Neidio i'r prif gynnwy

Llais y Plentyn 

"Bydd pobl sy'n gofalu amdana i yn rhoi digon o fwyd a diod iach imi yn ystod y diwrnod. Maen nhw'n deall beth dw i'n ei hoffi a beth dw i ei angen, gan gynnwys unrhyw alergeddau sydd gen i, ac yn gwneud yn siŵr fy mod i'n teimlo'n ddiogel ac yn iach." 

Canlyniad Lles 

Bod y plant yn iach, wedi'u hydradu ac yn cael gofal da mewn amgylchedd sy'n eu meithrin. Bod y plant yn cael eu cefnogi i allu cael bwyd maethlon a diodydd rheolaidd a fydd yn diwallu eu hanghenion unigol. 

Gofynion ar gyfer safon 12: Bwyd a diod 

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr elfennau canlynol yn eu lle: 

12.1 Yr holir y rhieni am ofynion deietegol y plant unigol, gan gynnwys gofynion diwylliannol a chrefyddol a deietau therapiwtig ar gyfer alergeddau bwyd y rhoddwyd diagnosis swyddogol ohonynt, y cofnodir yr wybodaeth ac y cydymffurfir â'r gofynion. 

12.2 Os yw’r plant yn derbyn prydau a/neu fyrbrydau, eu bod yn cael eu paratoi mewn ffordd ddiogel, sy'n gytbwys o ran maeth, o ansawdd da ac yn briodol o ran maint, gan ddilyn argymhellion Llywodraeth Cymru yn Bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant. Bod y bwyd a'r diod a gynigir yn amrywiol ac yn faethlon ac yn bodloni gofynion crefyddol, diwylliannol a deietegol pob un o'r plant. 

12.3 Bod dŵr yfed ffres ar gael bob amser i'r plant. 

12.4 Bod bwyd yn cael ei storio'n ddiogel. Os yw rhieni yn darparu bwyd, eu bod yn cael gwybod beth gellir ei storio'n ddiogel. 

12.5 Y cydymffurfir â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Iechyd Amgylcheddol  

12.6 Mewn lleoliadau lle mae amseroedd penodedig ar gyfer prydau bwyd a diodydd, y cânt eu gosod mewn ffordd sy'n rhoi cyfle i blant fod yn gymdeithasol, gan ddefnyddio byrddau, seddau a llestri a chyllyll a ffyrc priodol. 

12.7 Os darperir gofal i fabanod a phlant dan 2 oed dylai: 

  • bwydo a newid cewynnau ddigwydd yn unol ag anghenion y plentyn unigol ac nid fel rhan o drefn y feithrinfa.
  • cyfleusterau fod ar gael i gefnogi mamau sydd am barhau i fwydo ar 
    y fron, ee i storio llaeth y fron yn ddiogel neu i ymweld er mwyn 
    bwydo'u baban ar y fron yn ystod yr amser y gofelir am y plentyn. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle nad yw'r cyfleusterau ar gael yn 
    barhaol, y gwneir trefniadau dros dro yn ôl y gofyn.
  • babanod gael eu dal wrth eu bwydo o botel, os yn bosibl gan yr un gofalwr neu weithiwr allweddol ar bob achlysur.
  • ardal gael ei darparu lle mae dŵr yfed ar gael a chyfleusterau i 
    baratoi bwyd babanod mewn ffordd hylan.
  • cyfarpar sterileiddio addas gael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarpar bwydo babanod a dymis.
  • cofnodion o'r bwyd a roddir i fabanod gael eu cadw, a’u dangos i'r 
    rhiant/rhieni. 

Safonau Cysylltiedig 

  • Safon 2: Y Contract: 2.2 Anghenion deietegol
  • Safon 3: Asesu: 3.1, 3.2 a 3.3: Anghenion a dewisiadau plant
  • Safon 5: Cofnodion: 5.1: unrhyw anghenion deietegol neu iechyd arbennig neu alergedd unrhyw blentyn perthnasol.
  • Safon 8: Maeth a lles
  • Safon 10: Gofal iechyd: 10.11 hylendid bwyd
  • Safon 22: Yr amgylchedd: 22.8 bod y gegin yn cydymffurfio â'r rheoliadau o ran iechyd a diogelwch bwyd
  • Safon 25: Gofal dros nos: 25.13: Bwyd a diod 

Rheoliad 21: Y bwyd a ddarperir i'r plant 

21 (1) Os darperir bwyd gan y person cofrestredig i blant perthnasol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau –

(a) y darperir bwyd iddynt – 

(i) a weinir mewn meintiau digonol ar adegau priodol;

(ii) sydd wedi'i baratoi'n briodol ac yn iachus a maethlon;

(iii) sy'n addas ar gyfer eu hanghenion ac yn bodloni eu hoffterau rhesymol; a

(iv) sy'n cynnwys amrywiaeth ddigonol; a 

(b) y bodlonir unrhyw angen dietegol arbennig sydd gan blentyn perthnasol, sy'n deillio o gyflwr iechyd, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol neu gefndir diwylliannol y plentyn. 

(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod dŵr yfed ffres ar gael i blant perthnasol drwy gydol yr amser a dreuliant dan ofal y person cofrestredig. 

Rheoliadau Cysylltiedig 

Rheoli ymddygiad, atal a disgyblu – Rheoleiddio 23(5) - ni chaniateir defnyddio'r mesurau canlynol, na bygwth defnyddio un neu ragor ohonynt ar blant perthnasol (c) unrhyw gosb sy'n ymwneud â bwyta neu yfed, neu amddifadu o fwyd neu ddiod. 

Addasrwydd y Fangre - Rheoleiddio 37(5) - Pan ddarperir bwyd mewn safle dan do, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau a chyfarpar addas a digonol ar gyfer paratoi, storio a bwyta bwyd yn y fangre berthnasol. 

Mwy o Arweiniad a Help