Neidio i'r prif gynnwy

£481,000 gan Lywodraeth Cymru i wella system camera gama Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg a rhoi hwb i ddiagnosteg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae camerâu gama yn chwarae rhan hanfodol wrth ganfod a gwneud diagnosis ar gyfer amryw o glefydau. Maen nhw’n defnyddio pelydrau gama a thechnoleg ddelweddu soffistigedig sy'n gallu creu delweddau manwl o organau a meinweoedd.

Bydd yr uwchraddio hwn yn ymestyn oes y camera gama presennol sy'n gwasanaethu rhanbarth y Gorllewin, drwy ddarparu proses ddelweddu a gwybodaeth 3D o'r radd flaenaf.

Bydd y camera mwy soffistigedig yn helpu i sicrhau bod meddygon yn gallu parhau i wneud diagnosis ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynllunio triniaethau effeithiol heb darfu ar wasanaethau diagnostig.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod gan ysbytai ar draws y wlad offer cwbl fodern o'r radd flaenaf er mwyn helpu timau meddygol i ddarparu'r gofal gorau posibl.

Bydd y £481,000 hwn yn golygu bod camera gama mwy soffistigedig ar gael i gefnogi gwasanaethau diagnostig hanfodol yn y Gorllewin a helpu i osgoi oedi wrth ddarparu triniaeth, gan sicrhau bod pobl yn derbyn gofal amserol ac effeithiol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Clinigol Radioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Liaquat Khan:

Rydyn ni’n falch iawn bod y cyllid sylweddol hwn wedi cael ei roi i Lwynhelyg i wella ein cyfleusterau Meddygaeth Niwclear. Bydd yn caniatáu inni gyflwyno meddalwedd ôl-brosesu newydd sy’n gallu darparu dadansoddiad mwy cynhwysfawr a soffistigedig o’r delweddau sy’n cael eu creu.

Bydd hefyd yn ein helpu i wella profiad y claf pan fydd yn cael gofal, gan greu amgylchedd mwy cyfforddus a chroesawgar i bobl sy’n mynd drwy broses ddelweddu arbenigol. Yn ogystal â gwasanaethu Llwynhelyg, bydd yr offer hanfodol hwn yn darparu gwasanaethau delweddu Meddygaeth Niwclear ar draws y bwrdd iechyd cyfan a thu hwnt.