Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2023, ac yn cael eu cymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfanswm incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yng Nghymru yn 2023 yn £64 biliwn, cynnydd o 7.9% o’i gymharu â 2022. Cynyddodd cyfanswm GDHI y DU 9.5% dros yr un cyfnod i £1,695 biliwn.
  • Roedd GDHI yng Nghymru yn £20,140 y pen yn 2023, 81.1% o ffigur y DU, i lawr 1.2 pwynt canran o'i gymharu â’r DU yn 2022.
  • Roedd GDHI y pen yng Nghymru yn 2023 y ail isaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Rhwng 2022 a 2023 gwelodd Cymru’r cynnydd canrannol lleiaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, i fyny 6.8%, o'i gymharu â chynnydd o 8.4% ar gyfer y DU. Gwelwyd y cynnydd uchaf yn Ne Orllewin Lloegr (i fyny 9.3%).

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is (gan gynnwys awdurdodau lleol) ar gael ar wefan y SYG.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg y data a ddefnyddir yn y pennawd hwn, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Incwm Cartrefi Gros Rhanbarthol y SYG.

Effeithiodd pandemig y coronafeirws ar gydrannau GDHI yn wahanol ac adlewyrchir hyn mewn rhai symudiadau anarferol yn y data ar gyfer 2020 a 2021, yn enwedig wrth edrych ar ardaloedd daearyddol llai.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image