Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru, yn ei rôl fel rheoleiddiwr annibynnol, wedi cyhoeddi ei benderfyniad i barhau i wrando ar y sector addysg a chynnal ymgynghoriad pellach yn hydref 2028 ar y gyfres o gymwysterau TGAU Gwyddoniaeth sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru. O ganlyniad, maent hefyd wedi cadarnhau y bydd cymwysterau TGAU Gwyddoniaeth ar wahân mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn parhau i fod ar gael i ysgolion a dysgwyr, hyd nes bod canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw'n hysbys.
Felly, o fis Medi 2026 ymlaen, bydd ysgolion yn gallu cynnig y cymwysterau TGAU Gwyddoniaeth ar wahân presennol a'r TGAU newydd diwygiedig yn Y Gwyddorau (dwyradd) a Gwyddoniaeth Integredig (gradd unigol) i'w dysgwyr. Bydd amseriad yr ymgynghoriad yn caniatáu i'r cymwysterau newydd hyn gael eu hymgorffori mewn ysgolion a'u dyfarnu am y tro cyntaf, cyn i'r ymgynghoriad gael ei gynnal.
Rwy'n croesawu'r penderfyniad hwn gan Gymwysterau Cymru, a'i ymgysylltiad parhaus ag ysgolion, colegau a rhanddeiliaid eraill, sydd wedi ei lywio.
Gall dysgwyr fod yn hyderus y bydd y cymhwyster TGAU Y Gwyddorau newydd (dwyradd) a'r cymwysterau TGAU Gwyddoniaeth ar wahân presennol yn parhau i gefnogi dilyniant i UG a Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg, ac ymlaen i yrfaoedd STEM os mai dyma yw eu llwybr dewisol.
