Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynhaliwyd trafodaethau ar sail deirochrog ynglŷn â chontract deintyddol newydd - y newid mawr cyntaf mewn 20 mlynedd – am y tro cyntaf ym mis Medi 2023, a daethant i ben ym mis Hydref 2024. Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2025, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ynghylch y contract arfaethedig a’r model cyflawni newydd.
Byddai’r contract newydd yn gwella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, yn disodli’r system bresennol o archwiliadau awtomatig bob chwe mis â system sy’n seiliedig ar anghenion iechyd y geg unigolion a risgiau, yn ogystal â darparu system decach a mwy tryloyw ar gyfer talu deintyddion. Ymgynghorwyd hefyd ar newidiadau i daliadau am ofal y GIG a newidiadau i delerau contract, er enghraifft absenoldeb rhiant.
Daeth mwy na 6,400 o ymatebion i’r ymgynghoriad i law a chânt eu cyhoeddi yn: Diwygio gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG | LLYW.CYMRU
Byddaf yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn brynhawn heddiw, gan nodi’r camau nesaf a’n hymateb i’r ymgynghoriad.
