Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 15 Gorffennaf 2025, fe godais wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o lefel 3 i lefel 4 yn dilyn cyhoeddi tri adolygiad allanol, pob un ohonynt yn codi themâu difrifol a chyffredin yn ymwneud â chyfathrebu a chyngor gwael; trawma ac ofn; menywod a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu; diffyg tosturi a gofal; gwneud penderfyniadau cytbwys; mynediad at ofal; a gwahanu partneriaid geni. Maent yn tynnu sylw at brofiadau annerbyniol cleifion a theuluoedd, materion diwylliannol, staffio, hyfforddiant ac adnoddau, a phryderon amgylcheddol a diogelwch.

Rwyf wedi cyfarfod â Phrif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar sawl achlysur i gael sicrwydd o ran diogelwch ac ansawdd y gofal a ddarperir mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. 

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais fy mwriad i benodi arsylwr annibynnol i eistedd ar y panel goruchwylio er mwyn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithredu argymhellion y bwrdd iechyd. 

Rwyf nawr mewn sefyllfa i gadarnhau mai Ann Gow fydd yr arsylwr annibynnol. Ar hyn o bryd mae Ann Gow yn Ddirprwy Brif Weithredwr gyda Health Improvement Scotland, ac fel cyn Arweinydd Nyrsio Gweithredol mae ganddi brofiad strategol, proffesiynol a gweithredol helaeth ar draws pob math o leoliad iechyd a gofal, gan gynnwys lleoliadau acíwt a cymunedol a Chyd-Fyrddau Integredig. Mae ganddi gefndir mewn gofal iechyd menywod a phlant ar ôl cymhwyso fel bydwraig ac ymwelydd iechyd.

Mae ei phrofiad ym maes arweinyddiaeth yn cynnwys goruchwyliaeth weithredol o ddarparu gwasanaethau gofal, llywodraethu sefydliadol, a gweithredu gwasanaethau. Mae ganddi brofiad o arweinyddiaeth weithredol mewn gwella, adolygu, rheoleiddio ac arolygu'r ddarpariaeth gofal iechyd ar draws pob sector.

Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Nyrsio a Gwella Systemau a Dirprwy Brif Weithredwr Healthcare Improvement Scotland, mae hi wedi arwain ar greu presenoldeb proffesiynol credadwy, gan wella proffesiynoldeb, amlygrwydd ac ymgysylltiad nyrsys, bydwragedd, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o fewn y sefydliad ac ar draws yr Alban, gyda goruchwyliaeth weithredol o raglenni gwella sydd â ffocws penodol ar staffio gofal iechyd, rhagoriaeth mewn gofal, a gwella gofal sylfaenol a gwasanaethau integredig.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.