Neidio i'r prif gynnwy

Mae trigolion sy'n byw ger adeiladau hanesyddol a safleoedd treftadaeth yng Nghymru yn cael eu hannog i adrodd ynghylch ymddygiad amheus yn dilyn achosion diweddar o fandaliaeth a throseddau treftadaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ystod o weithgareddau anghyfreithlon a elwir gyda'i gilydd yn droseddau treftadaeth yn rhoi henebion, cestyll ac adeiladau rhestredig Cymru mewn mwy a mwy o berygl. Mae'n drosedd i ddifrodi neu ddinistrio heneb gofrestredig neu ddefnyddio synwyryddion metel ar safleoedd gwarchodedig heb ganiatâd. Mae'r troseddau hyn nid yn unig yn difrodi treftadaeth anhygoel ond hefyd yn effeithio ar gymunedau lleol, twristiaeth a'r economi.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:

Mae troseddau treftadaeth yn fwy na fandaliaeth – mae’n gwneud inni golli ein hanes. Ond gall adrodd amdano helpu i ddiogelu gorffennol Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, felly byddwn yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus.

Ers dechrau'r flwyddyn, mae ceidwaid Cadw mewn sawl safle wedi gorfod rhoi gwybod am achosion o ddifrod troseddol i'r heddlu sydd wedi arwain at safleoedd yn cael eu cau'n rhannol i'r cyhoedd, costau ychwanegol a gwaith cadwraeth a oedd wedi'i gynllunio yn cael ei ohirio i flaenoriaethu gwaith atgyweirio.

Mae Abaty Castell-nedd wedi gweld cyfres o ddigwyddiadau.  Yn gynharach eleni cafodd arwyddion dehongli newydd eu difrodi a'r glaswellt wedi'i rwygo ar ôl i ymosodwyr dorri i mewn i'r safle a'i ddefnyddio fel trac beiciau. Mewn ail ddigwyddiad, torrwyd ffenestri i'r is-grofft, a dinistriwyd paneli o arddangosfa a oedd dal heb ei hagor.

Cafodd Todd-dŷ Gwaith Haearn Blaenafon ei gau i'r cyhoedd yn ddiweddar ar ôl i arddangosfa gael ei fandaleiddio a brics gael eu taflu o ben tŵr.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Amffitheatr a Barics Caerllion wedi cynnwys achosion o graffiti, gwres barbeciw yn dinistrio gwaith brics Rhufeinig a hyd yn oed beic modur wedi'i losgi ar y safle, ynghyd â difrod dro ar ôl tro i'r gwaith maen sy'n gofyn i seiri maen Cadw wneud gwaith atgyweirio brys.

Beth yw troseddau treftadaeth?

Mae troseddau treftadaeth yn cyfeirio at unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy'n dinistrio ein hasedau hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys:

  • dwyn (e.e. metel hanesyddol fel plwm o doeau eglwysi)
  • difrod bwriadol (e.e. graffiti neu fandaliaeth)
  • gwaith anawdurdodedig ar henebion cofrestredig
  • canfod metel yn anghyfreithlon (a elwir hefyd yn "nighthawking")
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol (e.e. taflu sbwriel, mynediad y tu allan i oriau neu ddringo ar waliau)

Sut i adrodd am droseddau treftadaeth

Os ydych chi'n dyst neu'n amau trosedd treftadaeth:

  • mewn argyfwng: Ffoniwch 999 a defnyddiwch yr ymadrodd 'Operation Heritage Cymru'
  • heb fod yn argyfwng: Ffoniwch 101 a defnyddiwch yr ymadrodd 'Operation Heritage Cymru'
  • i aros yn ddienw: Cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i www.crimestoppers-uk.org

Cewch hefyd:

  • roi gwybod am ddifrod i Cadw os yw'n ymwneud â heneb gofrestredig
  • rhowch wybod i Swyddog Cadwraeth eich Awdurdod Lleol os yw trosedd yn effeithio ar adeilad rhestredig
  • ymunwch â'ch cynllun Gwarchod Treftadaeth lleol
  • byddwch yn barod i gymryd manylion a darparu datganiad tyst i gefnogi ymchwiliadau a dedfrydu