Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni, mae Prifysgol Aberystwyth yn symud ymlaen tuag at ei tharged sero net 2030 i sicrhau arbedion carbon a chostau sylweddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwrw ymlaen tuag at ei tharged sero net 2030 drwy raglen effeithlonrwydd ynni aml-gam, a gychwynnwyd yn 2021 i 2022 ac a gefnogir gan y Gwasanaeth Ynni a fframwaith Re:fit Cymru. Mae uwchraddiadau ar draws Campws Penglais ac arae solar newydd yn Fferm Penglais yn sicrhau arbedion carbon a chostau sylweddol.

Ein cefnogaeth

Cyngor technegol a masnachol ar fesurau arbed ynni, cymorth drwy raglen Re:fit Cymru, a chanllawiau ar geisiadau am gyllid a datblygu solar.

Datrysiad technoleg

  • Uwchraddio effeithlonrwydd ynni i wresogi, awyru, aerdymheru, rheolaethau adeiladu, a goleuadau.
  • Goleuadau LED wedi'u gosod ar draws caeau chwaraeon a labordai.
  • Arae solar newydd yn cael ei ddatblygu yn Fferm Penglais i gyflenwi hyd at 25% o'r galw blynyddol am drydan ar y campws.

Buddsoddiad

Cyfanswm buddsoddiad o £3.2 miliwn, gan gynnwys:

  • £1.8 miliwn o Raglen Ariannu Cymru
  • £1.1 miliwn gan Grant Datgarboneiddio Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Effaith

  • Arbedion o 12,000 tCO₂e dros oes y prosiect.
  • £4.2 miliwn mewn arbedion costau gydol oes.
  • Y rhan fwyaf o'r gwaith wedi’i wneud gan gontractwyr lleol.
  • Cefnogi dysgu ac ymchwil myfyrwyr wrth wella cynaliadwyedd y campws.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn bod y contract perfformiad ynni gwerth £3 miliwn a gwblhawyd yn ddiweddar yn sicrhau arbedion sylweddol mewn ynni, gan gyfrannu at ein hymdrech i leihau allyriadau a chyflawni statws sero net. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ynni a'r rhaglen Re:fit.

Dewi Day, Cynghorydd Cynaliadwyedd, Prifysgol Aberystwyth. 

Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth