Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: Gorffennaf 2024 i Mehefin 2025 (prif ddata)
Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Mai 2024 i Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025, gyda diwygiadau i'r data yn ôl hyd Chwarter 1 2024. Bydd data yn cael eu diwygio yn rheolaidd dros y 18 mis nesaf gan gymryd ffurflenni hwyr i ystyriaeth.
Mae'r data yn cwmpasu gwerthoedd (prisiau cyfredol) o allforion a mewnforion nwyddau.
Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.
Y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2024 (dros dro)
Mae'r dadansoddiad canlynol yn gymhariaeth rhwng y flwyddyn ddiweddaraf o ddata (blwyddyn sy'n dod i ben Mehefin 2025) a'r flwyddyn flaenorol (blwyddyn sy'n dod i ben Mehefin 2024).
Cyfanswm y fasnach (allforion + mewnforion)
- Cyfanswm gwerth y fasnach Gymreig oedd £37.6 biliwn, i lawr £2.1 biliwn (5.2%) o £39.7 biliwn.
- Cyfanswm y cyfaint masnach Gymreig oedd 19.4 biliwn kg, gostyngiad o 5.8 biliwn kg (22.9%) o 25.1 biliwn kg.
Allforion
- Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £17.1 biliwn, i lawr £1.5 biliwn (8.2%) o £18.6 biliwn. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan ostyngiad gwerth £2.0 biliwn yn allforion 'Olew' [troednodyn 1].
- Cyfaint allforion nwyddau Cymreig oedd 4.1 biliwn kg, gostyngodd 2.8 biliwn kg (40.6%) o 6.9 biliwn kg.
- Gwerth allforion nwyddau ar gyfer y DU oedd £354.7 biliwn, i lawr £2.9 biliwn (0.8%) o £357.7 biliwn.
- Cyfaint allforion nwyddau ar gyfer y DU oedd 111.9 biliwn kg, gostyngodd 8.9 biliwn kg o 120.7 biliwn kg.
- Gostyngodd gwerth allforion ar draws holl wledydd y DU, ac eithrio'r yr Alban ble cynyddodd gwerthoedd.
- Mae'r UE yn parhau i gyfrif am fwyafrif o werthoedd allforio Cymreig, yn cyfrif am 56.8%, tra bod yr UE yn cyfrif am 48.4% o werthoedd allforio'r DU.
- Gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd yr UE gan £1.2 biliwn (11.0%) i £9.7 biliwn. Gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE gan £0.3 biliwn (4.1%) i £7.4 biliwn.
- Y 3 prif gynnyrch a allforiwyd o Gymru oedd 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' [troednodyn 2] (£4.1 biliwn), ‘Cyfarpar Trafnidiaeth Arall’ (£2.6 biliwn) a 'Haearn a Dur' (£0.9 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 44.7% o allforion nwyddau Cymru.
- Y 3 phrif wlad a allforiodd Cymru iddynt oedd yr Almaen (£2.7 biliwn), yr Unol Daleithiau (£2.2 biliwn) a Ffrainc (£1.7 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 38.2% o allforion nwyddau Cymru.
Mewnforion
- Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £20.6 biliwn, gostyngiad £0.6 biliwn (2.6%) o £21.1 biliwn. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan ostyngiad o £1.1 biliwn yng ngwerth mewnforion 'Olew'.
- Cyfaint y mewnforion nwyddau i Gymru oedd 15.3 biliwn kg, gostyngiad o 3.0 biliwn kg (16.3%) o 18.3 biliwn kg.
- Gwerth mewnforio nwyddau i'r DU oedd £589.8 biliwn, cynnydd o £12.9 biliwn (2.2%) o £576.8 biliwn.
- Roedd cyfaint y mewnforion nwyddau ar gyfer y DU yn 270.5 biliwn kg, cynnydd o 6.1 biliwn kg (2.3%) o 264.4 biliwn kg.
- Profodd holl wledydd y DU gynnydd yng ngwerth mewnforion, ac eithrio Cymru a ostyngodd.
- Yr UE oedd yn cyfrif am 38.6% o werthoedd mewnforio Cymru o'i gymharu â 53.0% o werthoedd mewnforio'r DU.
- Cynyddodd gwerthoedd mewnforio o wledydd yr UE £0.5 biliwn (6.5%) i £7.9 biliwn o £7.5 biliwn. Gostyngodd gwerthoedd mewnforio o wledydd y tu allan i'r UE £1.0 biliwn (7.6%) i £12.6 biliwn o £13.7 biliwn.
- Y 3 phrif gynnyrch a fewnforiwyd i Gymru oedd 'Olew' (£4.9 biliwn), 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' (£3.9 biliwn) ac 'Offer Trafnidiaeth Arall' (£1.0 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 48.0% o fewnforion nwyddau Cymru.
- Y 3 phrif wlad y mewnforiodd Cymru ohonynt oedd yr Unol Daleithiau (£3.7 biliwn), Tsieina (£1.8 biliwn) a'r Iseldiroedd (£1.4 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 33.6% o fewnforion nwyddau Cymru.
Nodiadau
Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys diwygiadau a drefnwyd ar gyfer data a’u cyhoeddwyd yn flaenorol.
Fe all rhywfaint o'r data masnach a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.
Gwybodaeth bellach
Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Ar gyfer masnach ryngwladol mewn gwasanaethau, mae'r ystadegau swyddogol odan datblygiad (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)) (2023) a gynhyrchwyd gan y SYG yn awgrymu bod gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm yr allforion yng Nghymru, ac 20% o gyfanswm y mewnforion.
Sylwch fod y dulliau yn wahanol rhwng ystadegau CThEM a'r SYG. Mae mwy o fanylion ar gael am y gwahaniaethau allweddol hyn yn 'Overseas trade in goods statistics methodology and quality report' (adran 8.4 (CThEF).
Mae'r prif ganlyniadau a'r cyfrifiadau busnes yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol ac maent ar gael ar wefan CThEF ‘Gwybodaeth Masnach y DU’ ac ystadegau masnach nwyddau y DU (CThEF), ochr yn ochr â'n dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain.
Troednodiadau
[1] ‘Petroliwm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig’ (SITC33)
[2] Mae diwygiadau wedi'u cynnwys yn 'Peiriannau a Chyfarpar Cynhyrchu Trydan’ (SITC 71). Yn Ystadegau Masnach Dramor Mehefin 2025, y mae'r data hwn yn deillio ohono, cymhwyswyd diwygiadau sy'n ymwneud â HS Pennod 84 (CThEF) 'Offer mecanyddol' ar gyfer y cyfnod o Awst 2024 i Mai 2025.

