Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

1.1 Sefydlwyd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru o dan adran 60 o Ddeddf Cymru 2017 sy’n gosod rhwymedigaeth benodol ar ddeiliad y swydd i gyfleu barn aelodau Tribiwnlysoedd Cymru i Weinidogion Cymru ac i Senedd Cymru. Gwneir hyn yn rhannol drwy baratoi Adroddiad Blynyddol a gyflwynir i’r Prif Weinidog a Llywydd y Senedd. Dyma’r Adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025. Dyma’r Chweched Adroddiad Blynyddol a baratowyd gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

1.2 Mae Tribiwnlysoedd perthnasol Cymru yn gweithredu mewn meysydd datganoledig yng Nghymru ac maent wedi’u nodi yn adran 59 o Ddeddf 2017 fel y’i diwygiwyd. Dyma’u henwau (ynghyd â’r acronymau Saesneg):

  1. Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru/the Agricultural Land Tribunal for Wales (“ALTW”)
  2. Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru/the Mental Health Review Tribunal for Wales (“MHRTW”)
  3. Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru/the Residential Property Tribunal Wales (sy’n cynnwys tri thribiwnlys cyfansoddol: pwyllgorau asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977, tribiwnlys prisio lesddaliadau a thribiwnlys eiddo preswyl) (“RPTW”)
  4. Tribiwnlys Addysg Cymru/the Education Tribunal for Wales (sydd hefyd yn rheoli awdurdodaethau tribiwnlysoedd yn ymwneud â chofrestru arolygwyr ysgolion ac arolygwyr addysg feithrin) (“ETW”)
  5. Panel Dyfarnu Cymru/the Adjudication Panel for Wales (“APW”)
  6. Tribiwnlys y Gymraeg/the Welsh Language Tribunal (“WLT”).

1.3 Fel yr esboniwyd yn fy Adroddiad Blynyddol diwethaf (y Pumed Adroddiad), mae’r tribiwnlysoedd canlynol yn gweithredu yng Nghymru ond nid ydynt wedi’u cynnwys yn adran 59, ac nid ydynt yn dod o dan fy nghylch gwaith.

  1. Tribiwnlysoedd heb eu datganoli sy’n rhan o’r system tribiwnlysoedd sy’n gweithredu ledled Cymru a Lloegr a ddiwygiwyd gan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, fel y rhai sy’n dyfarnu ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol a chynnal plant, mewnfudo a lloches, a chyflogaeth. Gweinyddir y rhain gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (“GLlTEF”), ac Uwch-lywydd y Tribiwnlysoedd sy’n gyfrifol am eu barnwriaeth. Yn yr Adroddiad hwn, byddaf yn cyfeirio atynt fel “tribiwnlysoedd GLlTEF”.
  2. Tribiwnlysoedd sy’n gweithredu mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, ond nid o dan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Er enghraifft, Tribiwnlys Prisio Cymru sydd â’i strwythurau cyfreithiol, barnwrol a gweinyddol ei hun; a thribiwnlysoedd sy’n penderfynu ar apeliadau derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion a weinyddir gan awdurdodau addysg lleol heb unrhyw strwythurau cyffredinol.

1.4 Mae Tribiwnlysoedd Cymru yn cael eu cefnogi gan Uned Tribiwnlysoedd Cymru, sy’n rhan o wasanaeth cyhoeddus Llywodraeth Cymru, ond mae’n gweithredu mor annibynnol ag sy’n bosibl yn ymarferol, annibyniaeth sy’n cael ei hybu a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae Uned Tribiwnlysoedd Cymru yn cynnwys tua 35 aelod o staff sydd wedi’u lleoli ledled Cymru.

2. Swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

2.1 Yn fy Adroddiad diwethaf, nodais natur a rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, sy’n werth ei ailadrodd yma.

2.2 Fel yr wyf wedi’i nodi, cafodd swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ei chreu gan Ddeddf Cymru 2017, statud y DU. Er bod y rôl wedi’i chyfyngu i dribiwnlysoedd datganoledig sy’n delio â phwnc datganoledig, nid yw’r swydd yn awdurdod datganoledig Cymreig at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

2.3 Nid yw Deddf 2017 yn diffinio pwerau a dyletswyddau’r Llywydd yn gynhwysfawr; ond mae’n ymhlyg yn adran 60 mai’r Llywydd yw’r barnwr uchaf o fewn Tribiwnlysoedd Cymru ac, yn ogystal â’r dyletswyddau y cyfeirir atynt yn benodol yn y Ddeddf, mae’n arfer rôl oruchwyliol dros bob un o’r tribiwnlysoedd hynny. Yn ogystal â chyfarfodydd sy’n benodol i dribiwnlysoedd, byddaf yn cwrdd ag Arweinwyr Barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru ac uwch-aelodau Uned Tribiwnlysoedd Cymru bob chwarter i drafod materion sy’n croesi ffiniau tribiwnlysoedd.

2.4 Mae dyletswyddau penodol y Llywydd a ragnodir gan adran 60 wedi’u cyfyngu i gyfleu barn aelodau Tribiwnlysoedd Cymru i Weinidogion Cymru ac i aelodau eraill o’r Senedd fel y disgrifir uchod; ac i gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, canllawiau a lles aelodau Tribiwnlysoedd Cymru o fewn yr adnoddau sydd ar gael gan Weinidogion Cymru. Yn unol â’r pwerau hyn, gall y Llywydd (er enghraifft) gyhoeddi Nodiadau Cyfarwyddyd i aelodau tribiwnlysoedd. Er enghraifft, yn ddiweddar cyhoeddais Ganllawiau a Pholisi Cwyno Dros Dro ar Wrthdaro rhwng Buddiannau.

2.5 Wrth arfer y pwerau goruchwylio ehangach hyn, mae adran 60(4) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd roi sylw i’r angen i achosion gerbron Tribiwnlysoedd Cymru fod yn deg a chael eu trin yn gyflym ac yn effeithlon; i aelodau fod yn arbenigwyr priodol yn y pwnc neu’r gyfraith a ddefnyddir yn eu tribiwnlysoedd; ac i’r angen i “ddatblygu dulliau arloesol o ddatrys anghydfodau sydd o fath y gellir eu dwyn gerbron y tribiwnlysoedd hynny”.

2.6 Rwyf hefyd yn ystyried bod rôl y Llywydd o ran dehongli, a thrwy hynny, ddatblygu’r gyfraith yn y meysydd datganoledig yn bwysig. Nid oes gan y Llywydd unrhyw bwˆer statudol penodol i eistedd – a hyd yma, nid yw wedi eistedd – yn unrhyw un o Dribiwnlysoedd Cymru. Ond, rwyf wedi cael fy mhenodi’n Farnwr Siambr Apeliadau Gweinyddol yr Uwch Dribiwnlys (tribiwnlys GLlTEF, ac felly’n rhan o’r system tribiwnlysoedd a gedwir yn ôl) sy’n gwrando apeliadau o Dribiwnlysoedd Cymru. O ganlyniad, er enghraifft, rwyf wedi clywed apeliadau yng Nghymru gan y Tribiwnlys Addysg ar ddehongli’r drefn Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Os bydd apeliadau’n mynd ymhellach, os nad wyf wedi eistedd ar yr apêl gyntaf, gallaf hefyd eistedd yn y Llys Apêl (Adran Sifil).

2.7 Fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, rwy’n eistedd ar nifer o gyrff sy’n ymwneud â’r system gyfiawnder ehangach yng Nghymru (fel Pwyllgor Cymreig Cyngor y Barnwyr dan gadeiryddiaeth yr Arglwyddes Brif Ustus, Bwrdd Gweithredol Cyngor y Gyfraith yng Nghymru, Pwyllgor Cynghori Cymru Comisiwn y Gyfraith, a Phwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg) a systemau’r tribiwnlysoedd ar draws y DU (fel Bwrdd Gweithredol Barnwriaeth y Tribiwnlysoedd, y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a’r Bwrdd Tryloywder a Chyfiawnder Agored). Mae’r cyrff hyn yn cwrdd yn rheolaidd, ac yn fy ngalluogi i, fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y system gyfiawnder ehangach yng Nghymru a’r systemau tribiwnlysoedd yn y pedair awdurdodaeth gartref, ac i ddylanwadu ar y datblygiadau hynny.

2.8 Fel yn y flwyddyn flaenorol, nodais sawl maes yr ystyriais fod cyfiawnhad dros eu blaenoriaethu yn y flwyddyn 2024-25, sef diwygio tribiwnlysoedd, hyfforddiant barnwrol, cynhwysiant ac amrywiaeth a’r Gymraeg. Atodaf y ddogfen a gyhoeddais ar ddechrau’r flwyddyn pan nodais y blaenoriaethau hyn a’r camau roeddwn yn bwriadu eu cymryd i’w cyflawni (Atodiad). Rwy’n adolygu’r meysydd blaenoriaeth hyn isod (paragraffau 5-8).

3. Llwyth gwaith

3.1 Mae nifer y ceisiadau a ddaeth i law Tribiwnlysoedd Cymru ym mlwyddyn ariannol 2024-25 wedi’u nodi isod. Mae’r ffigurau ar gyfer 2020-21, 2021-22, 2022-23 a 2023-24 wedi’u cynnwys er mwyn cymharu.

Tabl 1: Nifer y ceisiadau fesul tribiwnlys
TribiwnlysBlwyddyn ariannol 2020-2021Blwyddyn ariannol 2021-2022Blwyddyn ariannol 2022-2023Blwyddyn ariannol 2023-2024Blwyddyn ariannol 2024-2025
Tribiwnlys Tir Amaethyddol
Cymru
1320281713
Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru17901840174717981825
Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru106113182184118
Tribiwnlys Addysg Cymru*11615190108134
Panel Dyfarnu Cymru410366
Tribiwnlys
y Gymraeg
133123

* Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn flaenorol. Cafodd ei ailenwi o 1 Medi 2021 ymlaen gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

3.2 Mae rhagor o wybodaeth am natur y gwaith a wneir ac aelodaeth pob tribiwnlys wedi’i nodi yn eu hadroddiadau blynyddol, a gyhoeddir ar wefan pob tribiwnlys.

4. Trosolwg Ariannol

Dyraniadau Cyllideb a Gwariant Blwyddyn Ariannol 2024-2025

4.1 Mae’r gyllideb sy’n cael ei dyrannu i Dribiwnlysoedd Cymru yn cynnwys costau rhedeg barnwrol a gweinyddol. Dyrannwyd £4,302,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25. Fodd bynnag, roedd y gwir wariant yn fwy na’r dyraniadau hyn, gyda chyfanswm y gwariant yn £6,093,455 sef £1,791,455 yn fwy na’r gyllideb. Fodd bynnag, am y rhesymau a nodir isod, nid yw’r ffigurau hyn yn rhoi darlun cywir o berfformiad ariannol.

Ailgalibradu Cyllideb

4.2 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw’r swm a ddyrannwyd i Dribiwnlysoedd Cymru yn y gyllideb wedi adlewyrchu costau gweithredu gwirioneddol na rhesymol y tribiwnlysoedd. Ym mlwyddyn ariannol 2024-2025, cafodd cyllideb Tribiwnlysoedd Cymru ei hailgalibradu’n llawn gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Tribiwnlysoedd Cymru. Roedd yr ymarfer strategol hwn, a groesawais, yn angenrheidiol ac wedi’i gynllunio i sicrhau bod dyraniadau ariannol yn adlewyrchu’n fwy cywir y gofynion gweithredol rhesymol a amcangyfrifwyd a’r llwythi achosion sy’n esblygu ar draws y tribiwnlysoedd. Roedd y broses ailgalibradu’n cynnwys dadansoddiad manwl o wariant hanesyddol, gofynion adnoddau a lefelau gweithgarwch rhagamcanol, gyda’r nod o sefydlu cyllideb fwy realistig, cynaliadwy ac ymatebol. O ganlyniad, mae’r dyraniad cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-2026 wedi’i bennu ar £6,048,000. Er bod hynny ychydig yn llai na chyfanswm gwariant Tribiwnlysoedd Cymru yn 2024-2025, rwyf o’r farn ei bod yn gyllideb deg a realistig y gellir mesur perfformiad ariannol y tribiwnlysoedd yn ei herbyn yn briodol.

Yr Angen am Fuddsoddiad TG

4.3 Mae angen brys a hollbwysig am gymorth ariannol penodol i ddatblygu a gweithredu system TG fodern ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru. Mae’r seilwaith presennol yn mynd yn fwyfwy hen ffasiwn, ac nid oes ganddo’r swyddogaethau sydd eu hangen i gefnogi’r gwaith o adrodd ar ddata, cynnal gwrandawiadau digidol a rheoli achosion yn effeithlon. Yn wir, mae ymhell iawn o gyrraedd y nod. Mae rhai tribiwnlysoedd yn parhau i weithredu heb unrhyw system gyfrifiadurol effeithiol o gwbl, ond yn hytrach ar system bapur o daenlenni ac ati. Mae buddsoddi mewn platfform TG sy’n addas i’r diben yn hanfodol i sicrhau bod ein tribiwnlysoedd yn gallu gweithredu’n effeithiol, yn ddiogel ac yn unol â safonau cyfoes o ran darparu cyfiawnder digidol.

4.4 Rwy’n falch o adrodd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr angen hwn yn ddiweddar, ac wedi cymeradwyo ein cais am wariant cyfalaf angenrheidiol ar system rheoli achosion newydd ar gyfer ein holl dribiwnlysoedd. Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddod o hyd i’r arian ar gyfer y gwariant cyfalaf hanfodol a brys hwn ac edrychaf ymlaen at gael cymorth priodol ar ffurf digon o arian i sicrhau bod y system newydd yn cael ei chyflwyno a’i rhoi ar waith yn gyflym, ac yn cael ei gwasanaethu’n briodol ac yn effeithiol.

Cyfraddau Tâl

4.5 Fel y disgrifiwyd ym mharagraffau 4.6-4.8 Adroddiad y llynedd, oherwydd dyfarniadau cyflog gwahaniaethol, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, roedd deiliaid swyddi barnwrol yn nhribiwnlysoedd GLlTEF yn cael 2% yn fwy na’r rhai yn Nhribiwnlysoedd Cymru; er bod y Prif Weinidog wedi fy sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddychwelyd i gydraddoldeb rhwng cyfraddau cyflog cyn gynted ag yr oedd y sefyllfa gyllidebol yng Nghymru yn caniatáu hynny. Cafodd y gwahaniaeth effaith niweidiol ar Dribiwnlysoedd Cymru, gan arwain at amharodrwydd ymysg deiliaid swyddi barnwrol i eistedd yn ein tribiwnlysoedd mewn amgylchiadau lle’r oedd ganddynt hefyd benodiadau yn nhribiwnlysoedd GLlTEF ac y gallent yn aml wneud gwaith yno (yn union yr un fath) am fwy o arian.

4.6 Rwy’n falch o adrodd, o 1 Ebrill 2024 ymlaen, bod cydraddoldeb wedi’i adfer o ran cyfraddau cyflog o ganlyniad i ddyfarniad cyflog ar gyfer deiliaid swyddi barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru a oedd 2% yn uwch na’r hyn a ddyfarnwyd i dribiwnlysoedd GLlTEF. Mae adfer y cydraddoldeb hwn yn adlewyrchu proffesiynoldeb, arbenigedd ac ymrwymiad y farnwriaeth yng Nghymru; yn ogystal â chefnogi’r gwaith o recriwtio a chadw deiliaid swyddi barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru. Mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr ac, i raddau, mae’n helpu i annog deiliaid swyddi barnwrol i eistedd yn ein tribiwnlysoedd ac, felly, rhestru achosion.

4.7 Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad mawr sydd ar y gweill o wasanaethau cyhoeddus, sy’n cynnwys pob deiliad swydd farnwrol, gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i’w groesawu, sy’n cynnig cyfle i ystyried tâl ac amodau gwasanaeth barnwrol mewn modd mwy cynhwysfawr sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Tribiwnlysoedd Cymru wedi cael gwahoddiad i ymgysylltu â’r broses adolygu drwy gymryd rhan yng Ngrŵp Cynghori a Thystiolaeth y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion, ac rwy’n bwriadu ymgysylltu’n llawn â’r broses i sicrhau bod tystiolaeth berthnasol mewn perthynas â deiliaid swyddi barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei chyflwyno i’r Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion.

Gwahaniaethau Parhaus yn y Telerau ac Amodau

4.8 Er gwaethaf y cynnydd a wnaed o ran sicrhau cydraddoldeb rhwng cyfraddau cyflog a thribiwnlysoedd GLlTEF, mae gwahaniaethau sylweddol o hyd yn y telerau ac amodau gwasanaeth ehangach sy’n arwain at wahaniaethau mewn cyflog (ymysg pethau eraill), e.e. talu am amser paratoi ac ysgrifennu. Mae’r gwahaniaethau hyn yn codi rhwng Tribiwnlysoedd Cymru a thribiwnlysoedd GLlTEF, ond hefyd i raddau rhwng Tribiwnlysoedd Cymru.

4.9 Mae’r anghysondebau hyn yn parhau i achosi pryderon ynglyˆn â thegwch, ac maent yn debygol o gael effaith niweidiol ar forâl a chynllunio’r gweithlu yn y tymor hir. Mae mynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn yn dal yn flaenoriaeth; ac mae’r gwaith o ganfod gwahaniaethau yn parhau, ynghyd a thrafodaethau ynghylch a ddylid mynd i’r afael â gwahaniaethau o’r fath a sut dylid gwneud hynny. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrthi’n cynnal ymarfer ar wahaniaethau o’r fath rhwng deiliaid swyddi barnwrol tribiwnlysoedd GLlTEF, mewn ymarfer soffistigedig sydd wedi bod ar waith ers tro byd, ac rydym yn parhau i edrych arno gyda diddordeb.

Sylw i Gloi

4.10 Mae Tribiwnlysoedd Cymru yn parhau i arfer rheolaeth ariannol ddarbodus ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i dryloywder ac atebolrwydd. Mae ailgalibradu’r gyllideb, a gweithio’n agosach gyda gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud â’r gyllideb, yn ddatblygiadau i’w croesawu.

5. Diwygio Tribiwnlysoedd

5.1 Yn fy Adroddiad diwethaf, disgrifiais gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, sy’n adeiladu ar waith ac argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a Chomisiwn y Gyfraith.

5.2 Ym mharagraffau 8.2 ac 8.3 yr Adroddiad hwnnw, crynhoais ddibenion a phrif elfennau arfaethedig y diwygiadau a gynigir ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru, “System Dribiwnlysoedd Newydd i Gymru: System fodern ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig Cymru”, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024.

5.3 Dyma ddiben penodol y mesurau arfaethedig:

  1. sefydlu system dribiwnlysoedd gliriach, symlach, fwy effeithiol a chydlynol sy’n canolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder ac anghenion defnyddwyr tribiwnlysoedd
  2. gosod sylfaen gadarn ar gyfer newidiadau i’r system gyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol
  3. gwarchod annibyniaeth farnwrol, gan gynnwys drwy roi mwy o annibyniaeth strwythurol i weinyddu cyfiawnder.

5.4 Yn unol â’r nodau hynny, dyma brif elfennau’r diwygiadau.

  1. Creu system dribiwnlysoedd unedig ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, sy’n cynnwys tribiwnlys haen gyntaf (y byddai’r tribiwnlysoedd presennol yn ffurfio siambrau penodol ohono) a Thribiwnlys Apêl Cymru a fyddai’n gwrando apeliadau o’r tribiwnlys haen gyntaf. Bwriedir dod â Thribiwnlys Prisio Cymru ac apeliadau derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion i mewn i’r system honno, ond nid yn syth o reidrwydd. Yr her yw creu strwythur tribiwnlysoedd unedig, hyblyg a chadarn sy’n gallu amsugno awdurdodaethau tribiwnlysoedd datganoledig presennol a phrosesau apelio a fydd yn deillio o ddeddfwriaeth yn y dyfodol a/neu ddatganoli’r system gyfiawnder ymhellach.
  2. Dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth farnwrol sy’n berthnasol i’r rheini sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder fel sy’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru, hynny yw, y Gweinidogion perthnasol ac, o bosibl, aelodau’r Senedd hefyd.
  3. Gwella ac egluro swydd a rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy gyfeirio at bwerau a dyletswyddau statudol penodol fel llywyddu yng ngwrandawiadau Tribiwnlys Apêl Cymru, goruchwylio cwynion yn erbyn aelodau tribiwnlysoedd a phenderfynu ar gwynion yn erbyn uwch farnwriaeth tribiwnlysoedd, a chadeirio Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd arfaethedig Cymru (a fyddai’n gyfrifol am reolau pob tribiwnlys yn y system ddiwygiedig arfaethedig).
  4. Bydd aelodau’n parhau i gael eu dewis drwy ymarfer y Comisiwn Penodiadau Barnwrol; ond bydd ffurfioldeb penodiadau’n cael ei symleiddio. Ni fydd gan yr Arglwydd Ganghellor unrhyw rôl. Yn gyffredinol, bydd aelodau’n cael eu penodi’n ffurfiol gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, er y bydd uwch-farnwyr yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Bydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn dod yn swydd ddatganoledig.
  5. Gwahanu swyddogaethau gweithredol a gweinyddol y system dribiwnlysoedd newydd yn strwythurol oddi wrth swyddogaethau gweithredol Llywodraeth Cymru, drwy greu Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru neu Adran Anweinidogol a fyddai’n cael swyddogaethau Uned Tribiwnlysoedd Cymru, gyda’r Cadeirydd naill ai’n cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru neu’n Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ex officio.

5.5 Nid yw fy marn am ddymunoldeb, manteision nac, yn wir, yr angen i ddiwygio tribiwnlysoedd yng Nghymru wedi newid; ac yr wyf yn dal yn gefnogol iawn i’r diwygiadau a nodwyd yn y Papur Gwyn. Yn fy marn i, mae diwygiadau o’r fath yn hanfodol i gynnydd system gyfiawnder effeithlon ac effeithiol yng Nghymru.

5.6 Fel y nodwyd uchod, mae angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer y rhaglen ddiwygio, ac, ar adeg fy Adroddiad diwethaf, er nad oedd union amseriad y ddeddfwriaeth honno wedi’i gadarnhau, y gobaith oedd y byddai’n cael ei chyflwyno yn y Senedd bresennol, rywbryd yn 2025, gan ddod i rym yn 2026. Er ei bod yn wastad yn glir y byddai unrhyw Fil Tribiwnlysoedd (fel unrhyw ddeddfwriaeth) yn amodol ar yr amser sydd ar gael yn y Senedd, mae Prif Weinidogion a Chwnsleriaid Cyffredinol olynol Cymru wedi egluro i mi eu hymrwymiad ac ymrwymiad eu Llywodraeth i ddiwygio tribiwnlysoedd a’u dealltwriaeth o’i fanteision i’r system gyfiawnder ac i bobl Cymru.

5.7 Felly, hyd yn oed pan gyhoeddwyd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwaredd flwyddyn y Senedd bresennol ym mis Gorffennaf 2024 heb gyfeirio at Fil Tribiwnlysoedd, roeddwn yn dal yn optimistaidd y byddai Bil yn cael ei gyflwyno yn ystod blwyddyn olaf y Senedd.

5.8 Fodd bynnag, ar 29 Ebrill 2025, nododd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y Senedd bresennol ac ni chafodd Bil Tribiwnlysoedd ei gynnwys ynddo. O ganlyniad, gwyddom bellach na fydd Bil Tribiwnlysoedd yn cael ei gyflwyno cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

5.9 Fel y rhan fwyaf o’r rhai sy’n ymwneud â thribiwnlysoedd yng Nghymru, rwy’n siomedig. Fodd bynnag, caiff y siom honno ei lliniaru i raddau mewn sawl ffordd.

5.10 Yn gyntaf, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi cadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r rhaglen ddiwygio; ac, fel y cadarnhawyd yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gada’r Cwnsler Cyffredinol a chyda Thîm Polisi Cyfiawnder Llywodraeth Cymru, yr wyf yn falch, hyd yn oed yn absenoldeb amserlen y cytunwyd arni ar gyfer y Bil, fod gwaith paratoi ar gyfer y Bil wedi parhau gyda’r bwriad o gael y Bil yn barod i’w gyflwyno gan y Llywodraeth nesaf ar ôl etholiadau 2026.

5.11 Yn ail, er bod deddfwriaeth yn hanfodol i’r rhaglen diwygio tribiwnlysoedd, bydd ei gweithredu hefyd yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen honno – trosglwyddo swyddogaethau a gweinyddiaeth y tribiwnlysoedd datganoledig (gan gynnwys unrhyw awdurdodaethau newydd a allai ddod yn rhan o’r system ddiwygiedig fel rhan o’r rhaglen diwygio tribiwnlysoedd) gan sicrhau bod busnes y tribiwnlysoedd yn mynd rhagddo fel arfer, yn enwedig os yw’r rhaglen ddiwygio, fel sy’n debygol, yn cyd-daro â chyfnod o alw cynyddol am wrandawiadau ac apeliadau. Rwy’n falch o ddweud bod Uned Tribiwnlysoedd Cymru, Tribiwnlys Prisio Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’i gilydd i fapio gwaith gweithredu dros dro.

5.12 Yn drydydd, fel y nodwyd uchod (paragraff 4.4), cymeradwywyd ein cais am wariant cyfalaf angenrheidiol ar system rheoli achosion newydd ar gyfer ein holl dribiwnlysoedd, fel bod y gwaith o sicrhau bod system weithredol yn cael ei chomisiynu a’i darparu i’n tribiwnlysoedd yn gallu dechrau’n brydlon.

5.13 Yn bedwerydd, rydym wedi bod yn bwrw ymlaen ar y sail y byddai rhai agweddau ar ein tribiwnlysoedd y mae angen eu hadolygu yn cael eu hailystyried fel rhan o’r rhaglen diwygio tribiwnlysoedd. Nawr bod y gwaith o weithredu unrhyw raglen diwygio tribiwnlysoedd wedi cael ei ohirio tan 2027 (ac, mae’n debyg, 2028) ar y cynharaf, rwy’n adolygu’r rhestr honno i nodi materion y dylid bwrw ymlaen â nhw’n gynt na gweithredu unrhyw raglen gyffredinol i ddiwygio tribiwnlysoedd. Un enghraifft yw telerau ac amodau aelodau y cyfeirir atynt uchod nad ydynt, gellir dadlau, yn deg rhwng aelodau yn ein Tribiwnlysoedd Cymreig gwahanol neu o’u cymharu â rhai tribiwnlysoedd GLlTEF. Mae’r rhain yn faterion rwy’n awr yn eu codi gyda Llywodraeth Cymru.

5.14 Byddaf yn parhau i annog a chefnogi gwaith paratoi ar gyfer rhaglen y tribiwnlysoedd, fel y bydd y Bil, beth bynnag fydd cyfansoddiad y Senedd ar ôl etholiad 2026, yn barod i’w ystyried gan y Llywodraeth newydd, a byddwn yn barod i weithredu’r Bil pan gaiff ei basio.

6. Hyfforddiant Barnwrol

6.1 Fel y nodwyd uchod, mae gennyf ddyletswydd statudol benodol i gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddi aelodau Tribiwnlysoedd Cymru o fewn yr adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

6.2 Mae hyfforddiant barnwrol yn her benodol i ni oherwydd (i) o’i gymharu â thribiwnlysoedd GLlTEF, mae ein tribiwnlysoedd yn fach ac nid oes gennym yr un capasiti i sicrhau gostyngiadau fesul aelod o ganlyniad i faint, a (ii) nid oes gan y Coleg Barnwrol gylch gwaith i hyfforddi aelodau tribiwnlysoedd datganoledig, ac felly nid oes gennym yr un mynediad at ei gyfleusterau â thribiwnlysoedd GLlTEF a’u haelodau. Yn wir, o ran presenoldeb yng nghynadleddau’r Coleg Barnwrol, dim ond mewn amgylchiadau prin lle nad yw tribiwnlysoedd GLlTEF yn llenwi holl leoedd y gynhadledd yr ydym yn cael mynediad.

6.3 Yn draddodiadol, mae’r hyfforddiant a ddarperir gan bob un o’r tribiwnlysoedd Cymreig yn cynnwys hyfforddiant blynyddol o un neu ddau ddiwrnod yn olynol fel arfer, gyda hyfforddiant ychwanegol (er enghraifft) ar unrhyw ddarpariaethau statudol newydd sy’n newid gwaith y tribiwnlys ac y mae angen hyfforddiant penodol ar ei gyfer cyn gweithredu. Mae gan Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru hefyd bedwar gweithdy blynyddol, a disgwylir i aelodau fynychu un ohonynt, sef dau wyneb yn wyneb yn Ne Cymru, un yng Ngogledd Cymru a gweithdy o bell ar gyfer y rhai na allant fynychu unrhyw un o’r rheini sy’n wyneb yn wyneb. Ar gyfer y rhan fwyaf o’r tribiwnlysoedd, cynhelir y gynhadledd flynyddol wyneb yn wyneb, ac mae’n gyfle prin a gwerthfawr i’r aelodau gyfarfod a thrafod materion yn anffurfiol yn ogystal â mewn cyd-destun hyfforddi ffurfiol. Yn fy mlwyddyn gyntaf fel Llywydd, mynychais gynhadledd hyfforddi flynyddol pob Tribiwnlys yng Nghymru.

6.4 Yr wyf wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion hyfforddi hyn.

6.4.1 Rwyf wedi penodi Barnwr Arweiniol ar gyfer Hyfforddiant i ystyried gwahanol ddulliau hyfforddi, gan gynnwys y ffordd orau o ddarparu rhywfaint o hyfforddiant o bell ac mewn ffyrdd newydd eraill, gyda’r bwriad o gynyddu’r hyfforddiant y gallwn ei roi i aelodau o fewn y gyllideb hyfforddi.

6.4.2 Fel y rhagnodwyd yn fy adroddiad diwethaf, rydym wedi sefydlu system adborth gyffredin o sesiynau hyfforddi, ac wedi dadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd sydd wedi helpu i ganfod anghenion hyfforddi. Mae hyn wedi cyfrannu at gynnwys sesiynau hyfforddi’r tribiwnlysoedd.

6.4.3 O ran yr arbedion sydd ar gael oherwydd maint, rydym wedi ystyried cynnal ein cynadleddau awdurdodaethol yn yr un lleoliad ar yr un diwrnod gyda pheth llwyddiant: y llynedd, cynhaliodd Tribiwnlys Addysg Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru eu cynadleddau ar yr un diwrnod yn yr un lleoliad a rhannu rhai o’r sesiynau a oedd â chynnwys a oedd yn berthnasol i’r ddau. Yn gyffredinol, mae integreiddio hyfforddiant yn anodd oherwydd y gwahaniaethau yn y gwaith y mae pob un o’n tribiwnlysoedd yn delio ag ef; ond rydym yn ystyried cael sesiynau ar y cyd ar bynciau sy’n drawsawdurdodaethol (fel “crefft barnwr”, a chymryd tystiolaeth gan dystion agored i niwed).

6.4.4 Mewn perthynas â’r Coleg Barnwrol, rwyf wedi cyfarfod â’r Cyfarwyddwr; ac mae’r Coleg yn fodlon cynorthwyo cymaint ag y gall, o ystyried y cyfyngiadau ar ei rôl/cylch gorchwyl statudol. Hyd yn oed lle nad oes lle ar gwrs i’n haelodau, mae wedi cytuno y gallai fod yn bosibl i uwch-aelodau ein tribiwnlysoedd fynychu cynhadledd fel sylwedyddion a thrwy hynny gael gwybodaeth (a deunyddiau) a fydd yn helpu gyda’n hyfforddiant ein hunain. O ganlyniad, mae ein dau farnwr tribiwnlys cyflogedig yn Nhribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru wedi mynychu cwrs cyfraith iechyd meddwl y Coleg Barnwrol ar y sail honno ac wedi gallu bwydo rhywfaint o’r dysgu i sesiynau hyfforddi Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

6.5 Mae’r rhain yn ddechreuadau defnyddiol. Fodd bynnag, mae llawer o waith pellach i’w wneud, e.e. o ran y math o hyfforddiant a ddarparwn. Byddwn yn mynd ar drywydd hyn yn y flwyddyn i ddod.

7. Cynhwysiant ac Amrywiaeth

7.1 Yn fy rhestr o Flaenoriaethau ar gyfer 2024-25, dywedais y byddwn yn “sefydlu data, ar sail ddienw, ar gyfansoddiad deiliaid swyddi barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru o ran nodweddion perthnasol (e.e. rhywedd, cefndir hil, arbenigedd/profiad proffesiynol a chefndir cymdeithasol)”; ac yna’n “nodi unrhyw bryderon am y cyfansoddiad hwnnw gan gynnwys ei effaith ar y gallu i gael paneli amrywiol a’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â’r pryderon hynny”.

7.2 Mae llunio holiadur priodol i ddeiliaid swyddi barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru ei lenwi wedi bod yn heriol, ond rydym bellach wedi cwblhau’r ymarfer sylweddol hwnnw. Rydym wrthi’n digideiddio’r holiadur ac yn ei ddosbarthu i bob deiliad swydd farnwrol i’w lenwi.

7.3 Y gobaith yw y byddwn yn gallu dadansoddi’r data sy’n deillio o’r ymarfer hwn yn ddiweddarach eleni.

8. Yr Iaith Gymraeg

8.1 Yn fy Adroddiad diwethaf, nodais ein rhwymedigaethau cyfreithiol o ran defnyddio’r Gymraeg yn ein tribiwnlysoedd. Nid yw’r rhain wedi newid.

8.2 Mae Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, Tribiwnlys Addysg Cymru, Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru a Thribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru wedi’u rhestru yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Felly maent yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau a’r safonau a nodir yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016. Cafodd Panel Dyfarnu Cymru ei gynnwys yn Atodlen 6 i’r Mesur gan Reoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025, a ddaeth i rym ar 28 Mawrth 2025, ond nid yw’n destun Hysbysiad Cydymffurfio Safonau’r Gymraeg eto.

8.3 Mae’r tribiwnlysoedd sy’n dod o fewn y Mesur ond yn gorfod cydymffurfio â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, y Safonau Llunio Polisi a nodir yn Atodlen 2 (y gofyniad i ystyried effaith polisïau newydd ar y Gymraeg), a’r Safonau Cadw Cofnodion a nodir yn Atodlen 4 (yn achos Tribiwnlysoedd Cymru, cadw cofnodion o gwynion sy’n ymwneud â’r Gymraeg). Nid oes yr un yn ddarostyngedig i’r safonau a nodir yn yr Atodlenni eraill, sef y Safonau Hybu na’r Safonau Gweithredu. Er nad yw Tribiwnlys y Gymraeg, Panel Dyfarnu Cymru na Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cael eu llywodraethu’n ffurfiol gan y Mesur na’r Rheoliadau, mae pob un ohonynt yn cydymffurfio’n wirfoddol â’r un safonau, gan gydnabod ysbryd y cynllun.

8.4 Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi blaenoriaethu hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Fel rhan o’r ymdrech hon, rydym wedi adolygu ein ffurflenni ac wedi cynnal arolwg i asesu sgiliau Cymraeg deiliaid swyddi barnwrol y tribiwnlys. Eleni, ein nod yw adeiladu ar y cynnydd hwn, gan wreiddio’r defnydd o’r Gymraeg ymhellach yn ein gweithrediadau bob dydd a’i gwneud yn arfer safonol.

8.5 Er y gall pob tribiwnlys ddarparu gwasanaethau gweinyddol a gwrandawiadau yn Gymraeg, ychydig iawn a ddefnyddir ar yr iaith yn ein tribiwnlysoedd, fel y gwelir o’r tabl isod.

Tabl 2: Gwrandawiadau a gynhaliwyd yn Gymraeg
TribiwnlysBlwyddyn ariannol 2020-2021Blwyddyn ariannol 2021-2022Blwyddyn ariannol 2022-2023Blwyddyn ariannol 2023-2024Blwyddyn ariannol 2024-2025
Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru00000
Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru53398
Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru00000
Tribiwnlys Addysg Cymru*10316
Panel Dyfarnu Cymru00000
Tribiwnlys y Gymraeg10221

* Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn flaenorol. Cafodd ei ailenwi o 1 Medi 2021 ymlaen gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

8.6 Fel y gwelir o Dabl 2 uchod, mae’n bleser gennyf adrodd am gynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg yn Nhribiwnlys Addysg Cymru. Ymddengys fod hyn wedi bod yn ganlyniad cadarnhaol i newidiadau i’r ffurflenni cais.

8.7 Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal ymarfer casglu data gyda’r bwriad o ganfod unrhyw rwystrau sy’n atal siaradwyr Cymraeg rhag defnyddio’r Gymraeg mewn gwrandawiadau tribiwnlys. Ychydig iawn o ddata a gasglwyd, h.y. ychydig iawn o ymgeiswyr sydd wedi ymateb i’r cwestiwn. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod yr atebion a ddarparwyd yn dangos bod yn well gan y grwˆp hwn gyfathrebu yn Saesneg, gan nodi rhesymau amrywiol dros y dewis hwn, gan gynnwys gwell rhuglder, hyder a dealltwriaeth yn yr iaith honno. Mae rhai yn siarad Cymraeg yn rhugl ond yn gweld terminoleg broffesiynol yn haws yn Saesneg. Mae gan rai eraill bartneriaid sy’n bwriadu mynychu’r gwrandawiad, ond sydd ddim yn medru’r Gymraeg. Dywed sawl ymatebydd eu bod wedi symud o Loegr yn ddiweddar neu mai dim ond dealltwriaeth sylfaenol sydd ganddynt o’r Gymraeg, sy’n golygu mai Saesneg yw eu dewis iaith ar gyfer cyfathrebu. Ymddengys mai’r thema gyffredin yw bod ymgeiswyr yn fwy “cyfforddus” yn defnyddio’r Saesneg wrth ymwneud â’r tribiwnlys (mewn ceisiadau, gohebiaeth ac ati) ac mewn gwrandawiadau. Nid oes unrhyw rwystr penodol i’r defnydd o’r Gymraeg yn ymddangos o’r ffurflenni.

8.8 Byddwn yn parhau i gasglu a dadansoddi’r data a geir o’r ymarfer hwn. Byddwn hefyd yn parhau i egluro nad yw’r opsiwn yn ddeuaidd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg; a’n bod ni’n barod ac yn abl i ffurfio panel gwirioneddol ddwyieithog ar gyfer unrhyw achos, lle gall unrhyw gyfranogwr ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg yn gyfnewidiol ar unrhyw adeg yn y gwrandawiad. Gobeithiwn y bydd hyn yn annog y rhai sydd ddim yn hyderus neu’n hyfedr iawn yn y Gymraeg, neu sydd heb eirfa’n ymestyn i dermau technegol, i ddewis defnyddio’r iaith i’r graddau y maent yn alluog ac yn gyfforddus i wneud hynny.

9. Ymddeoliadau a Phenodiadau

9.1 Mae nifer o Arweinwyr Barnwrol wedi gadael eu swyddi eleni, naill ai i symud i swyddi barnwrol eraill neu i ymddeol: Claire Sharp (Panel Dyfarnu Cymru), Carolyn Kirby OBE (Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru), Richard Payne (Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru) ac Iwan Jenkins (Tribiwnlys y Gymraeg). Rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniad a’u hymrwymiad sylweddol iawn, i’w tribiwnlysoedd eu hunain ac i Dribiwnlysoedd Cymru a’r system gyfiawnder yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Bu pob un yn gwasanaethu am sawl blwyddyn; ond hoffwn sôn yn benodol am Carolyn Kirby a ymddeolodd, ar 4 Ebrill 2025, fel Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ar ôl dros 25 mlynedd yn y swydd honno. Hoffwn ddiolch o galon iddi am ei chyfraniad sylweddol – yn wir, na welwyd ei debyg o’r blaen.

9.2 Gwnaethom groesawu eu holynwyr, pob un wedi’i ddewis yn dilyn proses agored gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol: Meleri Tudur (Panel Dyfarnu Cymru) a benodwyd ar 1 Ebrill 2024, Trefor Lloyd (Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru) a benodwyd ar 15 Hydref 2024, a Betsan Criddle (Tribiwnlys y Gymraeg) a benodwyd ar 24 Hydref 2024. Mae pob un eisoes wedi gwneud ei farc, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol. Mae swydd Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn destun cystadleuaeth gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio y bydd penodiad yn cael ei wneud cyn yr haf.

9.3 Ar ben hynny, penodwyd y deiliaid swyddi barnwrol canlynol yn ystod y flwyddyn:

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru: Penodwyd tri Aelod Lleyg ar 6 Mehefin 2024; a phenodwyd dau Ddirprwy Gadeirydd ar 4 Mawrth 2025 yn dilyn ymarferion gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.

Panel Dyfarnu Cymru: Penodwyd Edell Fitzpatrick yn Ddirprwy Lywydd ar 1 Ebrill 2024.

Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru: Penodwyd dau Farnwr Cyflogedig ar 1 Mai 2024, Richard Payne (Cyn Lywydd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru) a Christine Butcher, yn dilyn ymarfer gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Penodwyd Dirprwy Meddygol, Gaynor Jones, ym mis Ionawr 2024, a phenodwyd tri Aelod Meddygol ar 26 Mawrth 2025, yn dilyn ymarferion Mynegi Diddordeb.

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru: Penodwyd tri Aelod Proffesiynol ar 2 Ebrill 2024, yn dilyn ymarfer gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol; a phenodwyd pum Aelod Cyfreithiol ar 12 Mehefin 2024 yn dilyn ymarfer traws-docynnu gyda’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (tribiwnlys GLlTEF). Mae swydd y Dirprwy yn destun cystadleuaeth gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ar hyn o bryd, a disgwylir canlyniad yn yr haf.

Tribiwnlys y Gymraeg: Mae ymarfer gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ar gyfer Aelodau Lleyg yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a disgwylir canlyniad yn yr haf.

10. Sylwadau Terfynol

10.1 Yn ogystal â delio â cheisiadau sydd wedi dod gerbron ein tribiwnlysoedd, yn effeithlon ac yn effeithiol, mae’r gwaith paratoi ar gyfer y rhaglen diwygio tribiwnlysoedd wedi bod yn flaenllaw eleni; a rhoi atebolrwydd Tribiwnlysoedd Cymru ar sylfaen fwy cadarn. Er gwaethaf y siom ynghylch y cyntaf, rydym wedi parhau i adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer ein tribiwnlysoedd a fydd o fudd mawr i ni yn y dyfodol, yn enwedig pan fydd Bil Diwygio Tribiwnlysoedd yn cael ei gyflwyno, fel yr wyf yn gobeithio ac yn disgwyl. Byddwn yn parhau i baratoi ar gyfer hynny.

10.2 Hoffwn ddiolch i Weinidogion Cymru, ac yn enwedig i’r Cwnsleriaid Cyffredinol Mick Antoniw AS a Julie James AS a’r Prif Weinidog y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan, y Farwnes Morgan o Drelái AS, am eu cefnogaeth barhaus i Dribiwnlysoedd Cymru. Rydym yn parhau i ymgysylltu’n weithredol, yn rheolaidd ac yn gadarnhaol â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd o fudd sylweddol i system Tribiwnlysoedd Cymru a’r rhai rydym yn eu gwasanaethu. Rwy’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth honno’n fawr ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw dros y deuddeg mis nesaf.

10.3 Rhaid i mi hefyd ddiolch i ddeiliaid swyddi barnwrol y tribiwnlysoedd, yn enwedig yr Arweinwyr Barnwrol sydd â rheolaeth farnwrol o ddydd i ddydd dros eu hawdurdodaethau perthnasol – ac i’r holl staff yn Uned Tribiwnlysoedd Cymru sy’n parhau i weithio o dan amodau heriol. Mae pob un wedi ymrwymo i wella’r systemau rydym yn gweithio oddi tanynt, ac i wasanaethu’r ymgeiswyr unigol sydd angen troi at ein tribiwnlysoedd. Mae arnom ddyled o ddiolchgarwch iddynt i gyd.

10.4 Edrychaf ymlaen at y flwyddyn i ddod, yn y gobaith a’r disgwyliad y bydd yn flwyddyn arall o gynnydd a gwelliant yn ein gwasanaeth i’r system gyfiawnder ddatganoledig yng Nghymru.

Y Gwir Anrhydeddus Syr Gary Hickinbottom
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
Gorffennaf 2025

Atodiad: Blaenoriaethau 2024-2025

Blaenoriaeth A: Diwygio’r Tribiwnlysoedd
CyfeirnodGweithgareddLlywydd Tribiwnlysoedd Cymru/ Arweinwyr Barnwrol/ Arweinwyr Hyfforddi/ Uned Tribiwnlysoedd Cymru
A1Ymgysylltu’n llawn â’r Tîm Polisi Diwygio Tribiwnlysoedd a’i gefnogi ym mhob cam o’r rhaglen diwygio tribiwnlysoedd, gan gynnwys ei gweithredu.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
A2Ymgysylltu â’r Arweinwyr Barnwrol ar gamau allweddol yn y broses diwygio tribiwnlysoedd, gan gynnwys sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio tribiwnlysoedd yn cael ei chyfleu gan y Tîm Polisi Diwygio Tribiwnlysoedd yng nghyfarfodydd Arweinwyr Barnwrol.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
A3Cyfathrebu â holl aelodau/defnyddwyr y tribiwnlysoedd ynghylch cynnydd y Bil ar gamau allweddol.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru/ Arweinwyr Barnwrol/Uned Tribiwnlysoedd Cymru
A4Nodi gwahaniaethau mewn arferion gwaith presennol a Thelerau ac Amodau rhwng Deiliaid Swyddi Barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru barnwyr/aelodau, a rhwng Deiliaid Swyddi Barnwrol GLlTEF/Tribiwnlysoedd Cymru, gyda’r bwriad o sicrhau bod modd mynd i’r afael â gwahaniaethau o’r fath fel rhan o’r Rhaglen Diwygio Tribiwnlysoedd.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru/Uned Tribiwnlysoedd Cymru
A5Ymgysylltu â rhannau eraill o’r system farnwrol a chyfiawnder yng Nghymru i sicrhau bod deiliaid swyddi barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru yn cael eu cydnabod yn briodol yn y systemau hynny.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
A7Gweithio gyda’r Tîm Polisi Diwygio Tribiwnlysoedd, a pharatoi ar gyfer cydlynu a chyfuno Tribiwnlysoedd Cymru yn y pen draw fel rhan o gam gweithredu’r rhaglen ddiwygio.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru/ Arweinwyr Barnwrol/Uned Tribiwnlysoedd Cymru
Blaenoriaeth B: Hyfforddiant Barnwrol
CyfeirnodGweithgareddLlywydd Tribiwnlysoedd Cymru/ Arweinwyr Barnwrol/ Arweinwyr Hyfforddi/ Uned Tribiwnlysoedd Cymru
B1Ar ôl adolygu’r adborth o sesiynau hyfforddi 2023-24 gan yr Arweinydd Hyfforddiant, nodi anghenion hyfforddi barnwrol ar gyfer pob tribiwnlys, a sut bydd hyfforddiant i ddiwallu’r anghenion hynny’n cael ei ddarparu (e.e. (i) wyneb yn wyneb, (ii) ar-lein a (iii) ar ffurf ysgrifenedig neu wedi’i chofnodi) gyda’r bwriad o sicrhau bod deiliaid swyddi barnwrol yn cael eu hyfforddi’n briodol ar gyfer eu swyddi a bod yr hyfforddiant a roddir yn cynnig y gwerth gorau am arian.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru/ Arweinwyr Hyfforddi/ Arweinwyr Barnwrol
B2Cyhoeddi costau blynyddol hyfforddiant barnwrol ar gyfer pob tribiwnlys yn yr Adroddiadau Blynyddol.Arweinwyr Barnwrol/Uned Tribiwnlysoedd Cymru
Blaenoriaeth C: Cynhwysiant, Amrywiaeth a’r Gymraeg
CyfeirnodGweithgareddLlywydd Tribiwnlysoedd Cymru/ Arweinwyr Barnwrol/ Arweinwyr Hyfforddi/ Uned Tribiwnlysoedd Cymru
C1Sefydlu data, ar sail ddienw, ar gyfansoddiad deiliaid swyddi barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru o ran nodweddion perthnasol (e.e. rhywedd, cefndir hil, arbenigedd/profiad proffesiynol a chefndir cymdeithasol).Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru/ Arweinwyr Barnwrol/Uned Tribiwnlysoedd Cymru
C2Nodi unrhyw bryderon am y cyfansoddiad hwnnw gan gynnwys ei effaith ar y gallu i gael paneli amrywiol a’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru/Uned Tribiwnlysoedd Cymru
C3Monitro data a gafwyd gan hawlwyr ynghylch eu dewis iaith (a pham mae hawlwyr Cymraeg eu hiaith yn dewis defnyddio’r Saesneg wrth gynnal achosion gerbron Tribiwnlysoedd Cymru); ac, ar sail y data hynny, nodi gwelliannau y gellir eu gwneud i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ein tribiwnlysoedd.Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru/Uned Tribiwnlysoedd Cymru
Image