Mae cymorth gan y Gwasanaeth Ynni wedi galluogi Ysgol Gymraeg Casnewydd i wneud gwaith uwchraddio ar gyfer ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni.
Crynodeb
Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd wedi bod ar daith ddatgarboneiddio fesul cam gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Trwy gyfuniad o grantiau, benthyciadau a chanllawiau technegol, mae'r ysgol wedi gweithredu uwchraddio ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni fel rhan o raglen ôl-osod ehangach mewn chwe ysgol.
Ein cefnogaeth
Cyngor technegol, cymorth â cheisiadau am grantiau a benthyciadau, a chynllunio strategol ar gyfer solar ffotofoltäig, gwresogi carbon isel, ac uwchraddio goleuadau.
Datrysiad technoleg
2020
- System solar ffotofoltäig 37 kWp (128 panel) wedi'i osod gan Egni Co-op, cost gyfalaf £36,000.
2023 i 2025
- Grant Gwres Carbon Isel o £540,961 a ddefnyddiwyd i osod tri phwmp gwres ffynhonnell aer Mitsubishi (cyfanswm o 450 kW), gan ddisodli hen foeleri nwy.
2024 i 2025
- Benthyciad llog isel o £11,589 drwy Raglen Ariannu Cymru i osod gosodiadau LED yn lle hen oleuadau.
Buddsoddiad
- Gosodiad solar ffotofoltäig gwerth £36,000 gyda chefnogaeth Egni Co-op.
- Grant o £540,961 ar gyfer pympiau gwres.
- Benthyciad o £11,589 ar gyfer goleuadau LED.
Effaith
- Arbedion oes amcangyfrifiedig o 4,680 tCO₂e o'r system pwmp gwres.
- Arbedion oes o 35 tCO₂e ac arbedion cost o £20,000 o’r goleuadau LED.
- Gwell amgylchedd dysgu a gwaith i staff a myfyrwyr.
- Yn arddangos model datgarboneiddio ysgol gyfan y gellir ei ailadrodd.
