Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi dyfarniad cyllid o £53,100 ar gyfer Settled. Bydd y dyfarniad hwn yn cefnogi'r gwaith o ddarparu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo yng Nghymru i bobl o'r Wcráin rhwng Medi 2025 a Gorffennaf 2026. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu pobl a ddaeth i Gymru drwy'r Cynllun Cartrefi i Wcráin, er mwyn dianc rhag rhyfel Putin ar Wcráin, i barhau i fyw yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r galw cynyddol am gymorth arbenigol sy'n gallu darparu cyngor mewnfudo cymhleth. Bydd y gwasanaeth yn sicrhau bod rhai o'r bobl o Wcráin sydd fwyaf agored i niwed yn cael mynediad at gyngor mewnfudo i barhau i fyw yng Nghymru.
Bydd Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo Wcráin yn darparu gwaith achos lle mae angen cyngor cyfreithiol cymhleth, ac yn cynnal gweithdy hygyrch ar-lein. Bydd y gefnogaeth gynhwysfawr yn ymestyn effaith a chyrhaeddiad y gwasanaeth cynghori, gan gynnig cymorth y mae dirfawr ei angen ar unigolion sydd angen cymorth ychwanegol. Bydd hefyd yn grymuso pobl ag achosion llai cymhleth i reoli eu ceisiadau am fisa yn annibynnol.
Mae cydweithio â Settled ar y fenter hanfodol hon yn tanlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod cyngor cyfreithiol ar fewnfudo yn cael ei ddarparu yng Nghymru, sydd hefyd yn cyflawni ein hymrwymiad ym mhennod Cenedl Noddfa y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar i'n partneriaid cyflenwi allweddol am barhau i groesawu pobl o'r Wcráin yn null unigryw Tîm Cymru, a chefnogi integreiddio yn ein cymunedau.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
