Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwyf heddiw wedi dyroddi'r 7fed llythyr cylch gwaith i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Mae hwn yn gofyn i'r Corff ystyried pa gynnydd y dylid ei wneud i gyflogau a lwfansau athrawon ar gyfer 2026/2027.
Yn y cyfamser, rwyf wedi ymrwymo o hyd i fynd ar drywydd y blaenoriaethau a nodwyd gan ein partneriaid cymdeithasol yn Fforwm Partneriaeth Cyflog ac Amodau Athrawon:
- Symud Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i'r raddfa gyflog arweinyddiaeth
- Gwella amodau gwasanaeth arweinwyr (mater y gofynnwyd i'r Corff ei ystyried yn ail ran ei chweched cylch gwaith, gan adrodd arno cyn diwedd 2025)
- Gwella cyflog arweinwyr
- Symud athrawon dosbarth i un raddfa gyflog
- Lleihau llwyth gwaith ac oriau gwaith
Hoffwn ddiolch ymlaen llaw i'r rhanddeiliaid am eu hymgysylltiad â'r Corff ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'n gilydd ar y blaenoriaethau sydd gennym ar gyfer gwella cyflogau ac amodau i'n hathrawon rhagorol sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
