Neidio i'r prif gynnwy

Awst 2025.

1. Opsiynau

Mae tri opsiwn wedi'u hystyried i gyflawni amcan Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â llygredd sy'n deillio o segura llonydd:

  • Opsiwn un (busnes fel arfer) – peidio â chymryd unrhyw gamau penodol ar hyn o bryd, Hysbysiadau Cosb Benodedig am droseddau segura i aros ar y lefel bresennol
  • Opsiwn dau (gwneud y lleiafswm) – cryfhau'r dull presennol drwy ganllawiau newydd
  • Opsiwn tri (cyflwyno rheoliadau) – diwygio'r gyfundrefn cosbau bresennol yn ogystal â chyhoeddi canllawiau ategol i awdurdodau lleol, a chyflwyno casgliad o 'fesurau newid ymddygiad’.

1.1 Opsiwn un – Gwneud Dim, senario busnes fel arfer

a. Disgrifiad

O dan yr opsiwn hwn, byddai'r status quo yn cael ei gynnal. Ni fyddai canllawiau gwrth-segura awdurdodau lleol yn cael eu cynhyrchu, ac ni fyddai rheoliadau yn gosod amrediad newydd o gosbau am droseddau segura llonydd yn cael eu gwneud. Fodd bynnag, byddai rhywfaint o waith polisi yn dal i barhau fel rhan o'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024, i hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer a ffyrdd o gyfyngu ar lygredd aer neu ei leihau. Efallai y bydd cyllid posibl i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno mentrau gwrth-segura yn parhau i fod ar gael trwy ein Cronfa Cymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol.

Mae'r fframwaith deddfwriaethol presennol sy'n gymwys i Gymru wedi'i ffurfio'n rhannol gan Reoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003. Mae'r rhain yn diffinio 'tramgwydd segura llonydd' fel torri neu fethiant i gydymffurfio â chymaint o reoliad 98 (diffodd peiriant pan yn llonydd) o Reoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladu a Defnyddio) 1986 ("Rheoliadau 1986") sy’n ymwneud ag atal allyriadau egsôst.

Mae rheoliadau 12 yn darparu, pan fo ganddynt reswm rhesymol i gredu bod gyrrwr cerbyd yn cyflawni trosedd segura llonydd, h.y. nad yw’r person wedi cydymffurfio â rheoliad 98 o Reoliadau 1986, gall person awdurdodedig fynnu bod y gyrrwr yn diffodd yr injan. Os nad yw'r gyrrwr yn diffodd yr injan, mae’n euog o drosedd ac mae’n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1000).

Mae rheoliad 13 yn darparu bod person awdurdodedig (sy’n golygu swyddog awdurdodedig yr awdurdod lleol, neu unrhyw berson arall sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod lleol), yn gallu cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig i yrrwr y cerbyd os yw’n ystyried bod trosedd segura llonydd wedi’i gyflawni. Ni ellir euogfarnu person am drosedd segura statudol o dan reoliad 12 pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi’i roi os caiff ei dalu cyn diwedd y cyfnod y mae’n rhaid ei dalu.

Mae rheoliad 8(b) o Reoliadau 2003 yn darparu bod swm y gosb yn £20. Mae rheoliad 18 yn darparu bod hawl gan yrrwr sydd wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig i ofyn am wrandawiad. Mae rheoliad 17(5) a (6)(c) yn darparu bod swm y gosb benodedig yn codi i £40 os na chaiff ei dalu o fewn y cyfnod talu penodedig neu os nad yw’r derbynnydd wedi rhoi hysbysiad yn gofyn am wrandawiad. Gall person apelio yn erbyn hysbysiad cosb benodedig hefyd drwy wneud cais i'r awdurdod priodol (h.y. yr awdurdod lleol), lle gall yr awdurdod lleol benderfynu na ddylai'r hysbysiad fod wedi cael ei roi neu le cafodd ei roi i'r person anghywir gellir tynnu'r hysbysiad yn ôl (rheoliad 20). Mae rheoliad 21 yn darparu, pan nad yw cosb benodedig wedi’i thalu erbyn y dyddiad talu penodedig, caiff llys sirol orchymyn ei chasglu trwy weithred gan y llys sirol neu fel arall fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn y llys hwnnw, ac yn unol â rheoliad 22, mae Gorchymyn Gorfodi Dyledion Traffig Ffyrdd 1993 yn gymwys.

Darperir Opsiwn Un fel llinell sylfaen ar gyfer cymharu â manteision posibl cryfhau'r fframwaith deddfwriaethol presennol.

b. Costau

Ni fyddai unrhyw gostau ychwanegol i awdurdodau lleol na Llywodraeth Cymru o dan yr opsiwn hwn.

Gall segura fod yn broblem (Public Health England) lle mae digwyddiadau rheolaidd o segura dwys a pharhaus. Gall gael ei waethygu gan gerbydau hŷn gyda systemau ôl-driniaeth llai effeithiol (lle nad yw nwyon egsôst diesel a allyrrir gan yr injan yn cael eu glanhau yn ogystal ag mewn cerbydau mwy modern cyn cael eu trosglwyddo trwy'r bibell fwg i'r aer y tu allan). Enghreifftiau o leoliadau lle mae segura'n bryder cyffredin yw strydoedd ysgol (yn enwedig gan fod pryder am iechyd plant yn thema gyffredin mewn perthynas ag effeithiau segura); yng nghanol dinasoedd/trefi, cyfnewidfeydd trafnidiaeth (gorsafoedd bysiau a safleoedd tacsis), canolfannau iechyd gan gynnwys meddygfeydd meddygon teulu, clinigau a chartrefi gofal, ac ati. Byddai costau cynyddol diffyg gweithredu yn cwmpasu costau gofal iechyd; costau cymdeithasol uwch; a chostau absenoldeb salwch ac effaith hynny ar gynhyrchiant economaidd.

Gall segura effeithio'n sylweddol ar ansawdd aer lleol a golygu bod y cyhoedd, yn ogystal â phobl mewn cerbydau, yn dod i gysylltiad â llygryddion sy'n niweidiol i iechyd. Ystyriodd ymchwil a gynhaliwyd gan ymchwil a gynhaliwyd gan TRL (trl.co.uk) yr enghraifft o allyriadau o gar teulu / ystâd unigol yn segura y tu allan i gatiau'r ysgol am bum munud. Yn achos cerbyd disel, byddai hyn yn cynhyrchu hyd at 51.93 litr o CO2 ac, yn achos cerbyd petrol, hyd at 27.45 litr. Gan nodi bod cyfaint cyfartalog yr aer y mae plentyn yn ei anadlu mewn munud yn 5-6 litr, mae TRL yn ychwanegu pe bai plentyn yn sefyll wrth gatiau'r ysgol am yr un cyfnod ag y mae'r cerbyd yn segur, gallai'r plentyn anadlu cyfaint sylweddol o'r CO2 hwn a allyrrir.

Er gwaethaf y pwerau presennol i orfodi troseddau segura llonydd, yn gyffredinol nid yw Awdurdodau Lleol wedi defnyddio'r rhain, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddata ar nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Tybir bod y nifer yn isel iawn, neu'n sero. Nid oes unrhyw ddata yn cael ei gadw, chwaith, ar y swm y mae awdurdodau lleol yn ei wario ar orfodi segura llonydd ar hyn o bryd ond credir bod hwn yn isel iawn hefyd, neu'n sero.

Mae gweithgareddau ymgyrchu i annog gyrwyr i ddiffodd wedi bod yn dameidiog ledled Cymru, gyda nifer fach yn unig o awdurdodau lleol yn cyflwyno mentrau penodol, gyda rhai gweithgareddau'n cael eu cefnogi drwy ein Cronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol.

Heb ymyrraeth i newid yr ymyrraeth leiaf gan awdurdodau lleol ledled Cymru, bydd segura llonydd yn parhau i gyfrannu'n ddiangen at lygredd aer lleol gyda risg ganlyniadol i iechyd y cyhoedd.

Crynodeb o'r costau sy'n gysylltiedig ag opsiwn 1 
 25 / 2626 / 2727 / 2828 / 2929 / 3030 / 3131 / 3232 / 3333 / 3434 / 35
Costau LlC----------
Costau ALl----------
Cyfanswm----------

c.    Manteision

Ni fyddai unrhyw wariant ychwanegol i awdurdodau lleol. Byddai awdurdodau lleol yn parhau i elwa ar gyllid i gefnogi camau gweithredu ar ansawdd aer trwy ein Cronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol. Efallai y bydd rhywfaint o godi ymwybyddiaeth yn cael ei gyflawni hefyd fel rhan o'n Cynllun Cyflawni Codi Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer arfaethedig y byddwn yn ymgynghori arno yn 2025.

d.    Crynodeb

Byddai Opsiwn Un yn gyfystyr â chadw'r status quo heb unrhyw wariant ychwanegol i awdurdodau lleol. Fodd bynnag, byddem yn colli'r cyfle i leihau'r risg o bosibl i dderbynyddion bregus mewn mannau lle mae llawer o segura trwy gyflwyno dirwyon uwch i atal pobl rhag segura. Mewn perthynas â llygredd aer yn fwy cyffredinol, byddai'r costau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn debygol o gynyddu yn y blynyddoedd i ddod er mwyn ymdrin ag effeithiau iechyd ansawdd aer gwael.

1.2 Opsiwn Dau – Cryfhau ac ail-bwysleisio'r dull presennol drwy ganllawiau newydd

a.    Disgrifiad

O dan yr opsiwn hwn, gallai Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol mewn perthynas â segura injans cerbydau. Gallai Gweinidogion Cymru ddibynnu ar adran 88(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i gyhoeddi canllawiau.

Gallai'r canllawiau, ymhlith pethau eraill, dynnu sylw at fanteision canolbwyntio ar amddiffyn derbynyddion bregus a thargedu mannau lle mae llawer o injans cerbydau'n segura yn barhaus. Gallai hyn leihau'r risg i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel plant neu'r rhai mewn lleoliadau gofal iechyd neu mewn cartrefi gofal preswyl.

Bydd Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar y canllawiau cyn eu cyhoeddi. Trwy wneud hyn, gallwn sicrhau y byddai unrhyw ganllawiau yn diwallu anghenion awdurdodau lleol i'w helpu i ddatblygu strategaethau gwrth-segura gan injans cerbydau a chynghori ar sut y gellid ymgorffori'r rhain mewn pecyn ehangach o fesurau sy’n ategu ei gilydd sydd wedi'u cynllunio i leihau llygredd aer.

b.    Costau

Costau i Lywodraeth Cymru

Byddai cost creu a chyhoeddi canllawiau ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru a phe baent yn cael eu cynhyrchu amcangyfrifir y bydd yn costio tua £16.4k yng nghyfnod ariannol 2025/26, sy'n cynnwys:

  • £15.8k (dros gyfnod o 12 mis) ar gyfer adnoddau staff i ddrafftio'r canllawiau, rheoli ymgynghoriadau â rhanddeiliaid a chyhoeddi ymatebion a dogfennau terfynol
  • £630 ar gyfer y gost ychwanegol o gyfieithu'r canllawiau

Costau i Awdurdodau Lleol

Nid yw'r opsiwn hwn yn creu costau ychwanegol i awdurdodau lleol yn uniongyrchol heblaw am ychydig o amser staff i ddod yn gyfarwydd â chanllawiau newydd Llywodraeth Cymru.

Gall awdurdodau lleol ddewis cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i hyrwyddo arfer gorau yn y gymuned yn seiliedig ar y manylion yn y canllawiau. Mae'n anodd mesur y costau hyn gan y bydd agweddau ymarferol cyflwyno ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd yn cael eu pennu gan bob awdurdod lleol ac nid yw'n bosibl rhagweld i ba raddau y bydd awdurdodau lleol unigol yn mabwysiadu strategaethau gwrth-segura. Fodd bynnag, roedd costau dangosol yn seiliedig ar benderfyniad Cyngor Lambeth i orfodi gwrth-segura gan injans cerbydau yn 2020 oddeutu £18.5k, yn cynnwys:

  • £15k ar gyfer datblygu a chodi arwyddion gwybodaeth ar draws Lambeth, yn enwedig o amgylch ysgolion ac mewn mannau lle mae llawer o segura
  • £3.5k ar gyfer gweithgareddau cyfathrebu i hyrwyddo gwrth-segura gan injans cerbydau

Efallai y bydd cymorth ariannol i awdurdodau lleol i dalu costau gweithredu strategaethau gwrth-segura lleol (megis deunyddiau addysgol, deunyddiau hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth) ar gael drwy'r Gronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol (fel yr amlinellir yn Nhabl 7 y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2023) (senedd.cymru), a'r gyllideb Hyrwyddo Ymwybyddiaeth (hyd at £575k y flwyddyn).

Mae'n bosibl y gall rhai elfennau o'r costau fod yn ailadroddus dros nifer o flynyddoedd ariannol (e.e. cyfathrebu ac ymgysylltu), tra gall eraill fod yn gostau untro mewn un flwyddyn ariannol (e.e. arwyddion ac offer).

Gallai'r canllawiau argymell ffyrdd y gallai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion i hyrwyddo ymwybyddiaeth, addysg a newid ymddygiad gwrth-segura. Yn yr un modd, gallai lleoliadau gofal iechyd weithredu pecynnau cymorth gwrth-segura. Mae'r adnoddau ar gyfer gwaith o'r fath yn bodoli eisoes, fel y pecyn cymorth ar gyfer Awdurdodau Lleol (idlingaction.london).

Costau i fusnesau neu berchnogion tai preifat

Ni fydd yr opsiwn hwn yn golygu unrhyw gost i fusnesau na pherchnogion tai preifat.

Costau Iechyd a Chymdeithasol / Costau Cymdeithasol

Bydd yna gostau iechyd a chymdeithasol ychwanegol os na chymerir camau i fynd i'r afael â llygredd aer o ffynonellau fel cerbydau llonydd.  

Amcangyfrifodd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 mai cost gymdeithasol (Iechyd Cyhoeddus Cymru) llygredd aer yng Nghymru yw £1 biliwn y flwyddyn.  Mae'r ffigur hwn yn cynnwys costau'r gwasanaeth iechyd a diwrnodau gwaith a gollir. Fodd bynnag, nid yw'n glir faint o'r gost hon y gellir ei phriodoli i broblem segura llonydd.

Crynodeb o'r costau sy'n gysylltiedig ag opsiwn 2 (£k)
 25 / 2626 / 2727 / 2828 / 2929 / 3030 / 3131 / 3232 / 3333 / 3434 / 35
Costau LlC16.4---------
Costau ALl----------
Cyfanswm16.4---------

*Sylwer – ni ellir mesur costau awdurdodau lleol gan y bydd hyn yn dibynnu ar y defnydd gan bob awdurdod.

c.    Manteision

Bydd canllawiau gwell a chliriach yn gwneud yr angen am weithredu gan awdurdodau lleol yn fwy eglur. Rydym yn rhagweld y bydd y canllawiau'n cynnwys nifer o elfennau:

  • pwyslais ar addysgu a hysbysu cyn defnyddio Hysbysiadau Cosb Benodedig (a fydd yn ddewis olaf)
  • codi ymwybyddiaeth a chyflawni newid ymddygiad
  • cysylltiadau rhwng ansawdd aer a sŵn a sut y gall gwella ansawdd aer arwain at fanteision i’r seinwedd
  • datblygu a gweithredu strategaethau gwrth-segura a chyfeirio pobl at adnoddau presennol, megis pecynnau cymorth gwrth-segura; ac
  • ymgorffori strategaethau gwrth-segura mewn pecyn ehangach o ymyriadau sy’n ategu ei gilydd.

Bydd y canllawiau'n esbonio'r rhyng-gysylltiadau rhwng ansawdd aer a sŵn hefyd a sut y gall gwella ansawdd aer ddod â manteision ychwanegol i'r seinwedd.

Yn ogystal, byddai cyhoeddi canllawiau'n cyfrannu at bolisi cyffredinol Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau gan drafnidiaeth.

Mae'r canllawiau'n cynnig y potensial ar gyfer cyflwyno camau gweithredu a fydd yn gwella ansawdd aer yng Nghymru, yn cyfrannu tuag at leihau costau i wasanaethau iechyd ac yn y pen draw yn lleihau'r risgiau i dderbynyddion bregus. I blant, gall manteision mynd i'r afael â llygredd aer fynd y tu hwnt i amddiffyn eu hiechyd. Awgrymodd modelu (Prifysgol Manceinion) a gynhaliwyd gan y Cynllun Gweithredu Byd-eang, Sefydliad Philips a Phrifysgol Manceinion y gallai lleihau llygredd aer ar dir ysgolion a'u cyffiniau wella datblygiad cof gweithiol plentyn 6%, sy'n cyfateb i bedair wythnos o amser dysgu ychwanegol y flwyddyn.

O'i gymharu ag Opsiwn 1, byddai disgwyl i Opsiwn 2 arwain at fwy o weithgarwch a gwell gweithgarwch gan Awdurdodau Lleol i fynd i'r afael â segura llonydd, a chynnydd mewn ceisiadau i Gronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol ar gyfer mentrau gwrth-segura penodol.

Byddai gostyngiad mewn achosion o segura llonydd yn creu gwelliannau ansawdd aer a byddai o fudd pellach i yrwyr trwy arbedion mewn costau tanwydd.

d.    Crynodeb

Mae canlyniadau gweithredu canllawiau yn rhoi cyfle i roi mwy o bwyslais a dangos y cysylltiadau rhwng ansawdd aer a sŵn/seinwedd, ac os cyflawnir newid ymddygiad trwy addysg, yna gall yr angen am orfodi gael ei leihau'n fawr.

Gan amlaf mae ffynonellau llygredd aer a sŵn naill ai'n union yr un fath neu â chysylltiad agos, mae eu llwybrau trosglwyddo yn debyg, a'r derbynyddion yr effeithir arnynt fwyaf yw'r un bobl yn aml (y bobl sydd agosaf at y ffynhonnell fel arfer).  

Mae swyddogion wedi dod i'r casgliad bod gan yr opsiwn hwn fanteision amlwg, megis ail-bwysleisio a chryfhau'r gyfundrefn bresennol ar gyfer gwrth-segura gan injans cerbydau. Fodd bynnag, credir bod symiau’r cosbau presennol am droseddau segura yn rhy isel i gynnig digon o rwystr ac yn annhebygol o fod yn ymarferol i awdurdodau lleol eu gorfodi.

1.3     Opsiwn Tri – Diwygio'r gyfundrefn cosbau bresennol a chyhoeddi canllawiau

a.    Disgrifiad

O dan yr opsiwn hwn, byddai'r fframwaith polisi a deddfwriaethol sy'n llywodraethu gwrth-segura'n cael ei gryfhau drwy:

  • Ddiwygio Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 i gyflwyno casgliad o gosbau am droseddau segura gan injans cerbydau; a
  • Chyhoeddi canllawiau newydd o dan adran 88(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 mewn perthynas â gwrth-segura gan injans cerbydau i gefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu eu strategaethau gwrth-segura eu hunain yn effeithiol (fel yr amlinellir yn Opsiwn Dau ond i gynnwys cyngor ar weithredu newidiadau deddfwriaethol).

Byddai disgwyl i gyflwyno casgliad o gosbau gynyddu'r effaith atal a helpu i leihau allyriadau, a fydd yn cynnig manteision pellach o ran sŵn a seinwedd. Byddai gan awdurdodau lleol y pŵer disgresiwn i bennu symiau cosbau o fewn yr ystod ragnodedig ar gyfer troseddau segura gan injans cerbydau. Byddai symiau cosb uwch yn cynyddu hyfywedd gorfodi fel offeryn i awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r drosedd hon.

Fel yn Opsiwn Dau, byddai'r canllawiau, ymhlith pethau eraill, yn tynnu sylw at fanteision canolbwyntio ar amddiffyn derbynyddion bregus a thargedu mannau lle mae llawer segura dwys a pharhaus yn digwydd. Byddai hyn yn lleihau'r risg i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel plant neu'r rhai mewn lleoliadau gofal iechyd neu mewn cartrefi gofal preswyl.

b.    Costau

Llywodraeth Cymru

Fel yr amlinellir yn Opsiwn Dau, bydd cost creu a chyhoeddi canllawiau ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru ac amcangyfrifir y bydd yn costio tua £16.4k, sy'n cynnwys:

  • £15.8k (dros gyfnod o 12 mis) ar gyfer adnoddau staff i ddrafftio'r canllawiau, rheoli ymgynghoriadau â rhanddeiliaid a chyhoeddi ymatebion a dogfennau terfynol
  • £630 ar gyfer y gost ychwanegol o gyfieithu'r canllawiau

Cynigir  y dylid cynnal ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r drosedd bresennol segura llonydd, ac i hysbysu gyrwyr am y posibilrwydd o gosbau uwch ar ôl i'r rheoliadau newydd ddod i rym.

Byddai'r ymgyrch yn cael ei chynnal o ddechrau 2026 fel rhan o'r gwaith o gyflawni ein Cynllun Cyflawni Codi Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer sydd ar ddod. Y gyllideb ar gyfer y Cynllun yw £500 mil y flwyddyn ar gyfer y casgliad llawn o weithgareddau y mae gwrth-segura'n rhan fach ohonynt. Nid yw'n bosibl datgysylltu elfen ymwybyddiaeth o wrth-segura o'r ffigur ar gyfer y gyllideb lawn, felly dim ond at y gyllideb gyffredinol y cyfeirir.

Disgwylir i'r Cynllun Cyflawni bara tair blynedd, a disgwylir y bydd rhywfaint o weithgarwch gwrth-segura'n parhau gydol y cyfnod llawn. Tybir y bydd gweithgarwch yn dechrau ym mis Ionawr 2026, ac felly byddai costau yn 2025-26 yn adlewyrchu un rhan o ddeuddeg o gyllideb y Cynllun Cyflawni (£125k).

Rydym yn cydnabod mai hyd oes disgwyliedig y cynllun cyflawni yw tair blynedd, a'r weinyddiaeth nesaf fydd i benderfynu a yw'n dymuno ymrwymo'r cyllid perthnasol.

Awdurdodau Lleol

O ran y costau sy'n ymwneud â gweithredu canllawiau newydd, cyfeiriwch at y rhai a amlinellir yn Opsiwn Dau, h.y. gall awdurdodau lleol ddewis datblygu ymgyrch leol, gydag amcangyfrif cost o tua £18.5k yn seiliedig ar y cynllun a gyflwynwyd yng Nghyngor Lambeth:

  • Ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd:
    • £15k ar gyfer datblygu a chodi arwyddion gwybodaeth ar draws Lambeth, yn enwedig o amgylch ysgolion ac mewn mannau lle mae llawer o segura
    • £3.5k ar gyfer gweithgareddau cyfathrebu i hyrwyddo gwrth-segura gan injans cerbydau.

Efallai y bydd awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru, drwy'r Gronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol, i gefnogi costau ymgyrchoedd gwrth-segura lleol.

Nid yw'n bosibl meintioli costau i awdurdodau lleol sy’n deillio o'r newid deddfwriaethol arfaethedig gan nad oes dyletswydd arnynt i orfodi troseddau segura. Yn y pen draw, materion i awdurdodau lleol unigol eu penderfynu yw p'un ai i benodi staff gorfodi ai peidio, a pha lefel o gapasiti swyddogion gorfodi y dylid ei ddyrannu. Bydd hyn yn cael ei lywio, yn rhannol, gan y graddau y mae segura llonydd yn cael ei weld fel problem benodol yn eu hardal.

Fodd bynnag, gyda'r cyfle i gael lefelau cosb uwch, efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn penderfynu dyrannu adnoddau ychwanegol i orfodi yn ymwneud â segura, ar y sail y gallai refeniw a godir wrthbwyso costau adnoddau swyddogion gorfodi fel y gallai gorfodi ddod yn hunangynhaliol. Bydd cyflogau swyddogion gorfodi'n amrywio yn ôl rhanbarth a phrofiad, ond gallai man cychwyn ar gyfer swydd amser llawn fod oddeutu £25k y flwyddyn ynghyd â chostau ategol yn seiliedig ar swyddi gwag diweddar a hysbysebwyd ar GOV.UK.

Gall awdurdodau lleol hefyd ystyried ychwanegu gorfodi yn ymwneud â segura at ddyletswyddau swyddogion presennol, er enghraifft trwy ychwanegu hyn at rolau swyddogion gorfodi parcio.

Yn y pen draw, mae o fewn disgresiwn pob awdurdod lleol i benderfynu pa gamau y maent yn eu cymryd a phryd.

Bydd y canllawiau arfaethedig yn rhoi pwyslais ar addysgu a hysbysu'r cyhoedd cyn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig. Bydd yn parhau i fod yn wir fod yn rhaid i berson a awdurdodwyd gan awdurdod lleol sydd â rheswm rhesymol i gredu bod gyrrwr yn cyflawni trosedd gadael injan cerbyd llonydd i segura ar y briffordd gyhoeddus ofyn i'r gyrrwr ddiffodd yr injan cyn troi at roi hysbysiad cosb benodedig.

Mae potensial i awdurdodau lleol rannu costau'n ymwneud â’r gwaith cyhoeddusrwydd a gweithredu i gynnwys hyfforddiant Swyddogion Gorfodi a chysondeb ymarferion gorfodi.

Gellir dadlau y byddai'r canllawiau ar ddatblygu a gweithredu mesurau gwrth-segura gan injans cerbydau yn arwain at leihau'r angen am orfodi. Er enghraifft, gallai'r canllawiau argymell ffyrdd y gallai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion i hyrwyddo ymwybyddiaeth, addysg a newid ymddygiad yn ymwneud â gwrth-segura. Yn yr un modd, gallai lleoliadau gofal iechyd weithredu pecynnau cymorth gwrth-segura. Mae'r adnoddau ar gyfer gwaith o'r fath yn bodoli eisoes, fel y pecyn cymorth canlynol ar gyfer Awdurdodau Lleol (idlingaction.london).

Mae'n werth pwysleisio mai nodau terfynol y darpariaethau hyn yw aer glanach ac amgylchedd iachach i bawb, ac nad cynhyrchu elw ar draul modurwyr yw'r pwrpas. Gellir gosod cyfyngiad ar y defnydd o unrhyw elw sy'n deillio o incwm gorfodi, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddefnyddio'r arian hwn at ddibenion penodol a allai fod o fudd pellach i'r amgylchedd.

I grynhoi, nid yw'n bosibl pennu costau gweithredu'r ddeddfwriaeth arfaethedig gan fod gormod o elfennau ansicr. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw gostau'n codi pe bai'n well gan awdurdodau lleol unigol fynd i'r afael â segura heb ddefnyddio gorfodi, neu le mae symiau cosb yn cael eu gosod ar lefel sy'n golygu bod gorfodi yn hunan-ariannu.

Crynodeb o'r costau sy'n gysylltiedig ag opsiwn 3 (£k)
 25 / 2626 / 2727 / 2828 / 2929 / 3030 / 3131 / 3232 / 3333 / 3434 / 35
Costau LlC141.4500500500------
Costau ALl----------
Cyfanswm141.4500500500------

*Sylwer – Ni ellir mesur costau Awdurdodau Lleol gan y bydd hyn yn dibynnu ar y defnydd gan bob awdurdod. Mae costau Llywodraeth Cymru yn cynnwys costau ein hymgyrch ehangach i sicrhau ymwybyddiaeth o lygredd aer.

c.    Manteision

O ran gweithredu canllawiau newydd, cyfeiriwch at y manteision a amlinellir yn Opsiwn Dau.

O ran cyflwyno ystod o gosbau penodedig ar gyfer troseddau segura gan injans cerbydau a gyflwynir gan y Rheoliadau hyn, rhagwelir y manteision ychwanegol canlynol:

  • pŵer yn ôl disgresiwn i awdurdodau lleol bennu symiau cosb benodedig ar gyfer troseddau segura gan injans cerbydau o fewn ystod ragnodedig.
  • cynyddu'r effaith atal a helpu i leihau allyriadau, bydd hyn yn helpu i leihau lefelau sŵn diangen sy'n gysylltiedig â segura gan injans hefyd ond nid dyma bwrpas y ddeddfwriaeth
  • ategu polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau gan drafnidiaeth
  • cyfrannu at well iechyd a lleihau costau iechyd a chymdeithasol.
  • potensial i wariant ychwanegol awdurdodau lleol gael ei wrthbwyso gan refeniw a geir o gosbau penodedig ac i awdurdodau lleol rannu costau gwaith cyhoeddusrwydd a gweithredu i gynnwys hyfforddiant swyddogion a chysondeb ymarferion gorfodi

Mae'n werth pwysleisio, fodd bynnag, mai nod y darpariaethau hyn yn y pen draw yw aer glanach ac amgylchedd iachach i bawb, nid cynhyrchu refeniw.

Fel y nodwyd uchod, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 mai costau iechyd a chymdeithasol llygredd aer yng Nghymru yw £1 biliwn y flwyddyn. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl pennu faint o'r gost hon y gellir ei phriodoli i segura gan gerbydau nac i ba raddau y gallai'r Rheoliadau hyn helpu i leihau'r gost.

d.    Crynodeb

Opsiwn Tri yw'r opsiwn a ffafrir gan fod Llywodraeth Cymru'n credu mai cyfuniad o welliannau i'r gyfundrefn gosbi a chyhoeddi canllawiau newydd yw'r mwyaf effeithiol yn ôl pob tebyg o'r opsiynau er mwyn cyflawni newid.

Mae angen amlwg i leihau'r risgiau y mae llygredd aer yn eu peri i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel plant a'r rhai mewn lleoliadau gofal iechyd a chartrefi gofal. Yn aml, mae gan dderbynyddion agored i niwed gyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes a all gael eu gwaethygu gan allyriadau. Fel y disgrifir uchod, y bwriad yw i'r canllawiau ar ddatblygu mesurau gwrth-segura gan injans cerbydau ganolbwyntio'n rhannol ar addysg, codi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad a fyddai'n lleihau'r angen am orfodi gweithredol

Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl cynnal gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid gydag awdurdodau lleol ar y canllawiau y flwyddyn nesaf cyn eu cyhoeddi erbyn diwedd Gorffennaf 2026. Yn y modd hwn, gallwn sicrhau bod y canllawiau'n diwallu anghenion awdurdodau lleol trwy eu helpu i ddatblygu strategaethau gwrth-segura a chynghori ar sut y gellir ymgorffori'r rhain mewn pecyn ehangach o fesurau sy’n ategu ei gilydd sydd wedi'u cynllunio i leihau llygredd aer.

2. Asesiad o'r Gystadleuaeth

Cynhaliwyd Asesiad Hidlo'r Gystadleuaeth er mwyn pwyso a mesur yr effaith bosibl sy'n gysylltiedig â'r cynigion. Nid oes disgwyl i'r polisi hwn gael effaith niweidiol ar lefelau cystadleuaeth yng Nghymru na gallu cwmnïau o Gymru i gystadlu gan nad yw'r cynigion yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar fusnesau nac unrhyw farchnadoedd. Isod, nodir canlyniadau prawf hidlo (a oedd yn cynnwys naw o gwestiynau cywir/anghywir) sy’n ategu’r casgliad hwn.

Prawf hidlo’r gystadleuaeth
Cwestiwn 

Ateb 

(cywir neu anghywir)

C1: Yn y farchnad/marchnadoedd y bydd y rheoliad newydd yn effeithio arni/arnynt, a oes unrhyw gwmni yn berchen ar fwy na 10% o gyfran y farchnad?Nac oes
C2: Yn y farchnad/marchnadoedd y bydd y rheoliad newydd yn effeithio arni/arnynt, a oes unrhyw gwmni â mwy na 20% o gyfran y farchnad? Nac oes
C3: Yn y farchnad/marchnadoedd y bydd y rheoliad newydd yn effeithio arni/arnynt, a fydd gan y tri chwmni mwyaf gyda’i gilydd gyfran o 50% o'r farchnad o leiaf? Na fydd
C4: A fyddai costau’r rheoliad yn effeithio ar rai cwmnïau yn llawer mwy nag eraill? Na fyddent
C5: A yw’r rheoliad yn debygol o effeithio ar strwythur y farchnad, gan newid nifer y cwmnïau neu eu maint? Nac ydy
C6: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau sefydlu uwch ar gyfer cyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr nad yw cyflenwyr presennol yn gorfod eu talu? Na fyddai
C7: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau rheolaidd uwch i gyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr nad yw cyflenwyr presennol yn gorfod eu talu? Na fyddai
C8: A yw newid technolegol cyflym yn nodweddiadol o’r sector? Nac ydy
C9: A fyddai’r rheoliad yn cyfyngu ar allu cyflenwyr i ddewis pris, ansawdd, amrywiaeth neu leoliad eu cynhyrchion?Na fyddai

3. Adolygu ar ôl gweithredu

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo eisoes i gynnal adolygiad ôl-weithredu o ddeddfwriaeth Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (legislation.gov.uk)2024 bum mlynedd ar ôl iddi ddod i rym fan bellaf (fel yr amlinellir yn adran 9 o'r Memorandwm Esboniadol (senedd.cymru) cysylltiedig).  

Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys asesiad o effeithiolrwydd cyflwyno ystod gosbau'n unol â Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Diwygio) (Cymru) 2026.