Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu Carcasau ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025: asesiad effaith integredig
Asesiad o effaith Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu Carcasau ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru’n eu hystyried a pham?
Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu Carcasau ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer Dosbarthu Carcasau ac Adrodd am Brisiau yng Nghymru.
Mae deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn orfodol dosbarthu carcasau ac adrodd am brisiau wedi bod ar waith yn y sectorau cig eidion a phorc ers blynyddoedd lawer, gan fod hyn yn orfodol o dan Gyfraith yr UE. Ond mae'n ddewisol ar gyfer defaid. Bwriad cyflwyno cynllun gorfodol ar gyfer y sector defaid yw sicrhau bod y sector defaid yn cyd-fynd mor agos â phosibl â'r sectorau cig eidion a phorc. Mae rhai lladd-dai unigol sy'n lladd defaid wedi mabwysiadu system gyffredin ar gyfer dosbarthu carcasau defaid yn wirfoddol ers amser maith, ac mae rhai hefyd wedi adrodd am brisiau'n wirfoddol i'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).
Er hynny, mae llawer o ladd-dai wedi gosod eu safonau eu hunain ar gyfer tocio a chyflwyno carcasau defaid i'w dosbarthu a'u pwyso. O ganlyniad, mae gweithredu gwahanol systemau gwirfoddol yn golygu nad oedd cysondeb o ran pwysau carcasau ar draws y sector. Arweiniodd amrywiadau yn y ffordd mae carcasau yn cael eu cyflwyno at bwysau gwahanol ar gyfer carcasau a fyddai fel arall yn debyg, ac at gofnodi neu ddyfynnu prisiau nad oes modd eu cymharu. O ganlyniad, roedd ffermwyr defaid yn aml yn cael trafferth trafod pris a oedd yn briodol i ansawdd eu carcasau, neu gael y manylion sydd eu hangen arnynt i lywio eu penderfyniadau busnes a chynyddu cynhyrchiant.
Oherwydd natur drawsffiniol y gadwyn gyflenwi cig coch, mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chymheiriaid yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (DEFRA), Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon (DAERA) i ddatblygu'r polisi a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â dosbarthu carcasau defaid.
Pwrpas ein polisi yw sefydlu marchnad defaid fwy tryloyw a chynhyrchiol. Sicrhau system gadarn ar gyfer dosbarthu carcasau defaid (boed hynny â llaw neu'n awtomataidd), a graddio carcasau mewn modd dibynadwy a chyson yn unol â graddfa ragnodedig. Ein nod yw nodi mewn deddfwriaeth gynllun clir ar gyfer dosbarthu carcasau defaid a'r ffordd mae'n rhaid adrodd am brisiau carcasau a osodir gan ladd-dai.
Bydd y ddeddfwriaeth yn hwyluso cyhoeddiadau wythnosol sy'n nodi'r prisiau yr adroddir amdanynt i sicrhau bod y farchnad yn fwy tryloyw. Wedyn gall dosbarthiad graddau'r carcasau defaid a roddir i gynhyrchwyr gael eu defnyddio, ochr yn ochr â gwybodaeth am brisiau, i dargedu dewisiadau'r farchnad i wella enillion a chynhyrchiant.
Bydd hyn, yn gyffredinol, yn alinio'r sector defaid â'r dosbarthu ac adrodd am brisiau sydd eisoes yn ofynnol yn y diwydiannau gwartheg a moch.
Mae gweithredu technegau dosbarthu uwch yn sicrhau bod y cig sydd o'r ansawdd uchaf yn cael ei nodi'n gyson a'i gyflwyno i ddefnyddwyr. Drwy ddefnyddio bwyd anifeiliaid ac adnoddau yn y ffordd orau posibl, gall ffermwyr gyflawni arferion cynhyrchu cynaliadwy sy'n cyfrannu at y nod cyffredinol o sicrhau cynaliadwyedd ym maes cynhyrchu bwyd.
Casgliad
Sut y mae pobl y bydd y cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt yn cael eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'r diwydiant ar gyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â Dosbarthu Carcasau Defaid ac Adrodd am Brisiau gyda chynigion i gyd-fynd mor agos â phosibl â deddfwriaeth debyg sydd eisoes ar waith ar gyfer cig eidion a moch. Roedd hyn mewn ymateb i dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan y diwydiant mewn Galwad am Dystiolaeth gan Lywodraeth y DU ar gylch gwaith Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser ar yr angen am ddeddfwriaeth o'r fath. Roedd deddfwriaeth ar gyfer Dosbarthu Carcasau ac Adrodd am Brisiau yn y sectorau cig eidion a moch yn orfodol o dan Gyfraith yr UE, ond yn opsiynol ar gyfer defaid.
Mae'r ymgynghoriad hwnnw wedi dangos bod y diwydiant am weld trefn dosbarthu a hysbysu ar gyfer defaid a'i gwneud yn orfodol hefyd adrodd am brisiau i'r cynhyrchydd. Cytunodd Llywodraeth Cymru i gynnal gwaith ymgysylltu pellach mewn perthynas â'r wybodaeth sy'n cael ei hadrodd i gynhyrchwyr gan broseswyr a chyrff ardoll, ac i weithredu'r fframwaith deddfwriaethol sydd ei angen i fod yn sail i'r gwaith o'i gwneud yn orfodol dosbarthu carcasau defaid yng Nghymru.
Cafodd y gwaith ar ddatblygu'r ddeddfwriaeth ym mhob un o'r pedair gwlad ei oedi gyntaf i ganolbwyntio ar ymadael â'r UE, y pandemig byd-eang ac effeithiau ar y gadwyn gyflenwi oherwydd y rhyfel yn Wcráin. Mae swyddogion wedi parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod angen y ddeddfwriaeth o hyd. Mae rhanddeiliaid wedi dweud bod hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth iddynt. Oherwydd bod y gadwyn gyflenwi yn integredig, mae rhanddeiliaid yng Nghymru a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â DEFRA fel ei gilydd wedi nodi pwysigrwydd amserlenni sy'n cyd-fynd â'i gilydd wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth.
Yn 2024, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad chwe wythnos wedi'i dargedu, ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Lloegr ar gynigion deddfwriaeth Dosbarthu Carcasau Defaid ac Adrodd am Brisiau.
Roedd yr ymgynghoriad wedi'i anelu at randdeiliaid allweddol sydd â diddordeb mewn cynhyrchu, lladd, prosesu a gwerthu cig oen. Gwnaethom ofyn am farn ar gynigion i'w gwneud yn orfodol dosbarthu carcasau ac adrodd am brisiau a'r cynllun ar gyfer adrodd am bwysau marw yn y sector defaid. Gofynnwyd hefyd am adborth ar y mecanweithiau ar gyfer awdurdodi dulliau graddio awtomataidd y gellid eu defnyddio yng Nghymru a Lloegr ar gyfer dosbarthu carcasau cig eidion a defaid mewn lladd-dai sy'n lladd y rhywogaethau hyn.
Yn ystod yr ymgynghoriad, cynhaliodd Llywodraeth Cymru a DEFRA gyfarfod ar-lein ar y cyd â rhanddeiliaid i hyrwyddo'r ymgynghoriad. Cynhaliodd swyddogion Llywodraeth Cymru a DEFRA gyfarfod hefyd â rhanddeiliaid allweddol sy'n cynrychioli cyrff y diwydiant da byw ac undebau ffermio.
Gan fod yr ymgynghoriad wedi'i dargedu at randdeiliaid penodol, ni chyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori a'r crynodeb o'r ymatebion ar-lein. Anfonwyd y dogfennau hyn at y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn unig ac maent ar gael i'r cyhoedd ar gais.
Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Y busnesau a fyddai'n elwa ar effeithlonrwydd gwell yw ffermydd defaid. Mae strwythur ffermydd defaid yng Nghymru yn golygu bod llawer o'r ffermydd hyn yn fentrau teuluol bach sy'n cefnogi cymunedau gwledig, felly mae'r effaith hon yn debygol o fod yn gadarnhaol.
Pwrpas ein polisi yw sicrhau tryloywder a thegwch o fewn y gadwyn gyflenwi, gwella'r trefniadau ar gyfer dosbarthu carcasau defaid ac adrodd am brisiau a chreu marchnad ddefaid fwy cynhyrchiol, a thrwy hynny sicrhau manteision i'r diwydiant ffermio.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
- yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant, a/neu
- yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Bydd y ddeddfwriaeth yn helpu i greu Cymru ffyniannus, ddiogel, unedig a chysylltiedig. Mae nodau perthnasol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys gwneud Cymru'n ffyniannus – datblygu economi wledig sy'n cynhyrchu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd cyfartal a gwlad sy'n ecolegol, economaidd a chymdeithasol wydn.
- Cymru Iewyrchus
- Cymru gydnerth
I'r perwyl hwn, mae'r polisi yn cyd-fynd ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n tanlinellu arwyddocâd datblygu cynaliadwy. Nod y ddeddfwriaeth yw creu sector amaethyddol ffyniannus drwy wella tryloywder a thegwch y gadwyn gyflenwi, optimeiddio dosbarthu carcasau defaid, a gwella mecanweithiau adrodd am brisiau. Mae hyn, yn ei dro, yn meithrin marchnad ddefaid fwy cynhyrchiol a theg a fydd, yn y pen draw, yn sicrhau manteision i'r diwydiant ffermio cyfan.
Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phryd y bydd yn dod i ben?
Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar waith ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth Cymru, DEFRA, a'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) i amlinellu gofynion, rolau a chyfrifoldebau holl archwiliadau'r Cynllun Technegol Cig (MTS) yng Nghymru a Lloegr. Bydd arolygiadau'n cael eu cynnal gan yr RPA ar adegau priodol fel rhan o'r MTS sydd eisoes yn cael ei gynnal ganddynt yng Nghymru.
Bydd data llinell sylfaen am ddosbarthu carcasau defaid yn cael ei gasglu a'i goladu'n wythnosol oddi wrth laddai y mae'n ofynnol iddynt adrodd am ddata prisiau i'r AHDB o fewn gofynion y rheoliadau.
Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi syniad ynghylch a yw'r cynllun wedi cyflawni ei amcan o wella'r wybodaeth sydd ar gael i gynhyrchwyr a'r diwydiant ehangach, ac i ba raddau.
Bydd cydymffurfiaeth yn cael ei monitro gan yr RPA a bydd adborth gan y diwydiant yn cael ei alinio â maes deddfwriaeth cig eidion a phorc drwy gyfarfodydd rhanddeiliaid yr MTS.
