Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw mae Wythnos Addysg Oedolion yn cychwyn gyda neges glir a phwerus: Peidiwch â stopio dysgu. Ledled Cymru, mae pobl yn cymryd y cam dewr hwnnw i feithrin eu sgiliau, darganfod doniau cudd, ac ailadeiladu eu hyder ar gyfer y dyfodol.

Mae'r wythnos hon yn cynrychioli llawer mwy na llwyddiannau unigol. Pan fydd un person yn dysgu, mae teuluoedd a chymunedau cyfan yn elwa ar hynny. Mae'n cefnogi addysg plant, creu cyfleoedd cyflogaeth ac yn rhoi hwb i hyder mewn ffyrdd sy'n trawsnewid bywydau. O sgiliau digidol sy'n helpu neiniau a theidiau i gadw mewn cysylltiad i hyfforddiant galwedigaethol sy'n agor drysau ar lwybrau gyrfa newydd, mae dysgu yn trawsnewid bywydau ar bob lefel.

Dros y flwyddyn academaidd nesaf, bydd y llywodraeth hon, drwy Medr, yn buddsoddi mwy na £80 miliwn mewn cyfleodd rhan amser a dysgu oedolion. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi amrywiaeth eang o gyrsiau sy’n cael eu darparu gan ein hawdurdodau lleol a cholegau addysg bellach, gan gynnwys sgiliau sylfaenol i oedolion, TGAU, cymwysterau galwedigaethol, cyfrifon dysgu personol, profiad gwaith a Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.

Mae'r arian a fuddsoddir yn golygu bod teuluoedd yn gallu edrych i'r dyfodol yn llawn gobaith newydd, a chymunedau yn gallu sefyll gyda'i gilydd yn gryfach. Mae'r buddsoddiad hwn yn cynrychioli cefnogaeth ymarferol ac ystyriol sy'n helpu unigolion i fod yn annibynnol, meithrin hyder, a chreu bywydau gwell iddyn nhw eu hunain a'u hanwyliaid.

Pan oedd gweithwyr yn Tata Steel ym Mhort Talbot yn wynebu ansicrwydd, cymerwyd camau pendant i ddelio â'r sefyllfa. Trwy'r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, sydd bellach yn cael ei chynnal gan Medr, rydym wedi helpu pobl i ailsgilio, addasu ac ailadeiladu eu dyfodol. Mae dros fil o weithwyr yn Tata Steel UK a'i gadwyn gyflenwi bellach wedi cwblhau ymhell dros fil o gyrsiau – gan ddod â sgiliau newydd, cyfleoedd a hefyd, mewn llawer o achosion, cyflogaeth amgen pan oedd ei angen fwyaf arnynt. Mae'r rhaglen hon yn enghraifft o sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i gefnogi dysgwyr ledled Cymru, gan agor drysau i yrfaoedd na fyddai pobl erioed wedi eu hystyried. 

Fel y cyhoeddwyd ym mis Mehefin, o fis Medi ymlaen rydym yn cynyddu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach, gan gynnig hyd yn oed mwy o gefnogaeth i ddysgwyr amser llawn o aelwydydd incwm isel — hyd at £1,916 — a hyd at £950 i ddysgwyr rhan-amser. Mae'r help ychwanegol hwn yn cwmpasu hanfodion fel llyfrau, offer a theithio, gan wneud yn siŵr nad yw pwysau ariannol byth y rheswm dros roi'r ffidl yn y to.

Mae ein hymrwymiad hefyd yn ymestyn i ddysgu rhyngwladol drwy'r rhaglen Taith, gan gysylltu dysgwyr Cymraeg â chyfoedion yn Japan, yr Almaen, Malta, Norwy, a thu hwnt. Mae sefydliadau gan gynnwys y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Avant Cymru, Oasis Caerdydd, Ymddiriedolaeth St Giles a Addysg Oedolion Cymru wedi cyflwyno prosiectau trawsnewidiol sy'n meithrin sgiliau, hyder ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Yn bwysicach fyth, roedd 52% o ddysgwyr sy'n oedolion sy'n cymryd rhan mewn symudedd allanol yn dod o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynhwysiant a dysgu gydol oes i bawb.

Yn ystod ymweliadau gweinidogol â phob coleg a phrifysgol ledled Cymru y flwyddyn ddiwethaf, mae ymroddiad staff a dyfalbarhad dysgwyr wedi bod yn rhyfeddol. Mewn ystafelloedd dosbarth cymunedol a gwasanaethau cymorth arbenigol, mae dysgwyr sy'n oedolion yn gweithio i newid cwrs eu bywyd trwy addysg ac yn adeiladu dyfodol newydd iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.

Yr wythnos hon, diolch i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith, mae cannoedd o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru — yn ein colegau, ein prifysgolion, ein llyfrgelloedd a'n neuaddau cymunedol. Mae pob un yn anfon neges bwerus: mae dysgu i bawb, ac nid yw byth yn ail gyfle - mae'n gam cyntaf tuag at ddyfodol mwy disglair.

Bydd y llywodraeth hon yn parhau i gefnogi ein dysgwyr, oherwydd mae pob cymuned yng Nghymru yn haeddu'r cyfle i ddatblygu sgiliau, dod o hyd i waith diogel a byw bywydau gwell — ar bob cam o'u taith.

P'un a ydych chi'n edrych i ddatblygu sgiliau newydd, newid gyrfaoedd neu'n edrych am rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, mae digwyddiad yn aros amdanoch. Chwiliwch am Wythnos Dysgwyr Oedolion Cymru Weithio i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.