Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru
Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennym roi gwybod i'r Aelodau, yn dilyn y cyllid ychwanegol y cytunwyd arno yng nghyllideb 2025-26, mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw'r awdurdod lleol cyntaf i roi gwybod i ni eu bod bellach yn gallu darparu gofal plant Dechrau'n Deg i bob plentyn dwy oed yn ardal yr awdurdod. Mae'r hyn yn gyflawniad sylweddol, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.
Ysgrifennodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol at yr Aelodau ym mis Gorffennaf 2025 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i fynd ati'n raddol i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn dwy oed, gyda phwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Dechreuwyd ar Gam 3 o'r g ehangu ym mis Ebrill 2025 ac mae'n cael ei gyflwyno trwy ein rhaglen Gofal Plant Dechrau'n Deg. Yn 2025-26, rydym yn buddsoddi £25m o gyllid ychwanegol ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth ymhellach ledled Cymru. Bydd hyn yn dod â ni gam yn nes at gael ddarpariaeth gofal plant i bob plentyn dwy oed. Rydym yn disgwyl i flwyddyn gyntaf Cam 3 gefnogi mwy na 4,000 yn rhagor o blant dwy oed ledled Cymru i gael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel.
Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg yn wasanaeth hanfodol sy'n helpu plant i ddysgu, i dyfu ac i ffynnu. Bydd Cam 3 o'r gwaith o ehangu gofal plant Dechrau'n Deg yn caniatáu i'r holl awdurdodau lleol ledled Cymru gyrraedd mwy o deuluoedd a all elwa ar y cynnig hwn.
Rydym am achub ar y cyfle i ddiolch i gydweithwyr ar draws y sector, gan gynnwys awdurdodau lleol a darparwyr gofal plant am eu gwaith caled i ymestyn cyrhaeddiad gofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant a phartneriaid eraill i sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd gofal plant Dechrau'n Deg."
Sicrhawyd y cyllid hwn ar gyfer ehangu Dechrau'n Deg drwy'r cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am unrhyw gynnydd pellach.
