Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu / Darparu Gwasanaethau
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig

Agor y cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau, a chafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies a Carl Alexis. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedwyr o ACC yn bresennol.
  2. Mae Dyfed Edwards, a oedd yn gadeirydd dros dro yn Betsi Cadwaladr, bellach wedi cymryd y swydd yn barhaol. Diolchodd y bwrdd iddo am ei amser a'i fewnbwn gwerthfawr yn ACC.
  3. Nododd y Cadeirydd sefyllfa lywodraethiant bresennol y Bwrdd. Er bod nifer yr aelodau anweithredol yn bodloni anghenion y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (DCRhT), bydd yn gweithredu gyda llai ohonynt yn y dyfodol hyd y gwelir. Fodd bynnag, nid yw'r Prif Weithredwr wedi penodi pob aelod gweithredol eto, a hynny er mwyn sicrhau bod mwyafrif y rhai sy’n bresennol mewn cyfarfodydd yn aelodau anweithredol.
  4. Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol (Tachwedd 23) yn gofnod cywir o drafodaethau.
  5. Doedd dim sylwadau ar y papurau i'w nodi.

Adroddiadau

Adroddiad ar Berfformiad

Wedi'i olygu

Adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu

  1. Wedi'i olygu
  2. Cafwyd diwrnod cwrdd i ffwrdd da gyda holl staff ACC yn ddiweddar, bu ymgysylltu da a chwestiynau am fod yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar wasanaethau.
  3. Mae grŵp ffocws yn parhau i drafod dulliau gweithio hybrid, yn dilyn arolwg mewnol – y camau nesaf yw ymgysylltu ymhellach â staff.
  4. Wedi'i olygu
  5. Mae TA hefyd wedi dechrau trafod y cynllun corfforaethol nesaf, yn bennaf pa fesurau perfformiad fyddai'n fwyaf addas ar gyfer strwythur y sefydliad yn y dyfodol.

Adroddiad SDLG 

  1. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau yr adroddiad diweddaraf. Roedd y Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau (SDLG) wedi bod yn canolbwyntio ar adnoddau, ac yn trafod pa alluoedd fydd ar ACC eu hangen wrth symud tuag at ddull sy'n seiliedig ar wasanaethau.
  2. Wedi'i olygu

Adroddiad Trysorlys Cymru

Wedi'i olygu

Adroddiad Cyllid ac ARAC

  1. Wedi'i olygu
  2. Cafodd ARAC drafodaeth dda ar y datganiad archwaeth risg, ac roedd yn teimlo bod y sefydliad yn gweithredu yn unol â'r datganiad presennol.
  3. Roedd y Prif Weithredwr / Swyddog Cyfrifyddu yn teimlo bod y lefel archwaeth bresennol yn briodol o ran darparu gwasanaeth. Fodd bynnag, o ran archwaeth risg ariannol, mae’n bosibl mai dwy elfen wahanol sydd yma: y risg o orwario (sydd â goddefgarwch risg isel iawn), a rheolaeth gwariant mewn gwahanol feysydd (lle mae mwy o oddefgarwch o ran newid bwriad gwariant, yn ôl anghenion busnes, a'r hyn sydd fwyaf priodol ar y pryd). Awgrymwyd y dylai TA adolygu'r posibilrwydd o rannu'r Datganiad Archwaeth Risg cyllid yn ddau gategori, er mwyn caniatáu hyblygrwydd rheoli cyllid yn y dyfodol.
  4. Wedi'i olygu

A24-01-02: TA i drafod ac i ystyried a ddylid rhannu categori cyllid y Datganiad Archwaeth Risg.

A24-01-03: TA i ystyried cynnwys y gofrestr risg, gan gynnwys effaith adnoddau ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol ac i sicrhau bod achosion/lliniaru yn glir, ac i ystyried risg ychwanegol i’r ddarpariaeth o wasanaethau.

Rhanddeiliaid ACC

  1. Wedi'i olygu
  2. Mae trafodaethau wedi bod ar y gweill i ddrafftio briff i amlinellu sefyllfa, dull, a risgiau a chyfleoedd cyllideb ACC ar gyfer y Prif Weinidog newydd ac o bosibl Gweinidog Cyllid newydd.
  3. Bydd gan ACC stondin yn y digwyddiad Civil Service Live nesaf yng Nghymru, a’r gobaith yw y bydd yn helpu i hyrwyddo ei ddull ac yn rhoi cyfle i ehangu ei allu.

Trafodaeth y Bwrdd

Safonau’r Gymraeg

  1. Rhannodd y Pennaeth Cyfathrebu ddiweddariad ar amserlenni Safonau'r Gymraeg. Bydd ACC yn dod o dan y safonau yn ffurfiol o fis Mehefin 2025, gydag ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg ym mis Hydref 2024 i fesur lefel y safonau a fydd yn berthnasol i ACC.
  2. Mae'r tîm cyfathrebu wedi cwblhau archwiliad ar draws y sefydliad ac wedi ymgorffori agweddau Cymraeg ymhellach yn y broses sefydlu ar gyfer gweithwyr newydd. Mae gwaith ymgysylltu pellach ar y gweill hefyd, gan rannu arferion gorau gyda sefydliadau eraill, yn enwedig yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Myfyrdodau risg a goblygiadau ariannol 

  1. Rhoddodd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd a’r Pennaeth Cyllid grynodeb o'r risg a'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig â thrafodaethau'r diwrnod (sydd wedi’u cynrychioli yn y cofnodion).

Cau’r cyfarfod

  1. Soniodd yr aelodau am drafodaethau'r dydd, a oedd ag ystyriaethau risg eang.
  2. Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 20 Mawrth. Roedd diwrnod cwrdd i ffwrdd strategaeth haf wedi’i roi yn y dyddiadur ar gyfer mis Gorffennaf.
  3. Nid oedd unrhyw fusnes arall.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.