Roedd yr arolwg hwn wedi’i fwriadu ar gyfer unigolion sy’n darparu gwasanaethau a gweithgareddau cymorth i unigolion sy’n profi digartrefedd, neu sydd mewn perygl o’i brofi yng Nghymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Y fframwaith canlyniadau ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd
Roedd ymatebion i'r cwestiynau caeedig yn dangos barn gyffredinol gadarnhaol o weithio yn y sector digartrefedd a chymorth tai, yn enwedig ynghylch teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u trin yn deg. Er bod safbwyntiau ar gydnabyddiaeth a gwobrwyo yn fwy niwtral, roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio egwyddorion sy'n seiliedig ar drawma ac wedi’u eu cefnogi wrth reoli trawma dirprwyol.
Wrth gymharu gwahaniaethau meintiol rhwng grwpiau, adroddodd staff gweinyddol/swyddfa gefn a gweithwyr rheng flaen mewn cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol brofiadau mwy niwtral neu negyddol, yn enwedig ynghylch tegwch, gwobrwyo ac arferion myfyriol. Mewn cyferbyniad, roedd rheolwyr ac uwch arweinwyr yn gyffredinol yn fwy cadarnhaol, er bod y rhai mewn awdurdodau lleol yn teimlo llai o falchder i weithio yn y sector a phrofi llai o gefnogaeth i weithgareddau datblygu.
Datgelodd ymatebion i'r cwestiynau arolwg penagored sawl mater nad oedd yn amlwg yn yr atebion i'r cwestiynau caeedig. Siaradodd cyfranogwyr am brofi lefelau uchel o straen, cyflog isel, a dim ond hyn a hyn o gydnabyddiaeth. Roedd llawer yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi'n iawn nac yn cael cefnogaeth, yn enwedig yn y trydydd sector, a gyfrannodd at golli staff a lludded. Disgrifiodd rhai ddeinameg tîm cadarnhaol a chefnogaeth reoli ond nodwyd bod y sector yn parhau i wynebu heriau ynghylch cyllid, dilyniant gyrfa a llesiant staff.
