Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Ym mis Mehefin, cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu Swyddfa Deallusrwydd Artiffisial (AI) i gryfhau ein gallu mewnol, i hwyluso'r broses o lunio polisïau gwybodus ac i gefnogi cydweithio ystyrlon â rhanddeiliaid ledled Cymru. Cyhoeddais hefyd y bydd Grŵp Cynghori ar AI Strategol yn cael ei sefydlu i roi cyngor arbenigol i Weinidogion ar fabwysiadu AI ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y Grŵp Cynghori ar AI Strategol yn cyfarfod am yr eildro yn ddiweddarach y mis hwn i drafod sgiliau a blaenoriaethau AI Cymru. Ochr yn ochr â hyn, fel rhan o raglen waith y Swyddfa AI, rwyf wedi neilltuo cyllid i gyfres o fentrau cyffrous sy'n cefnogi gweithredu AI yn gyfrifol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Bydd y cyllid yn helpu i gyflawni'r prosiectau yn gyflym ac yn sefydlu sylfaen gadarn ar gyfer gweithgarwch AI yn y dyfodol. Yr amcan cyffredinol yw dangos yn glir y manteision ymarferol y gall AI eu cynnig wrth wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Bydd pob prosiect yn llunio adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd ac yn rhannu arferion gorau ag eraill ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Bydd y prosiectau yn:
- datblygu dealltwriaeth sylfaenol gyfredol o weithgareddau sy'n gysylltiedig ag AI ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru;
- cynnal gwerthusiad o'r offer trawsgrifio AI sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar draws rhannau o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mewn meysydd fel asesiadau gofal cymdeithasol, i helpu i lywio penderfyniadau buddsoddi a chyflwyno yn y dyfodol;
- cyflwyno platfform a fydd ar gael i'r sector cyhoeddus brofi a defnyddio offer AI, fel y rhai a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a defnyddio offeryn dylunio cynnwys wedi'i alluogi gan AI i eraill ei ddefnyddio;
- datblygu prawf o gysyniad i brofi dichonoldeb cynorthwyydd sgwrsfot ar gyfer gwasanaeth newydd StatsCymru Llywodraeth Cymru, gan ei gwneud hi'n haws i bobl a sefydliadau ddod o hyd i setiau data a ffigurau defnyddiol heb orfod chwilio trwy lawer o wybodaeth gymhleth;
- datblygu canllawiau i'w defnyddio gan awdurdodau lleol ac eraill ar y ffordd orau o gyflwyno AI yn effeithlon ac yn effeithiol i'w gwasanaethau;
- darparu hyfforddiant ar AI i weithwyr y sector cyhoeddus fel y gallant ei ddefnyddio; a
- pharhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ei set offer wedi'i alluogi gan AI "Humphrey" i asesu sut y gellir sicrhau bod yr offer y mae'n eu datblygu ar gael yng Nghymru a sut y gellir eu defnyddio yma.
Yn ogystal â'r gronfa hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Prif Chwip a'r Trefnydd wedi cytuno yn ddiweddar i ariannu undeb credyd Cymreig i gymryd rhan mewn prosiect AI cydweithredol sy'n gweithio gyda chwmni technoleg a dau fenthyciwr moesegol. Bydd y prosiect yn archwilio'r defnydd o dechnoleg AI i symleiddio swyddogaethau swyddfa craidd ac awtomeiddio swyddfa gefn, gan ryddhau staff i dreulio amser ar wella'r broses fenthyca a chanolbwyntio ar brofiad yr aelod. Bydd gwersi o'r prosiect yn cael eu rhannu rhwng y tri sefydliad, gydag undebau credyd eraill yng Nghymru, a Llywodraeth Cymru drwy gydol y prosiect.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael mwy na £440mil o gyllid gan Gronfa Arloesi Cynhwysiant Digidol Llywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'n cefnogi ein gwaith blaenllaw ar y cysyniad o safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol (MDLS). Mae'r MDLS yn feincnod ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar bobl i’w cynnwys yn ddigidol, sy'n cwmpasu mynediad at ddyfeisiau a chysylltedd yn ogystal â sgiliau digidol sylfaenol, ac rydym yn bwriadu comisiynu arolwg sylfaenol a fydd yn darparu amcangyfrif cenedlaethol ar gyfer faint o bobl 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru sydd islaw'r MDLS. Mae hyn yn ategu prosiectau peilot MDLS sy'n gweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi preswylwyr tai cymdeithasol, cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phobl hŷn ledled Cymru i ddangos manteision bodloni'r MDLS.
Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg hefyd fod Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) wedi cadarnhau buddsoddiad pellach o £26 miliwn dros y pum mlynedd nesaf yn ein Partneriaeth Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, gan dynnu sylw at gryfderau ein dull o ddefnyddio data yn ddiogel, moesegol ac arloesol i gefnogi ymchwil yng Nghymru.
Mae’r rhain yn rhoi syniad o ehangder y gweithgarwch AI a digidol yr ydym yn eu hysgogi ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n hanfodol bod gan y sector cyhoeddus ei hun y sgiliau a'r gallu AI cywir i fanteisio ar y cyfleoedd sydd gan AI i'w cynnig wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Rwyf wedi penderfynu, felly, fod budd sylweddol o alinio sgiliau ac adnoddau’r Swyddfa AI â sgiliau y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). O ganlyniad, bydd swyddogaethau'r CDPS yn cael eu hintegreiddio yn Llywodraeth Cymru. Rwy'n disgwyl i hyn gael ei gyflawni erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Bydd cydgrynhoi adnoddau yn y modd hwn yn symleiddio ac yn cryfhau galluoedd digidol ac AI Llywodraeth Cymru, yn ogystal â lleihau cymhlethdod a dyblygu. Bydd yn dod â phobl sy'n llunio polisi a'r rhai sy'n ei gyflawni ynghyd. Bydd yn sicrhau mwy o integreiddio ac yn dod â mwy ffocws i'n gwaith gan gynnal yr arbenigedd digidol ac AI a'n huchelgais am wella newidiadau digidol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.
