Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 17 Gorffennaf, cadarnheais mewn Datganiad Ysgrifenedig ddyfarniad cyflog 4% i athrawon yng Nghymru ar gyfer 2025/2026. I weithredu hyn, byddaf yn mynd ati'n fuan i wneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025 sy'n rhoi effaith i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025. 

Caiff y dyfarniad cyflog ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2025. Y cyflogwyr fydd yn gyfrifol am bennu amseriad gweithredu'r dyfarniad, ac rwy'n eu hannog i drefnu i ad-daliad gael ei drosglwyddo cyn gynted â phosibl.

Edrychaf ymlaen at gael adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar amodau gwasanaeth arweinwyr (ail ran ei gylch gwaith blwyddyn 6) yn yr hydref. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n cyfrannu at y broses hon.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.