Neidio i'r prif gynnwy

Bydd prosiectau ynni gwyrdd ledled Cymru yn rhannu dros £12.9 miliwn i gefnogi eu hymdrechion tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

O osod paneli solar a phympiau gwres i storio batris a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, bydd y 48 o brosiectau llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod y trawsnewid i ynni glân o fudd uniongyrchol i gymunedau Cymru.

Nod Cynllun Grant Cyfalaf Ynni Cymru yw cyflymu'r gwaith o ddefnyddio Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ac mae'n rhan allweddol o nod uchelgeisiol Cymru i gynhyrchu 100% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Mae gan SLES fanteision eang gan gynnwys y potensial i leihau costau ynni, creu swyddi lleol ac adeiladu seilwaith ynni mwy gwydn ar gyfer cymunedau lleol.

Mae'n darparu cymorth ariannol i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus, a busnesau bach a chanolig sy'n datblygu prosiectau ynni lleol arloesol.

Mae prosiectau llwyddiannus yn y rownd hon yn cynnwys dros £910,000 i Ganolfan Mileniwm Cymru fuddsoddi mewn paneli solar, system storio ynni batri newydd, gwefrwyr cerbydau trydan a solar thermol ar gyfer dŵr poeth – gyda disgwyl i arbedion ynni gael eu hailfuddsoddi yn y gymuned, a bron i £750,000 i Goleg Cambria tuag at greu canolfan ddysgu carbon isel ac adeilad ynni-effeithlon.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Rydym yn rhoi cymunedau wrth wraidd trawsnewid ynni glân Cymru ac rwy'n ddiolchgar i sefydliadau am gyflwyno eu cynigion arloesol.

Mae'n amlwg bod awydd am systemau ynni sy'n cadw'r manteision yn ein cymunedau, ac rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi cymaint o brosiectau o safon.

Bydd cynhyrchu ynni doethach, glanach yn dod â manteision eang, ac yn bwysig iawn, effaith gadarnhaol ar bobl ledled Cymru.

I weld sut mae grantiau blaenorol wedi trawsnewid systemau ynni lleol, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â De Corneli ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle y bu i Challoch Energy Ltd greu partneriaeth â Chwmni Buddiannau Cymunedol Ynni Adnewyddadwy De Corneli (SCRE-CIC) i greu Marchnad Ynni Leol De Corneli.

Mae paneli solar, storio batri a rheolaethau clyfar wedi'u hychwanegu i dros 50 o gartrefi, gan ganiatáu i bawb yn y pentref elwa o drydan adnewyddadwy cost is sy'n cael ei gynhyrchu ar doeau lleol gyda thrigolion yn gallu arbed 20-50% ar eu biliau ynni o ganlyniad.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Challoch Energy, Dr Simon Minett:

Mae ein partneriaeth â SCRE-CIC wedi bod yn llwyddiant mawr gyda thrigolion y pentref yn awyddus i ymuno â'r daith tuag at ddatgarboneiddio, gostwng costau, a'r gallu i gymryd rheolaeth o'u gofynion ynni. 

Roedd cymorth grant Ynni Cymru y llynedd yn gatalydd newid a dyma'r cam mawr cyntaf i greu'r system ynni lleol clyfar er budd pob preswylydd. Rydym yn credu bod hwn yn lasbrint i gymunedau gwledig eraill yng Nghymru gael eu hysbrydoli ganddo.