Cylch gorchwyl a chyfrifoldeb Partneriaeth Gwydnwch Cymru.
Cynnwys
Diben a rôl
Prif ddiben Partneriaeth Gwydnwch Cymru yw sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu gweithredu mewn ffordd effeithiol, effeithlon a chydgysylltiedig mewn perthynas â pharatoi at argyfwng a gwneud Cymru yn fwy gwydn.
Bydd y Bartneriaeth yn ystyried materion sy'n ymwneud â pharatoi at argyfwng ar lefel Cymru gyfan ac yn penderfynu ar ymatebion priodol fel rhan o raglen waith gydgysylltiedig. Mae pob aelod hefyd yn chwarae rhan yn y gwaith o hyrwyddo cyfathrebu a chydweithio rhwng ac ar draws holl bartneriaid y gymuned ymatebwyr er mwyn gwella’r broses o reoli risg a bod yn barod am argyfwng yng Nghymru.
Cyfrifoldebau
Mae gan y Bartneriaeth y prif gyfrifoldebau a ganlyn:
- Cynllunio a chydlynu sut a phryd y bydd tasgau yn cael eu cyflawni ar lefel Cymru gyfan drwy ddatblygu rhaglen waith fanwl (i'w chymeradwyo gan Fforwm Gwydnwch Cymru) sy'n cyd-fynd â'r egwyddorion craidd a'r canlyniadau a nodir yn Fframwaith Gwydnwch Cymru.
- Sefydlu is-grwpiau gweithredol amlasiantaethol sydd â chyfrifoldebau a ddiffinnir ac a ddirprwyir yn glir. Disgrifir y ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu ar yr angen am is-grwpiau gweithredol yn Atodiad A.
- Goruchwylio allbwn is-grwpiau gweithredol yn rheolaidd, gan herio a chraffu lle bo angen.
- Darparu adroddiadau i'r Fforwm ar y materion a ganlyn:
- cynnydd a chyflawniadau o ran y prif flaenoriaethau ar lefel Cymru gyfan
- asesiad o unrhyw risgiau i gyflawni blaenoriaethau Cymru gyfan
- sicrwydd ar faterion yn ymwneud â pharodrwydd at argyfwng a gwydnwch ar lefel Cymru gyfan
- Ystyried argymhellion, gwersi a nodwyd, risgiau, problemau a rhwystrau i gyflawni a gyfeiriwyd gan Fforymau Gwydnwch Lleol, is-grwpiau gweithredol ac aelodau unigol (drwy'r Fforymau Lleol), er mwyn penderfynu ar ffordd briodol o weithredu (gan gynnwys cyfeirio i Fforwm Gwydnwch Cymru os oes angen).
- Sicrhau bod egwyddorion athrawiaeth ar y cyd JESIP wedi'u hymgorffori mewn arferion gwaith ar lefel Cymru gyfan, lle bo hynny'n berthnasol.
Mae gan aelodau unigol y cyfrifoldebau canlynol hefyd:
- Dod â materion gerbron y mae angen eu cyfeirio i'r Bartneriaeth.
- Cyfathrebu ynghylch negeseuon, gweithgareddau rhaglenni gwaith a phenderfyniadau ar draws eu priod feysydd cyfrifoldeb i gefnogi cyd-ymwybyddiaeth o weithgarwch Partneriaeth Gwydnwch Cymru.
- Nodi cydweithwyr, partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus ac arbenigwyr pwnc perthnasol (o fewn eu priod feysydd cyfrifoldeb) sydd â'r sgiliau a'r arbenigedd i gefnogi is-grwpiau gweithredol i gyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd, a hwyluso mynediad at yr unigolion hynny.
Mae Atodiad B yn disgrifio cyfrifoldebau ychwanegol aelodau penodol o'r Bartneriaeth, yn enwedig lle maent yn cynrychioli mwy nag un asiantaeth ymateb.
Aelodaeth
- Cadeirydd: Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Gwydnwch a Diogelwch Gwladol.
- Dirprwy Gadeirydd: Pennaeth yr Uned Gwydnwch, yr Is-adran Gwydnwch a Diogelwch Gwladol.
- Ysgrifenyddiaeth: Yr Uned Gwydnwch, Llywodraeth Cymru.
Aelodau
Cynrychiolwyr o holl ymatebwyr Categorïau 1 a 2, ar lefel ymarferwyr, a chyrff penodedig nad ydynt yn ymatebwyr, yn ôl y gofyn. Dylai pob aelod fod â'r awdurdod, y profiad a'r arbenigedd priodol o ran cynllunio ar gyfer argyfyngau sifil a gwydnwch o fewn eu priod sefydliadau, er mwyn galluogi'r Bartneriaeth i gyflawni ei chyfrifoldebau cydgysylltu.
Mae aelodaeth y Bartneriaeth yn cynnwys cadeiryddion is-grwpiau gweithredol (os nad ydynt eisoes wedi'u cynrychioli o fewn yr aelodaeth graidd). Mae rhestr o'r aelodaeth lawn i'w gweld yn Atodiad B. Efallai y bydd cydweithwyr ychwanegol, partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus, arbenigwyr pwnc, cynrychiolwyr, cynghorwyr ac arsylwyr yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd ar sail ad hoc i gefnogi gwaith y Bartneriaeth.
Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd
Bydd y Bartneriaeth yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn. Efallai y bydd angen i fusnes ad hoc gael ei gyflawni y tu allan i'r strwythur cyfarfod y cytunwyd arno. Os felly, gellir trefnu cyfarfod arbennig, neu gellir cyflawni busnes drwy ohebiaeth.
Trefniadau gweinyddol
Bydd agenda'r cyfarfod a'r papurau perthnasol yn cael eu cylchredeg o leiaf bum diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod. Bydd papurau'n cael eu dosbarthu i'r holl bartneriaid gwydnwch yng Nghymru.
Bydd negeseuon a phenderfyniadau yn cael eu rhannu ag aelodau'r Bartneriaeth. Cytunir ar grynodeb o’r cyfarfodydd a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Caiff cylch gorchwyl Partneriaeth Gwydnwch Cymru ei adolygu bob blwyddyn.
Atodiad A: ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu a oes angen is-grwpiau gweithredol
Prif ddiben is-grwpiau gweithredol yw helpu i gyflawni'n effeithiol y prif flaenoriaethau a amlinellir yn rhaglen waith y Bartneriaeth. Bydd angen rhai is-grwpiau gweithredol er mwyn ystyried blaenoriaethau sy'n parhau (grwpiau craidd), a bydd rhai’n canolbwyntio ar faterion penodol sy’n galw am ymateb o fewn terfyn amser (grwpiau gorchwyl a gorffen). Dylai pob is-grŵp gweithredol weithredu ar lefel Cymru gyfan, a defnyddio dull amlasiantaethol o gydlynu camau i wella gwaith rheoli risg, gwaith paratoi at argyfwng a gwaith gwydnwch ehangach, a sicrhau bod y prif amcanion yn cael eu cyflawni.
Mater i'r Bartneriaeth yw penderfynu ar nifer y grwpiau craidd sydd eu hangen. Wrth wneud hynny, dylai'r Bartneriaeth ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i benderfynu ar y dull gweithredu mwyaf priodol. Er mwyn sicrhau cysondeb a defnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithlon, dim ond lle mae'r dystiolaeth yn dangos bod angen dull unedig o weithredu 'unwaith dros Gymru' i fynd i'r afael â heriau ledled Cymru, ar sail barhaus neu hirdymor, y dylid sefydlu is-grwpiau craidd. Pan fydd tystiolaeth yn awgrymu bod angen gweithredu tymor byr, neu ymateb untro, i ddatrys mater penodol, efallai y bydd y Bartneriaeth yn dymuno sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen.
Ffactorau i'w hystyried
Dylid ystyried un neu fwy o'r canlynol wrth asesu a ddylid llunio is-grŵp gweithredol:
- risgiau sy'n dod i'r amlwg neu a nodwyd y mae eu heffaith yn fawr neu'n 'drychinebus' (fel y'u nodir yng Nghofrestr Risg Cymru)
- bylchau yn y parodrwydd am risgiau neu ganlyniadau cyffredin risgiau (fel y'u nodir yn Adroddiad Parodrwydd Cymru) neu fylchau yn y gallu i ymateb i'r sefyllfaoedd hynny
- themâu sy’n deillio o’r gwersi a nodwyd, ôl-drafodaethau amlasiantaethol a/neu argymhellion yr ymchwiliad cyhoeddus
- meysydd a nodwyd lle mae'r gallu i ymateb i'r sefyllfa yn isel a'r potensial am niwed yn uchel.
Gall Fforymau Gwydnwch Lleol hefyd gyflwyno sylwadau i'r Bartneriaeth ynghylch creu is-grŵp gweithredol. Wrth wneud hynny, dylai'r Fforymau ddarparu tystiolaeth glir i gefnogi'r cais. Dylai'r dystiolaeth, yn y rhan fwyaf o achosion, roi sylw i un neu fwy o'r ffactorau uchod. Fodd bynnag, efallai y bydd achosion lle nad yw hyn yn berthnasol. Er enghraifft, gallai risg ddod i'r amlwg na ellir ei rheoli gan un Fforwm Gwydnwch Lleol ar ei ben ei hun, neu y gellid ei reoli'n fwy effeithlon ar lefel Cymru gyfan. Pan gyflwynir sylwadau o'r fath, mater i'r Bartneriaeth yw ystyried rhinweddau'r cais a phenderfynu ar ffordd briodol o weithredu.
Aelodaeth yr is-grwpiau
Dylai aelodaeth yr is-grwpiau gweithredol fod yn gytbwys, â chynrychiolaeth briodol o ystod o bartneriaid, yn ogystal ag arbenigwyr pwnc perthnasol. Wrth benderfynu ar aelodaeth is-grwpiau, dylai'r Bartneriaeth sicrhau ei bod yn adlewyrchu dull system gyfan o sicrhau parodrwydd at argyfwng, ac nad yw'n canolbwyntio'n ormodol ar sectorau penodol, fel sefydliadau golau glas. Dylai'r Bartneriaeth hefyd fod yn ymwybodol o'r angen i osgoi gorlwytho sefydliadau, yn enwedig pan fydd aelodau yn eistedd ar fwy nag un is-grŵp. Gellir rheoli hyn drwy sicrhau bod gan bob grŵp amcanion, cerrig milltir ac amserlenni clir, y gellir eu trafod ac y gall y Bartneriaeth eu monitro.
Nid oes angen i aelodau is-grwpiau ddod o blith aelodau'r Bartneriaeth o reidrwydd. Yn hytrach, dylai aelodaeth is-grwpiau adlewyrchu'r sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau a nodwyd. Efallai y bydd y Bartneriaeth yn dymuno enwebu sefydliad arweiniol priodol i gadeirio is-grŵp a gweithio gyda chynrychiolydd y sefydliad hwnnw ar y Bartneriaeth i benderfynu pwy sydd yn y sefyllfa orau i gadeirio ac eistedd ar y grŵp.
Llif cyfathrebu
Wrth sefydlu is-grwpiau gweithredol, dylai'r Bartneriaeth fod yn ymwybodol o'r angen i sicrhau llif cyfathrebu effeithiol rhwng y grwpiau hynny a grwpiau a strwythurau amlasiantaethol eraill sydd y tu allan i'r strwythur llywodraethiant, er enghraifft, Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys. Bydd angen i'r Bartneriaeth sicrhau bod cyfansoddiad y grwpiau yn ategu'r nod o gyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn effeithiol â strwythurau amlasiantaethol eraill, ac annog cydweithio (lle bo hynny'n briodol) er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf a lleihau dyblygu ar ymdrechion.
Atodiad B: yr aelodaeth graidd
- Y fyddin
- Y Gwasanaethau Tân ac Achub (Swyddogion perthnasol o bob un o'r 3 gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru)
- Byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd (Un cynrychiolydd y cytunir arno yn lleol i weithredu ar ran y byrddau a'r ymddiriedolaethau iechyd o fewn ardal pob fforwm gwydnwch lleol):
- gweithredu ar ran yr holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn ardal pob Fforwm Gwydnwch Lleol
- Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys:
- gweithredu fel cyswllt rhwng Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys a Phartneriaeth Gwydnwch Cymru, gan sicrhau bod negeseuon a phenderfyniadau strategol yn cael eu cyfleu
- nodi meysydd ar gyfer alinio rhaglenni gwaith i sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu'n effeithiol
- Awdurdodau lleol (Un cynrychiolydd y cytunir arno yn lleol i weithredu ar ran yr awdurdodau lleol o fewn ardal pob fforwm gwydnwch lleol):
- gweithredu ar ran yr holl awdurdodau lleol yn ardal eu fforwm gwydnwch lleol
- gweithredu ar ran awdurdodau iechyd porthladdoedd yn ardal eu fforwm gwydnwch lleol (lle bo hynny'n berthnasol)
- Cydlynwyr Fforymau Gwydnwch Lleol (Cydlynwyr/rheolwyr pedwar Fforwm Gwydnwch Lleol Cymru)
- Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Gweithrediaeth y GIG:
- Cynrychioli byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd o ran y canlynol:
- cynllunio gwydnwch systemau ac ymateb
- cynllunio o fewn y GIG ar gyfer Argyfyngau
- ymgysylltu â sefydliadau'r GIG
- parodrwydd y GIG ar gyfer argyfyngau sifil a risgiau diogelwch cenedlaethol, ac ymateb iddynt
- Gweithredu fel cyswllt rhwng byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd a Phartneriaeth Gwydnwch Cymru, gan sicrhau bod negeseuon a phenderfyniadau strategol yn cael eu cyfleu.
- Nodi meysydd ar gyfer alinio rhaglenni gwaith i sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu'n effeithiol.
- Cynrychioli byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd o ran y canlynol:
- Yr heddlu (Swyddogion perthnasol o bedair ardal heddluoedd Cymru a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig)
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Y Llu Awyr Brenhinol
- Y Llynges Frenhinol
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
- cynrychioli holl sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru
- gweithredu fel cyswllt rhwng sefydliadau'r sector gwirfoddol a sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru a Phartneriaeth Gwydnwch Cymru, gan sicrhau bod negeseuon a phenderfyniadau strategol yn cael eu cyfleu
- Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Llywodraeth Cymru:
- gweithredu fel cyswllt rhwng strwythurau gwydnwch mewnol Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Gwydnwch Cymru, gan sicrhau bod negeseuon a phenderfyniadau strategol yn cael eu cyfleu
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Ymatebwyr categori 2:
- Asiantaethau'r Llywodraeth:
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Y Swyddfa Dywydd
- Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (yr Awdurdod Glo, gynt)
- Asiantaethau'r Llywodraeth:
- Trafnidiaeth:
- Meysydd awyr
- Harbyrau a phorthladdoedd
- Network Rail
- Cwmnïau trên (sy'n cludo teithwyr a nwyddau) gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru
- Cwmnïau ynni, dŵr ac ati:
- Dosbarthwyr a throsglwyddwyr trydan
- Dosbarthwyr nwy
- Darparwyr gwasanaethau ffôn (sefydlog a symudol)
- Ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth
