Rhaglenni cymorth allforio Llywodraeth Cymru: gwerthusiad o’r effaith (crynodeb)
Gwerthusiad o effaith a gwerth am arian rhaglenni cymorth allforio craidd Lywodraeth Cymru, o ran cynyddu masnach a swyddi ac ehangu marchnadoedd tramor.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a chefndir
Mae gan Lywodraeth Cymru (LlC) hanes helaeth o gefnogi busnesau allforio yng Nghymru drwy ystod o raglenni cymorth allforio. Cafodd yr ymrwymiad hwn i hyrwyddo allforio ei nodi drwy gyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Allforio (ExAP) ym mis Rhagfyr 2020, a oedd yn rhan o Strategaeth Ryngwladol LlC. Daeth yr ExAP â rhaglenni presennol ynghyd ag amrywiaeth o gynigion newydd i roi rhaglen uchelgeisiol a chynhwysfawr o gymorth ar waith i fusnesau yng Nghymru ar wahanol gamau o'u taith allforio. Nodau deuol yr ExAP yw cefnogi busnesau unigol i gyflawni eu hamcanion allforio, ac ehangu sylfaen allforio gyffredinol Cymru.
Mae'r gwerthusiad hwn yn asesu effaith pedair rhaglen gymorth allforio graidd a amlinellir yn yr ExAP, drwy ymchwilio i'w heffeithiau ar deithiau allforio a pherfformiad busnesau a dderbyniodd gymorth rhwng 2017-18 a 2023-24. Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys: y rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol (ITD), y rhaglen Cyfleoedd Masnach Rhyngwladol (ITO), Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor (OBDV) ac Ymweliadau ac Arddangosfeydd Tramor (OVE).
Dull gwerthuso
Cyflawnwyd y gwerthusiad o effaith a nodir yn yr adroddiad hwn drwy ddull cymysg a oedd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau meintiol ac ansoddol ar y cyd. Yn benodol, roedd y gwerthusiad yn cynnwys:
- arolygon o 154 o fusnesau a dderbyniodd gymorth rhaglen graidd (buddiolwyr) a 111 o fusnesau na dderbyniodd gymorth (nad ydynt yn fuddiolwyr).
- cyfweliadau manwl gyda 17 o fusnesau a gafodd gymorth, yn ogystal ag ymgynghoriadau ag 8 o randdeiliad mewnol ac allanol.
- asesiad ychwanegedd canfyddedig yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r hyn y byddai busnesau sy'n fuddiolwyr wedi'i wneud yn absenoldeb cymorth
Dewiswyd y rhaglenni craidd a oedd o fewn cwmpas y gwerthusiad oherwydd eu graddfa ariannol a faint o fusnesau oedd yn eu defnyddio. Gyda'i gilydd, mae rhaglenni ITD, ITO, OBDV ac OVE yn cyfrif am y rhan fwyaf o gyllideb cymorth allforio gyffredinol LlC ac maent hefyd yn seiliedig ar gymorth busnes wedi'i deilwra. Eithriadau i'r rhesymeg hon yw'r Rhaglen Allforwyr Newydd a'r Rhaglen Clwstwr Allforio, sydd ill dwy yn rhaglenni cymharol o ran eu bod yn defnyddio llawer o adnoddau. Cafodd y Rhaglen Allforwyr Newydd ei hepgor o'r gwerthusiad, gan mai dim ond yn y flwyddyn ariannol 2021-22 y dechreuodd weithredu, ac felly ystyriwyd ei bod yn annhebygol y byddai wedi cynhyrchu canlyniadau mesuradwy. Cafodd y Rhaglen Clwstwr Allforio ei heithrio ar y sail ei bod yn ffocws adroddiad ymchwil annibynnol (Rhaglen Clwstwr Allforio: arolwg adborth cyfranogwr).
Dewiswyd y cyfnod gwerthuso o 2017-18 i 2023-24 ar gyfer yr ymchwil, yn gyntaf, i ganiatáu cyfnod digonol i ganlyniadau'r rhaglen ddod i'r amlwg, ac yn ail, i ystyried unrhyw effeithiau 'cyn ac ar ôl' digwyddiadau economaidd amlwg, gan gynnwys Ymadael â'r UE, Covid-19 a'r gwrthdaro rhwng Rwsia a Wcráin. Roedd dewis y cyfnod cymharol hir hwn hefyd yn caniatáu i'r arolwg buddiolwyr samplu o bwll mwy o gyfranogwyr y rhaglen, gan sicrhau digon o achosion i seilio'r dadansoddiad meintiol arnynt.
Prif ganfyddiadau
Effeithiolrwydd cymorth allforio LlC
Byddai dadansoddiad pellach yn fuddiol i sefydlu gwrthffeithiol mwy cadarn ac i archwilio perthnasoedd cydberthynasol ac achosol rhwng cymorth allforio LlC a'r canlyniadau a welwyd. Serch hynny, canfu'r gwerthusiad fod rhaglenni cymorth allforio craidd LlC wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi busnesau Cymru i ehangu'n rhyngwladol. Nododd 63.4% o'r busnesau sy'n fuddiolwyr a arolygwyd gynnydd mewn trosiant, a nododd 60.0% dwf mewn gwerthiannau allforio ers derbyn cymorth. Priodolodd 55.4% eu twf allforion yn uniongyrchol i gymorth LlC, gan ddangos cyfraniad rhaglenni cymorth allforio LlC at lwyddiant busnes. Nodwyd mai teithiau masnach ac Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor (OBDVs) oedd y mecanweithiau cymorth mwyaf effeithiol, gan helpu busnesau i sicrhau cleientiaid rhyngwladol newydd ac ehangu i farchnadoedd twf uchel. Roedd mentrau eraill fel Datblygu Masnach Ryngwladol (ITD) a Chyfleoedd Masnach Rhyngwladol (ITO) yn werthfawr ar gyfer ymchwil i'r farchnad, canllawiau rheoleiddio, a chyflwyniadau busnes. Fodd bynnag, canfu pump o'r ymatebwyr a arolygwyd fod gwybodaeth am y farchnad dan arweiniad ymgynghorwyr o ddefnydd cyfyngedig, gan ddweud y gallent gael mewnwelediadau tebyg yn annibynnol.
Twf allforio ac ehangu'r farchnad
Adroddodd busnesau eu bod wedi ehangu i farchnadoedd rhyngwladol newydd ac wedi amrywiaethu i sectorau newydd, megis ynni adnewyddadwy alltraeth, awyrofod, a thechnolegau gofal iechyd o ganlyniad i dderbyn cymorth allforio gan LlC. Mae'r cymorth hefyd wedi cyfrannu at greu a chadw swyddi, gyda 43.8% o fusnesau a gefnogwyd yn diogelu swyddi a 17.1% yn cynyddu eu gweithlu. Dangosodd dadansoddiad ychwanegedd canfyddedig fod 12.4% o'r busnesau a gefnogwyd wedi dweud na fyddent 'yn ôl pob tebyg' neu'n 'bendant' wedi mynd ati i allforio. Mewn cyfweliadau, dywedodd llawer y byddent wedi wynebu heriau mawr heb gymorth allforio LlC, gan gynnwys diffyg gwybodaeth a hyder am y farchnad, cyfyngiadau ariannol, a mynediad cyfyngedig at rwydweithiau rhyngwladol.
Heriau a meysydd i'w gwella
Er bod y cymorth wedi bod yn hynod effeithiol, nododd llond llaw o fusnesau a rhanddeiliaid sawl maes i'w gwella. Nododd pump o ymatebwyr mewn diwydiannau rheoleiddiedig iawn nad oedd y cymorth bob amser wedi'i deilwra i anghenion cydymffurfiaeth a mynediad i'r farchnad busnesau. Gofynnodd pedwar am fwy o hyblygrwydd wrth gymeradwyo grantiau, yn enwedig ar gyfer sioeau masnach lle roedd oedi mewn penderfyniadau ariannu yn effeithio ar gyfranogiad. Cododd pedwar ymatebydd ddiffyg ymwybyddiaeth hefyd o'r cymorth sydd ar gael, gan alw am fwy o allgymorth ac ymgysylltu rhagweithiol i gynyddu cyfranogiad. Yn ogystal, mynegodd chwe ymatebydd yr angen am ganllawiau rheoleiddio cliriach ar ôl ymadael â'r UE, yn enwedig o ran tollau, TAW, a dogfennaeth allforio.
Cytundebau allforio newydd yn dilyn cymorth rhaglenni
Rhwng 2017–18 a 2024–25, adroddodd busnesau a gymerodd ran mewn rhaglenni cymorth allforio craidd gytundebau allforio gwerth cyfanswm o £455.5 miliwn. Dros yr un cyfnod, cyfanswm costau uniongyrchol rhaglenni oedd £22.2 miliwn, gan gynhyrchu cymhareb o werth allforio gros i gostau uniongyrchol rhaglenni o 20.5. Mae'r ffigur hwn yn cynnig trosolwg o ganlyniadau cyfanredol y pedair rhaglen gymorth graidd ar draws y cyfnod gwerthuso ac yn adlewyrchu graddfa'r gweithgaredd allforio a adroddwyd.
Casgliadau ac argymhellion
Mae cymorth allforio LlC wedi darparu cymorth ariannol a chynghori gwerthfawr, gan alluogi busnesau yng Nghymru i gyflawni twf mewn gwerthiannau allforio a chreu swyddi, yn ogystal â mwy o ymwybyddiaeth a hyder yn y farchnad. Rhoddodd busnesau gydnabyddiaeth eang i OVEs, OBDVs, a chymorth yn y farchnad am hwyluso cytundebau masnach rhyngwladol newydd. Er bod y rhaglenni'n cyflawni canlyniadau pwysig i fusnesau, gallai gwelliannau mewn canllawiau penodol i sectorau, prosesau ariannu a strategaethau ymgysylltu wella eu heffaith ymhellach.
Wrth i fusnesau allforio Cymru barhau i lywio heriau masnach fyd-eang, mae'r pedair rhaglen gymorth graidd yn parhau i fod yn ymyrraeth hanfodol. Maent yn helpu busnesau yng Nghymru i dyfu eu gweithgarwch allforio, cyfrannu at dwf busnes cyffredinol, a chryfhau safle Cymru fel gwlad allforio gystadleuol. Dylai mireinio yn y dyfodol ganolbwyntio ar sicrhau cymorth allforio wedi'i theilwra, effeithlon, ac wedi'i chyfleu'n dda, gan alluogi busnesau i gyflawni llwyddiant byd-eang cynaliadwy.
Argymhellion
Bwriad yr argymhellion yw arwain cynllunio a blaenoriaethu yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar gamau gweithredu a allai gryfhau perthnasedd, cyrhaeddiad ac effeithiolrwydd hirdymor cymorth allforio. Er bod rhai cynigion yn fwriadol uchelgeisiol, dylid cydbwyso eu gweithrediad yn erbyn capasiti gweithredol a blaenoriaethau strategol—gan bwysleisio'r rhai sydd â'r effaith bosibl a'r hyfywedd mwyaf o fewn strwythurau cyflawni presennol. Er mwyn gwella effeithiolrwydd, hygyrchedd ac effaith strategol cymorth allforio LlC, mae'r gwerthusiad yn argymell:
- gwella aliniad a dilyniant ymgynghorwyr yn rhaglen ITD, gan sicrhau bod cymorth wedi'i deilwra i anghenion y sector a'r farchnad
- cryfhau cymorth paratoi ac ôl-ymweliadau ar gyfer OBDVs ac OVEs, gan baratoi busnesau i drosi cyfleoedd yn ganlyniadau allforio
- ehangu canllawiau allforio penodol i sectorau a rheoleiddiol, yn enwedig ar gyfer sectorau cydymffurfiaeth uchel fel gwyddorau bywyd, awyrofod ac ynni adnewyddadwy
- archwilio hwyluso ymweliadau mewnol gan brynwyr a phartneriaid tramor, yn enwedig lle mae arddangosiadau cynnyrch neu ymweliadau safle o bwys masnachol
- cynyddu ymwybyddiaeth drwy fforymau penodol i'r sector a marchnata digidol gwell, gan amlygu cynigion cymorth a straeon llwyddiant perthnasol
- gwella cydweithio â chyfryngwyr a rhwydweithiau cymheiriaid, gan eu galluogi i gyfeirio at gymorth allforio yn fwy cyson
- gwella monitro hirdymor ac olrhain canlyniadau, gan ymgorffori metrigau strwythuredig, ysgafn, fel cyflogaeth, trosiant, a gwerthiannau allforio, mewn systemau CRM a llwybrau cymorth
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Tom Bajjada, Yasmin Pemberton, Joseff Howells, Scout Astley Jones, a Max Mucientes/ Miller Research (UK) Ltd.
Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Richard Gale
Tîm Dadansoddi Masnach, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Ystadegau.masnach@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 83/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-321-9
