Neidio i'r prif gynnwy

Mae meysydd o ddiddordeb ymchwil (ARI) yn nodi'r cwestiynau ymchwil pwysicaf y mae angen i'r llywodraeth eu hateb i gyflawni ei hamcanion tymor canolig i hir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw pwrpas ARI

Gall ARI ein helpu:

  • alinio ymchwil academaidd ac allanol â datblygu polisi a gwneud penderfyniadau
  • ymgysylltu'n gynhyrchiol ag ymchwilwyr
  • cyrchu ystod eang o gyflenwyr
  • cael seiliau tystiolaeth polisi cryfach
  • rhannu comisiynau ymchwil

Y nod yw gwella llif syniadau, pobl ac adnoddau rhwng cynhyrchwyr ymchwil a pholisi y llywodraeth. 

I gael rhagor o wybodaeth am gefndir a phwrpas ARI, gweler dogfen ganllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer ysgrifennu a defnyddio ARI.

ARI Llywodraeth Cymru

Rydym yn treialu'r broses o ddatblygu a chyhoeddi dogfennau ARI. Disgwylir i'r ARI cyntaf fod ym maes y Gymraeg.

Sut i gymryd rhan

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol sy'n ymwneud ag ARI Llywodraeth Cymru, cysylltwch ag ymholiadau.ari@llyw.cymru.