Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru.1
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio barn y cyhoedd, cyfreithwyr unigol, a chynghorwyr treth sydd â diddordeb mewn materion cyfansoddiadol a threthiant (yn enwedig sut y gwneir newidiadau i'r rheolau sy'n berthnasol i drethi), yn ogystal â chyrff proffesiynol y mae gan eu haelodau ddiddordebau tebyg.
Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 28 Tachwedd. Bydd ystyried yr ymatebion yn helpu i gyflawni'r ddyletswydd statudol a roddwyd ar Weinidogion Cymru o dan adran 6 o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 i gyhoeddi casgliadau adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon erbyn 8 Medi 2026. Rhaid i'r adolygiad hwnnw gynnwys asesiad o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a'r rheoliadau a wnaed o dan unrhyw un o'r Deddfau hynny, a bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn a'r gwaith ymgysylltu gan fy swyddogion yn helpu i ddod i'r casgliadau hynny.
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn ategu'r gwaith sy'n cael ei wneud i baratoi ymgynghoriad ar ddarpariaethau posibl i'w cynnwys mewn Bil Cynnal Trethi. Gyda'i gilydd, byddant yn galluogi Llywodraeth a Senedd nesaf Cymru i weithio tuag at ganfod y dull mwyaf priodol o wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.
1Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
