Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad 

Mae'r canlynol yn wybodaeth atodol i Safon 11 - Meddyginiaeth, ac mae'n ymdrin â gweinyddu Parasetamol Hylifol o bryd i'w gilydd i blant sâl cyn iddynt gael eu casglu gan eu rhiant/gofalwr. 

Bydd achlysuron pan fydd plant yn mynd yn sâl iawn yn sydyn pan fyddant yn eich lleoliad.  Rhaid amddiffyn iechyd a lles plant bob amser ac mae'n ofyniad rheoleiddiol.  Ni ddylid caniatáu i blant sydd eisoes yn sâl, sydd â thymheredd uchel neu sy'n heintus ddod i'r lleoliad.  Mae'r rheol hon yn ei lle er mwyn diogelu iechyd plant eraill a staff (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed).  Gall plant a chanddynt symptomau anadlol ysgafn fel trwyn yn rhedeg, dolur gwddf, neu beswch bach, ond sy'n iach fel arall  a heb dymheredd uchel, barhau i fynd i'w lleoliad addysg neu ofal plant. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu canllawiau ymarferol a gwybodaeth gynhwysfawr i ddarparwyr gofal plant ar reoli achosion o glefydau heintus mewn lleoliadau plant a phobl ifanc.  Mae gwybodaeth i rieni ar gael ar wefan y GIG ar sut i wneud asesiad a phenderfynu a ddylai eu plentyn fynd i leoliad gofal plant neu'r ysgol A yw fy mhlentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol? - y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Saesneg yn unig).

Canllawiau i leoliadau cofrestredig ar gael gafael ar Barasetamol Hylifol, ei storio a'i weinyddu cyhyd  â bod yr amodau cyffredinol canlynol a'r amodau penodol sy'n ymwneud â Pharasetamol Hylifol yn cael eu bodloni:

Amodau cyffredinol

  • Bod gan y lleoliad cofrestredig bolisi meddyginiaeth sy'n disgrifio'r amgylchiadau lle gellir gweinyddu Parasetamol Hylifol i blentyn sy'n dod i'r lleoliad.
  • Bod y polisi meddyginiaeth wedi cael ei rannu gyda'r rhiant/gofalwr a'i fod yn nodi'r trefniadau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweinyddu meddyginiaeth ar bresgripsiwn a heb fod ar bresgripsiwn yn ddiogel, gan gynnwys pan fo angen brys tra bo plentyn yn derbyn gofal mewn lleoliad cofrestredig, er enghraifft, os bydd gan blentyn dymheredd uchel; a
  • Bod rhieni/gofalwyr y plentyn wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i'r lleoliad cofrestredig weinyddu Parasetamol Hylifol i'r plentyn perthnasol o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y polisi meddyginiaeth.
  • Lle bynnag y bo modd, bydd rhieni/gofalwyr y plentyn yn rhoi caniatâd llafar ar gyfer pob achlysur dilynol pan fydd Parasetamol Hylifol yn cael ei weinyddu.

Yr amodau sy'n ymwneud â phob tro y gweinyddir Parasetamol Hylifol

Mewn sefyllfa pan fo plentyn yn mynd yn sâl tra bo yn y lleoliad cofrestredig, y peth mwyaf priodol yw i'r plentyn gael ei gasglu gan riant neu ofalwr. 

Fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle mae rhieni wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw ac nad oes modd iddynt gasglu eu plentyn ar unwaith, byddai'r opsiynau canlynol yn briodol:

Opsiwn 1: cysylltwyd â rhiant neu ofalwr y plentyn, ond ni ellir casglu'r plentyn yn syth:

  • mae rhiant neu ofalwr y plentyn wedi rhoi caniatâd llafar i'r dos o barasetamol gael ei roi;
  • mae cyfnod o 4 awr o leiaf wedi mynd heibio ers rhoi'r dos diwethaf o barasetamol i'r plentyn; ac
  • mae'r rhiant neu'r gofalwr wedi addo casglu'r plentyn o'r lleoliad cofrestredig cyn gynted ag y bo'n ymarferol;

Neu 

Opsiwn 2: mae'r lleoliad cofrestredig wedi ceisio cysylltu â rhiant neu ofalwr y plentyn, ond ni ellir cysylltu â nhw:

  •  rhaid i'r lleoliad cofrestredig gysylltu â GIG 111 ac mae gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (yn GIG 111) wedi cynghori y byddai'n briodol rhoi dos o Barasetamol Hylifol;
  • yn dilyn hynny, dylai'r lleoliad cofrestredig gysylltu â rhiant neu ofalwr y plentyn i drefnu i'r plentyn gael ei gasglu o'r lleoliad cofrestredig cyn gynted â phosibl/cyn gynted ag y bo'n ymarferol. 

Yn ogystal â'r uchod, rhaid i leoliadau cofrestredig barhau i gadw at Safon 10.2 sy'n nodi:

"Na dderbynnir unrhyw blentyn os ymddengys ei fod yn sâl. Os bydd plant yn sâl yn ystod ei amser yn y lleoliad gofal plant neu chwarae, y cymerir gofal i atal heintio plant eraill ac y rhoddir gwybod i'r rhieni cyn gynted â phosibl."

Mae'r safon uchod yn ymwneud ag achlysuron pan fydd plant yn yn mynd yn sâl iawn yn sydyn, yn enwedig os ydynt mewn perygl o gael ffitiau, os oes ganddynt dymheredd uchel neu os ydynt yn heintus.  Nid yw hyn yr un peth â phlentyn sy'n torri dannedd neu ag annwyd cyffredin arno neu beswch. 

Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod plentyn yn well ar ôl cael Parasetamol Hylifol, ac ym mhob achos dylai rhiant/gofalwr gasglu'r plentyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r plentyn fynd yn sâl.

Storio, gweinyddu a chadw cofnodion

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod darparwyr cofrestredig yn cael gafael ar Barasetamol Hylifol, ei storio a'i weinyddu o dan yr amgylchiadau cyfyngedig a ddisgrifir yn y canllawiau hyn. 

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell defnyddio pecynnau o barasetamol di-siwgr fel meddyginiaeth hylifol, a phob un yn cynnwys 120mg o barasetamol ym mhob 5mL oherwydd eu bod yn haws eu storio, bod ganddynt labeli yn nodi'r dyddiad pan fydd y cynnwys heibio ei orau, a'u bod yn lleihau'r posibilrwydd o groeshalogi rhwng plant.  Mae'n bwysig nodi bod pecynnau yn rhoi'r dos cywir pan ddefnyddir un neu nifer o becynnau, heb fod angen llwy fesur neu chwistrell geg. 

Fodd bynnag, lle nad oes pecynnau ar gael, efallai y bydd yn briodol i'r darparwr stocio potel o Barasetamol Hylifol sy'n cynnwys mwy nag un dos.  Yn yr achosion hyn, dylai'r rheolwr neu'r person sy'n gyfrifol am weinyddu meddyginiaeth gynllunio, cofnodi a gweithredu proses o reoli croeshalogi yn ofalus . 

Mae angen hefyd i unrhyw un sy'n gyfrifol am weinyddu meddyginiaeth fod wedi cael gwybodaeth am bwysigrwydd dilyn unrhyw gyfarwyddiadau wrth ei defnyddio, fel ysgwyd y botel yn dda cyn ei hagor (er mwyn sicrhau'r dos cywir).

Gellir cael cyngor ar brynu Parasetamol Hylifol o unrhyw fferyllfa.

Rhaid i'r lleoliad cofrestredig sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer storio a gweinyddu dosau o Barasetamol Hylifol yn ddiogel, a chadw cofnodion o'r dosau hynny a ddefnyddir yn unol â'r polisi meddyginiaeth. 

Rhaid gwirio'n rheolaidd y dyddiadau pan fydd pob meddyginiaeth sydd wedi'i storio heibio ei gorau (o leiaf bob tri mis), a chyn gweinyddu pob dos.

Rhaid cofnodi pob dos o Barasetamol Hylifol a weinyddir i blentyn mewn lleoliad cofrestredig, gan ddilyn y canllawiau hyn, ar adeg ei weinyddu. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofal plant gadw cofnod ysgrifenedig a hysbysu'r rhiant wrth iddo gasglu'r plentyn.

Mae gweinyddu Parasetamol Hylifol yn rhywbeth i'w gadw ar gyfer sefyllfaoedd brys pan fo'n anymarferol i rieni/gofalwyr plentyn gasglu'r plentyn yn brydlon, a dim ond pan ddilynir y canllawiau hyn.