Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynigion polisi manwl ar gyfer dau fesur i fynd i'r afael ag osgoi ardrethi annomestig. Dyma gadarnhau hefyd y byddwn yn symud ymlaen â’r rheoliadau sy'n ofynnol i roi effaith i'r cynigion.
Yn gyntaf, gwnaethom gynnig diffinio ystod o drefniadau osgoi artiffisial, gan roi effaith i’r fframwaith gwrthweithio osgoi cyffredinol a sefydlwyd gennym. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau bilio i gymhwyso'r fframwaith hwnnw ac i wrthweithio ymgais i osgoi'r atebolrwydd a grëir pan wneir y trefniadau diffiniedig.
Yn ail, gwnaethom gynnig creu dyletswydd i dalwyr ardrethi roi gwybod i awdurdodau bilio am newidiadau penodol mewn amgylchiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad yw gwybodaeth hanfodol yn cael ei chelu'n fwriadol rhag awdurdodau bilio a bod y swm cywir yn cael ei godi ar dalwyr ardrethi.
Dyma'r ddwy ymyrraeth ddeddfwriaethol olaf o fewn y pecyn o fesurau i fynd i'r afael ag osgoi a gyhoeddwyd yn 2018. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gyflawni'r mesurau hyn, gan ddangos ein hymrwymiad i sicrhau bod ardrethi annomestig yn cael eu casglu mor effeithiol a theg â phosibl.
Daeth 25 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Roedd y rhan fwyaf o'r cynigion unigol a nodwyd yn yr ymgynghoriad yn cael eu cefnogi gan fwyafrif o'r ymatebwyr. Roedd yr awdurdodau lleol o blaid yr holl gynigion, tra oedd asiantiaid ardrethu yn gyffredinol yn gwrthwynebu'r rhan fwyaf ohonynt. Daeth cymysgedd o ymatebion i gynigion unigol i law gan gyrff proffesiynol neu gynrychioladol, busnesau ac unigolion.
Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru, sy'n disgrifio nifer bach o newidiadau a gaiff eu gwneud i'r cynigion er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r bwriad polisi. Byddaf yn cyflwyno'r rheoliadau sy'n ofynnol i roi effaith i'r cynigion hyn maes o law ac, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senned, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.
Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yn: https://www.llyw.cymru/mesurau-i-fynd-ir-afael-ag-osgoi-ardrethi-annomestig
