ymateb, dywedodd 3 nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau pellach i'w gwneud a rhoddodd 7 ragor o fanylion isod.

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin eu bod yn cefnogi'r gofyniad, ond, o gofio dull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Chyd-bwyllgorau Corfforedig ar hyn o bryd sef ‘nad yw'r un ateb yn addas i bawb’, dylid darparu ar gyfer caniatáu i gynghorau benderfynu ar y cyd ym mhob rhanbarth a ydynt am i grant gael ei roi yn uniongyrchol i’w Cyd-bwyllgor Corfforedig neu i’r cynghorau cyfansoddol. Dylid cynnwys hyn ar ffurf rhyw ofyniad naill ai yn y gofynion deddfwriaethol neu yn y polisi sydd y tu ôl iddynt.

Dywedodd Cyngor Abertawe y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod elfennau sensitif os yw'r newidiadau'n arwain at risg o newidiadau dosbarthu sylweddol rhwng awdurdodau, ond dywedodd fod hynny'n fater i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei reoli mewn partneriaeth â chynghorau cyfansoddol ac yn unol â blaenoriaethau a nodir mewn unrhyw gynlluniau strategol perthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig y cytunwyd arnynt fel y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Cynllun Datblygu Strategol, nad yw ynddo'i hun yn rhwystr i Lywodraeth Cymru gyfeirio grant i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Holodd un ymatebydd a oedd angen cynifer o Gynghorau Bwrdeistref ac y gellid arbed costau pe bai llai ohonynt fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad gan Syr Paul Williams.

Dywedodd ymatebydd arall fod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru yn llawer mwy na'r lleill a bod y rhanbarthau sy’n berthnasol iddo yn wahanol iawn o ran defnyddio'r Gymraeg a chynnal Diwylliant Cymru. Ni all Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gynrychioli barn pobl y cymoedd, a byddan nhw ar eu colled h.y. ardaloedd tlotaf Cymru.

Un farn oedd bod yr obsesiwn â’r iaith yn niweidiol a soniodd ymatebydd arall am wastraffu arian trethdalwyr a pheidio â mynd i'r afael â'r materion cymdeithasol go iawn yng Nghymru sy'n cael eu creu gan falltod diwydiannol a hyrwyddo economi gref. Yn eu barn nhw, mae economeg wan yn arwain at anghyfartaledd cymdeithasol ac roedden nhw'n cwestiynu proses gwneud penderfyniadau gwaith dur Tata, ac eto rydyn ni'n ariannu maes awyr sy'n gwneud colled.

Adran 3: Ateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gweld Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel mecanwaith lle gall nifer o drefniadau rhanbarthol presennol gael eu cyfuno er mwyn dod â chysondeb, lleihau dyblygu a lleihau'r baich gweinyddol ar lywodraeth leol. Rydym wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid ehangach i gefnogi Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Mae’r adran hon yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ar y cynigion i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig ar y rhestr o awdurdodau lleol y caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau iddynt o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

Cwestiwn ynghylch cytuno â gwneud diwygiad i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 er mwyn i Weinidogion Cymru allu talu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig o dan adran 31 y Ddeddf honno

Mae Llywodraeth Cymru yn falch bod ymatebion wedi dangos yn fras bod ymatebwyr yn cefnogi'r newid arfaethedig. 

Fodd bynnag, mynegodd 7 ymatebydd awydd i bob rhanbarth gael hyblygrwydd i benderfynu sut mae'n derbyn ac yn dosbarthu’r cyllid, gan gynnwys a yw Llywodraeth Cymru yn darparu'r cyllid hwnnw'n uniongyrchol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig neu i Awdurdodau Lleol. Ar y pwynt hwn, barn Llywodraeth Cymru yw mai mater i Weinidogion Cymru yw penderfynu ar ba sail y bydd cyllid y Llywodraeth yn cael ei ddarparu, gan nodi mai bwriad y cyllid a fydd yn cael ei ddarparu i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yw iddo gael ei ddefnyddio i gyflawni eu swyddogaethau statudol. Er y byddai penderfyniadau'n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyllid o'r fath, byddai'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yng nghyd-destun egwyddorion y Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Llywodraeth Leol a lofnodwyd ym mis Mehefin 2025, sy'n ymgorffori partneriaeth a chydweithio dibynadwy

O ran yr alwad am hyblygrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig benderfynu ar ddosbarthiad cyllid grant i'r Awdurdodau Lleol yn ei ranbarth, wedi'i sbarduno gan flaenoriaethau rhanbarthol, fodd bynnag, safbwynt y Llywodraeth erioed yw nad oes un ateb sy'n addas i bawb yng nghyswllt Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r egwyddor y dylid cael hyblygrwydd o ran sut mae Cyd-bwyllgor Corfforedig yn defnyddio cyllid a ddarperir iddo o dan adran 31 lle bo hynny'n briodol, yn amodol ar unrhyw amodau a roddir ar y Grant ac o fewn ffiniau swyddogaethau a phwerau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig. 

Ni fyddai gwneud y newid deddfwriaethol i adran 33 o Ddeddf 2003 yn atal rhanbarth rhag penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r arian hwnnw yn ei ranbarth, yn amodol, fel y nodwyd eisoes, ar delerau unrhyw Grant ac o fewn ffiniau swyddogaethau a phwerau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Ar y sail hon, byddai'r diwygiad i adran 33 o Ddeddf 2003 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig o dan adran 31 o'r Ddeddf honno. Nid yw Llywodraeth Cymru yn credu bod newid deddfwriaethol yn angenrheidiol nac yn briodol i fynd i'r afael â’r mater hyblygrwydd. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y gall opsiwn anneddfwriaethol fod yn ddull gwell o ystyried beth yw diben unrhyw hyblygrwydd pellach, a gellir cyflawni hyn drwy alinio â gwaith sydd eisoes ar y gweill i ddatblygu Protocol Drafft ar Grantiau wedi'u Neilltuo rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i sicrhau bod safbwynt y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cael ei gwmpasu yn y Protocol drafft presennol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pryderon y gallai’r newid deddfwriaethol arfaethedig greu “sefyllfa ddiofyn” a fyddai’n achosi dryswch a chymhlethdod diangen yng nghyd-destun cyllido llywodraeth leol.   Safbwynt Llywodraeth Cymru yw na fyddai hyn yn digwydd ac y byddai'n fuddiol cael pŵer penodol mewn deddfwriaeth llywodraeth leol a fyddai'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae hyn ar y sail mai’r bwriad oedd erioed i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fod yn rhan o'r 'teulu llywodraeth leol'.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd wedi nodi pryderon cyffredinol fel gormod o haenau o lywodraeth yng Nghymru ac y gallai sefydliadau heb gynrychiolaeth wanhau democratiaeth leol. Nodir y sylwadau hyn; fodd bynnag, maent y tu allan i ffocws yr ymgynghoriad hwn sy'n ymwneud â diwygio deddfwriaeth llywodraeth leol i ddarparu mecanwaith i Lywodraeth Cymru dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Y Gymraeg

O ran effaith y newid i'r ddeddfwriaeth ar y Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu barn gyffredinol ymatebwyr yng nghwestiwn dau a chwestiwn tri, sef na fyddai’r newid yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y Gymraeg.

Roedd rhai safbwyntiau cyffredinol ynghylch ariannu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar yr amod bod y Gymraeg a'i diwylliant yn rhan o'r ystyriaeth gan gydnabod bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig eisoes yn ddarostyngedig i ddyletswyddau sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Mae safbwyntiau eraill yn awgrymu pe bai cynghorau'n cael penderfynu ar y cyd ym mhob rhanbarth a ydynt am i grant gael ei roi'n uniongyrchol i'w Cyd-bwyllgor Corfforedig neu i'r cynghorau cyfansoddol, byddai hyn yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith. Yng nghyd-destun y newidiadau sy'n cael eu hamlinellu yn yr ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw cyflwyno'r gallu i dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ynddo'i hun yn pennu sut i ddosbarthu cyllid mewn rhanbarth yn uniongyrchol. Yn unol â'r ymateb cynharach, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r pwynt ynghylch hyblygrwydd ac mae'n ystyried hyn drwy opsiwn anneddfwriaethol.

Materion eraill

O ran un ymatebydd yn codi'r risg bosibl o newidiadau dosbarthu sylweddol rhwng awdurdodau o ganlyniad i'r newid hwn, dywedodd yr ymatebydd ei hun wedyn bod hwn yn fater i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei reoli mewn partneriaeth â chynghorau cyfansoddol ac yn unol â'r blaenoriaethau a nodir mewn unrhyw gynlluniau strategol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig y cytunwyd arnynt fel y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Cynllun Datblygu Strategol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ymateb cyffredinol sy'n nodi y dylid cael llai o Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae hefyd wedi nodi ymateb arall sy’n awgrymu y dylid cwtogi maint Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gan ei fod yn awdurdod rhy fawr i fod yn gynrychioliadol. Nodir y sylwadau hyn; fodd bynnag, maent y tu allan i ffocws yr ymgynghoriad hwn sy'n ymwneud â diwygio deddfwriaeth llywodraeth leol i ddarparu mecanwaith i Lywodraeth Cymru dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Y camau nesaf

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen i osod y ddeddfwriaeth angenrheidiol gerbron er mwyn diwygio adran 33 o Ddeddf 2003. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig o dan y pŵer yn adran 31 o'r Ddeddf honno. Bwriedir gosod y ddeddfwriaeth gerbron ar ôl toriad yr haf 2025.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r holl ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag Awdurdodau Lleol a'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig ar y mater a godwyd mewn ymateb ynghylch hyblygrwydd wrth ddefnyddio cyllid a roddir i Gyd-bwyllgorau Corfforedig a'r ffordd orau o gyflawni hyn a darparu ar ei gyfer, lle bo hynny'n briodol ac o fewn cyfyngiadau swyddogaethau a phwerau'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Atodiad A: rhestr o’r ymatebwyr a enwir

Awdurdod lleol

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Dinas Abertawe
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru

Asiantaethau llywodraeth / cyrff eraill yn y sector cyhoeddus

  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru