Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Datganiad o Flaenoriaethau Strategol (SSP) yr Ysgrifennydd Gwladol i Great British Energy (GBE). Mae modd gweld y datganiad yma: Great British Energy: Statement of Strategic Priorities - GOV.UK (Saesneg yn Unig).
Mae'r SSP yn ddogfen lefel uchel sy'n mynegi blaenoriaethau strategol yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer GBE, y mae'n rhaid eu hadlewyrchu wedyn yng Nghynllun Strategol GBE. Mae'r SSP yn nodi dau amcan craidd GBE, sef:
- Sbarduno'r defnydd o ynni glân ar draws y DU i gyd, fel datblygwr strategol, buddsoddwr, a pherchennog prosiectau ynni glân; a
- Sicrhau bod trethdalwyr y DU, talwyr biliau, cymunedau, a'r gweithlu ynni presennol yn elwa ar y trawsnewidiad ynni glân drwy gynyddu perchnogaeth y cyhoedd a chyfranogiad cymunedol wrth ddatblygu prosiectau ynni glân, a thrwy gefnogi swyddi a thwf economaidd ledled y DU.
Fel sy'n ofynnol gan Adran 5 (6) o Ddeddf Great British Energy 2025, mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi ceisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i gynnwys materion penodol yn yr SSP, y byddai darpariaeth amdanynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd (pe bai wedi'i chynnwys mewn Deddf y Senedd). Yn dilyn dadansoddiad o'r SSP, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i Lywodraeth y DU.
Mae rôl GBE yn ein dyfodol ynni yn bwysig i'r DU gyfan ac mae ei lwyddiant yn rhywbeth y gall pob Llywodraeth y DU gyfrannu ato. Rydym wedi gweld parodrwydd gwirioneddol gan Lywodraeth y DU i weithio'n agos gyda ni i sicrhau bod GBE yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Cymru a thirwedd ynni Cymru. Mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i GBE weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â llywodraethau datganoledig, llywodraeth leol a chymunedau. Yn yr un modd, mae'n galonogol y bydd gwaith GBE yn ychwanegu at ein llwyddiannau ynni lleol a chymunedol sydd wedi bod yn ffocws brwd i'n gwaith yng Nghymru hyd yma. Mae fy swyddogion wedi rhannu eu profiad o gefnogi'r gwaith cyflawni ac wedi rhoi eglurder ar yr ystod eang o waith sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru gyda GBE, er mwyn i weithgareddau GBE ategu ac ychwanegu at weithredoedd presennol Cymru.
Tynnodd fy ymateb i Lywodraeth y DU sylw at sawl maes lle mae angen gweithio ar y cyd arnom, er mwyn sicrhau bod cymhwysedd datganoledig Senedd Cymru yn cael ei barchu'n briodol wrth i flaenoriaethau strategol GBE gael eu gweithredu. Mae'r rhain yn cynnwys dealltwriaeth fanylach o sut y bydd GBE yn gweithio gyda ni i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth strategol a nodir mewn cynlluniau gofodol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol mewn perthynas â'n huchelgeisiau cyffredin o ran ynni a hinsawdd. Rwyf hefyd wedi nodi bod angen rhagor o waith ar sut y bydd gweithgareddau GBE yn parhau i gyd-fynd â gweithgareddau datganoledig, yn enwedig o ystyried y rhyngwyneb cymhleth rhwng cylch gwaith GBE a’r meysydd datganoledig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mecanweithiau i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn glir ym mhroses gynllunio GBE ac i fynd i'r afael â phryderon ynghylch gweithgarwch GBE, pe byddent yn codi.
Rydym yn rhannu uchelgais ar y cyd â Llywodraeth y DU am wlad ffyniannus. Byddwn yn cydweithio â nhw a chyda GBE i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r egwyddorion a amlinellir yn yr SSP i sicrhau budd yng Nghymru.
