Gosododd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru systemau gwresogi carbon isel ar dri safle gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni.
Crynodeb
Ym mis Ionawr 2025, sicrhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru dros £198,000 drwy Rownd 1 Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus. Roedd hyn yn cwmpasu 90% o'r costau cyfalaf ar gyfer gosod systemau gwresogi carbon isel mewn tri safle gweithredol: Blaenafon, Abersychan, a Chwm Ogwr.
Ein cymorth
Cymorth â cheisiadau am arian, canllawiau technegol ar ddewis pwmp gwres a dylunio systemau, a chyngor strategol ar osodiadau sy'n addas i'r dyfodol.
Datrysiad technoleg
- Amnewid gwresogyddion nwy gyda phympiau gwres ffynhonnell aer Mitsubishi 14 kW ym mhob un o'r tri safle.
- Cysylltiadau Grid Cenedlaethol wedi'u huwchraddio.
- Gwresogyddion tanddwr â dau goil wedi'u gosod i alluogi integreiddio yn y dyfodol â systemau solar PV.
Buddsoddiad
- £198,000 o gyllid grant drwy Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus, sy'n cwmpasu 90% o'r costau cyfalaf.
Effaith
- Disgwylir arbed 13 tCO₂e yn y flwyddyn gyntaf.
- Arbed 275 tCO₂e dros oes 15 mlynedd y pympiau gwres.
- Gwell effeithlonrwydd ynni a pharodrwydd ar gyfer integreiddio ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.
- Cefnogi nodau cynaliadwyedd a gwytnwch gweithredol ehangach y gwasanaeth.
Gyda chyllid a chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni, roeddem yn gallu datgarboneiddio gwres mewn tair o'n gorsafoedd tân: Blaenafon, Abersychan a Cwm Ogwr. Gosodwyd pympiau gwres ffynhonnell aer a gwresogi trydan mewn cilfachau offer a phrosiectau’n cael eu cyflawni yn gyflym ac yn ddidrafferth. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a'r arbenigedd a gynigir gan y Gwasanaeth Ynni ac yn gobeithio parhau gyda'r momentwm ynghylch gwres carbon isel, i barhau i arallgyfeirio a diogelu sut mae ein gwasanaeth yn cael ei bweru a chydweithio ar atebion.
Bethan Harvey, Swyddog Cynaliadwyedd, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
