Gall pob plentyn dwy oed ym Merthyr Tudful nawr gael gofal plant am ddim, sef yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ehangu rhaglen gofal plant Dechrau'n Deg ar draws ei ardal.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £25m ychwanegol eleni i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg, gan ddod â Chymru'n nes at gynnig gofal plant i bob plentyn dwy oed. Mae Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant o ansawdd uchel wedi'i ariannu'n llawn am ddwy awr a hanner y dydd, bum diwrnod yr wythnos.
Mae gofal plant o ansawdd uchel yn cefnogi cyfleoedd dysgu, twf a datblygiad plant yn ystod eu blynyddoedd cynnar hanfodol. Mae pob un o 24 darparwr gofal plant Merthyr Tudful wedi cael eu cymeradwyo i dderbyn plant Dechrau'n Deg, gan helpu i ysgogi gwelliannau yn ansawdd gofal plant ar draws y bwrdeistref.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
Mae gofal plant o ansawdd uchel yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddatblygiad, iechyd a chyfleoedd bywyd plant, gan gyfrannu at eu llwyddiant yn y dyfodol. Eleni, rydyn ni'n disgwyl i dros 4,000 yn fwy o blant ledled Cymru elwa o ofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel.
Mae hyn yn newyddion gwych i deuluoedd Merthyr Tudful ac yn dangos ein hymrwymiad i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.
Ychwanegodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Mae'r ehangu sylweddol hwn i blant dwy oed yn rhan o becyn buddsoddi ehangach yn y blynyddoedd cynnar. Rydyn ni'n darparu £50m ychwanegol ar gyfer gofal plant eleni, sy'n mynd â chyfanswm ein cyllideb i gynyddu gofal plant o ansawdd uchel yng Nghymru i fwy na £150m.
Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i filoedd o blant ledled Cymru, gan greu mwy o gyfleoedd i fwy o blant ddysgu Cymraeg o oedran ifanc ar yr un pryd.
Roedd £30m o gyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant yn 2025-26 yn ganlyniad i'r cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Dywedodd Louise Minett-Vokes, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Merthyr Tudful:
Mae hon yn garreg filltir aruthrol i'n cymuned. Nid ydym wedi ehangu gofal plant yn unig, rydym wedi creu system gymorth gynhwysfawr sy'n meithrin potensial ein plant o'r camau cynharaf.
Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar deuluoedd ym Merthyr Tudful.
