Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd y cyn-gomisiynydd plant, Sally Holland, yn cadeirio’r asesiad annibynnol o’r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ddiogelwch yr holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol gan hefyd werthuso ansawdd y gwasanaethau hynny.

Mae’r asesiad sicrwydd wedi’i gynllunio i ddarparu sicrwydd amser real ac ar unwaith ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae hyn yn dilyn canlyniadau’r adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a phryderon am unedau mamolaeth a newyddenedigol eraill yn y DU.

Bydd lleisiau a phrofiadau menywod a theuluoedd wrth wraidd y gwaith hwn. Bydd eu safbwyntiau yn ganolog i ddeall ansawdd, diogelwch a diwylliant gwasanaethau.

Bydd y panel annibynnol o arbenigwyr, o dan arweiniad yr Athro Holland, yn rhoi argymhellion i’r Ysgrifennydd Iechyd ynglŷn â datblygu gwasanaethau a’u gwella yn y dyfodol.

Bydd yr Athro Holland yn arwain y Panel Trosolwg ar Asesu Sicrwydd Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol a fydd yn goruchwylio’r asesiad.

Mae’r Athro Holland yn academydd blaenllaw ym maes gofal cymdeithasol ac mae’n arbenigo mewn lles plant a theuluoedd, amddiffyn plant, cynnwys y cyhoedd, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ganddi hefyd gyfoeth o brofiad yn sgil ei hamser fel Comisiynydd Plant Cymru.

Bydd amrywiaeth o arbenigwyr yn ymuno â hi ar y panel, arbenigwyr sydd â phrofiad o ran ymwneud â theuluoedd, obstetreg, bydwreigiaeth a neonatoleg, a phob un ohonynt â diddordeb cyffredin mewn gwella ansawdd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Bydd yr asesiad hwn yn craffu ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru ac yn rhoi argymhellion ynglŷn â sut i’w gwella.

Rwyf wedi penodi’r panel hwn, sy’n cynnwys ystod o arbenigedd o wahanol feysydd, ar draws gwasanaethau iechyd cenedlaethol, i roi cyngor amhrisiadwy i geisio gwella gofal a phrofiad cleifion.

Rydyn ni’n cynnal yr asesiad hwn i gael sicrwydd am ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

Dywedodd yr Athro Sally Holland:

Mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau bod mamau, babanod a theuluoedd yn cael profiadau diogel a chadarnhaol ar adeg yn eu bywydau pan mae angen y gofal gorau posib arnyn nhw.

Yn yr asesiad hwn, byddwn ni’n sicrhau bod eu lleisiau a’u profiadau yn ganolog i’n gwaith, a’n bod yn nodi ymarfer ardderchog a meysydd lle mae angen eu gwella ar frys.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r panel arbenigol i sicrhau bod menywod, babanod a theuluoedd yn cael y gofal gorau posib, ble bynnag maen nhw’n byw yng Nghymru.

Mae aelodau’r panel arbenigol fel a ganlyn:

  • Ken Sutton: Cyn-gyfarwyddwr troseddu a phlismona yn y Swyddfa Gartref ac ysgrifennydd yr ymchwiliad annibynnol i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn Nwyrain Caint.
  • Heidi Smoult: Dechreuodd ar ei gyrfa fel bydwraig ac mae ganddi brofiad mewn cynnal adolygiadau ansawdd ac ymchwiliadau i ddigwyddiadau. Yn flaenorol, bu’n Brif Weithredwr Ysbyty Cyffredinol GIG Northampton a Dirprwy Brif Arolygydd y Comisiwn Ansawdd Gofal.
  • Sue Holden: Wedi’i hyfforddi fel nyrs a bydwraig, gweithiodd yn glinigol am 15 mlynedd ac mae bellach yn Gadeirydd yr Advancing Quality Alliance (AQuA). Cyn hynny, roedd hi’n Gyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth Dwys yn NHS England a NHS Improvement ac mae hi wedi ymgymryd â sawl rôl arweinyddiaeth o ran gwella cenedlaethol yn ystod ei gyrfa yn y GIG.
  • Dr Edile Murdoch: Neonatolegydd ymgynghorol yn NHS Lothian yng Nghaeredin ac yn un o gynghorwyr arbenigol cenedlaethol rhaglen mamolaeth a newyddenedigol NHS England.
  • Dr Jo Mountfield: Ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl gyrfa fel obstetregydd ymgynghorol am dros 20 mlynedd. Mae hi’n gyn-Gadeirydd y pwyllgor cynghori ar addysg arbenigol yng Ngholeg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr.
  • Yr Athro Mary Renfrew: Ymchwilydd iechyd blaenllaw sydd â chefndir clinigol ym maes bydwreigiaeth a bu hefyd yn gynghorydd arweiniol i’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Treuliodd 40 mlynedd yn ymchwilio i feysydd yn ymwneud â bwydo babanod, maeth, bydwreigiaeth a gofal mamolaeth gan roi cyngor i adrannau’r llywodraeth a sefydliadau byd-eang gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd ac UNICEF.

Bydd y panel trosolwg yn rhoi cyngor cychwynnol i’r Ysgrifennydd Iechyd erbyn diwedd y flwyddyn hon.